Picture of staff member

Addysg:
Dechreuodd Lisa ar ei siwrnai academaidd gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf gan ysgol ddylunio enwog Prifysgol Swydd Hertford. Gan adeiladu ar y sylfaen hon, parhaodd â’i haddysg, gan ennill gradd TAR a Gradd Meistr mewn Ymarfer Dylunio, gan gyfoethogi ei sgiliau a’i gwybodaeth mewn addysg a dylunio graffeg.

Mae profiad addysgu helaeth ac amrywiol Lisa wedi cyfrannu’n fawr at ei gyrfa. Gan ddefnyddio’i harbenigedd fel dylunydd graffeg ers diwedd y 1990au, mae hi wedi pontio’n ddi-dor i rôl addysgwr. Mae Lisa wedi gweithio fel darlithydd mewn sefydliadau uchel eu bri, gan drosglwyddo’i gwybodaeth a’i threiddgarwch i ddarpar ddylunwyr.

Er mai ei hymroddiad i addysgu a gaiff y lle blaenaf, mae Lisa yn parhau i ymhél ag ymarfer proffesiynol. Mae ei chyfnodau’n gweithio mewn amryfal asiantaethau dylunio, lle cafodd weithio gyda chleientiaid amlwg yn Llundain a Chaer, wedi cynnig profiad amhrisiadwy iddi o’r byd go iawn. Mae’r cyfuniad hwn o’r byd academaidd ac arbenigedd yn y diwydiant yn galluogi Lisa i gyflwyno dealltwriaeth gynhwysfawr o arferion dylunio graffeg cyfoes i fyfyrwyr.

Amlygir ysbryd entrepreneuraidd Lisa yn ei llwyddiant i sefydlu a rheoli asiantaeth hysbysebu a dylunio graffeg am ddegawd. Mae’r profiad entrepreneuraidd hwn yn cyfoethogi ei gwaith addysgu, oherwydd mae’n cyfrannu treiddgarwch uniongyrchol at agweddau busnes ar y diwydiant dylunio, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer y realiti sy’n perthyn i ymarfer proffesiynol.

Mae gallu creadigol Lisa yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Mae wedi arddangos ei gwaith mewn orielau uchel eu bri, yn cynnwys yr MOT Gallery yn Llundain, Galeri Caernarfon ac Oriel Sycharth. Hefyd, cynhwyswyd ei chyfraniadau at y maes mewn cyhoeddiadau mawr eu bri fel y cylchgrawn Frieze, Design Week a LiveWire, gan gadarnhau ei statws fel ffigwr uchel ei barch yn y maes dylunio graffeg.

Mae Lisa yn aelod gweithgar o Gymdeithas Siartredig y Dylunwyr a’r IPA (Sefydliad yr Ymarferwyr Hysbysebu), gan adlewyrchu ei hymrwymiad i gynnal safonau’r diwydiant a meithrin datblygiad proffesiynol ymhlith ei chymheiriaid a’i myfyrwyr fel ei gilydd.

Er gwaethaf ei gyrfa glodwiw a’i hanrhydeddau niferus, mae Lisa yn danbaid o hyd dros addysgu a dylunio. Mae’n parhau i ysbrydoli a grymuso’r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr trwy gyfrwng ei rôl fel darlithydd a thrwy redeg ei chwmni dylunio ei hun, a1000words, lle mae’n parhau i arloesi a gwthio ffiniau dylunio graffeg.

A hithau’n meddu ar arbenigedd, profiad yn y diwydiant a chraffter entrepreneuraidd, mae Lisa mewn sefyllfa wych i greu effaith ddofn fel darlithydd dylunio graffeg, gan feithrin doniau arweinwyr dylunio’r dyfodol a chan ddylanwadu ar gyfeiriad y diwydiant.