Julie Mayers

Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadura

Picture of staff member

Gan roi dros 35 mlynedd o wasanaeth ym Mhrifysgol Wrecsam, mae Julie wedi gweithio mewn llawer o adrannau, gweithredol ac academaidd, ac wedi gweld datblygiad parhaus y Brifysgol, a chymryd rhan yn y datblygiad hwnnw.

Ei rôl bresennol yw Uwch Ddarlithydd Cyfrifiadura, ac Arweinydd Rhaglen ar gyfer cyrsiau Ôl-radd o fewn y maes pwnc Seiber a Chyfrifiadura. 

Ar hyn o bryd mae Julie yn ymchwilio i'r potensial o ddefnyddio robotiaid mewn amgylchedd addysgiadol, o ran addysgeg. Mae'r meysydd eraill sydd o ddiddordeb iddi yn cynnwys 'adeiladu gallu digidol o fewn y Brifysgol' a 'gwerthuso sgiliau darllen ymhlith plant oed cynradd drwy ddefnyddio ci robotig'. 

Yn ystod ei rolau niferus yn y Brifysgol, Julie oedd yr arloeswr gwreiddiol a ddaeth â’r Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL) i’r Brifysgol. Roedd hi hefyd yn gydweithiwr allweddol yn natblygiad cynnar systemau busnes yn y Brifysgol, gan gyflwyno Microsoft Exchange a manteision Active Directory. 

“Os credwch y gallwch chi, rydych chi hanner ffordd yno." — Theodore Roosevelt. 

Prosiectau Ymchwil

Teitl Rôl Disgrifiad
Gwella Hyder a Sgiliau Darllen Plant Ysgol Gynradd: Cymharu Darllen i Gi, Ci Robotig ac Athro/Athrawes fel Senarios Arferol Cyfraniad at yr ymchwil Gall datblygu sgiliau llythrennedd cryf wella llesiant seicolegol unigolyn yn fawr, ynghyd â'i fodlonrwydd cyffredinol â bywyd. Fodd bynnag, gall ysgogi plant i feithrin y sgiliau hyn fod yn heriol. Mae dulliau dysgu arloesol yn hanfodol er mwyn ennyn diddordeb plant mewn dysgu, ac mae'n arbennig o bwysig annog plant i ddarllen o oed ifanc. Nod yr astudiaeth hon yw archwilio profiadau plant o ddarllen i gŵn robotig, cŵn byw, a darllen gydag athro drwy ddefnyddio dulliau cymysg.

Pwyllgorau

Enw Disgrifiad Hyd/O 
Academic Integrity Mewnol 2022
EC Panel Mewnol 2022

Addysg

Sefydliad Cymhwyster Pwnc
Prifysgol Wrecsam MA Education Addysg
Prifysgol Wrecsam BSC (Hons) Business Information Technology cyfrifiadura
Advanced HE Fellowship of Higher Education Academy Addysg
Prifysgol Wrecsam Postgraduate Certificate in Professional Development in HE Addysg
BCS The Chartered Institute for IT ECDL Expert cyfrifiadura

Adolygydd neu Olygydd Cylchgronau

Enw'r Cyfnodolyn Gweithgaredd
Trafodion Gweithdy Cyntaf BCS ar Iechyd yng Nghymru Adolygydd Cymheiriaid
Trafodion Cynhadledd Ryngwladol Firth ar Dechnolegau a Chymwysiadau'r Rhyngrwyd (ITA17) Adolygydd Cymheiriaid

Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu

Teitl Pwnc
Digital Technologies COM***
Postgraduate Study and Research Methods COM742
Applied Research Methods CONL717
The Skills You Need FY301
Applied ICT for Social Work - Informational Analysis 1 SWK403
Information and Systems Engineering COM437
Critical Research for Postgraduate Study CONL701
Dissertation COM738