Yr Athro Maria Hinfelaar

Is-ganghellor, Prif Weithredwr

    Picture of staff member

    Mae Maria yn Is Ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol Wrecsam ers 2016. Mae’n hanu o’r Iseldiroedd ac wedi treulio nifer helaeth o flynyddoedd yn byw ac yn gweithio mewn gwledydd lle siaredir Saesneg.

    Ym Mhrifysgol Wrecsam, mae Maria yn arwain tîm sy’n codi cofrestriadau o’r DU ac yn rhyngwladol ac yn dyfnhau cysylltiadau â diwydiant a’r gymuned, yn unol â’r strategaeth a fabwysiadwyd gan y Bwrdd sy’n gosod y Brifysgol fel sefydliad angor i’r rhanbarth. Mae hi’n eistedd ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r Mersey-Dee Alliance Board. Mae ganddi ran uniongyrchol yn natblygiad Bargen Twf y Gogledd, ynghyd â phartneriaid o’r awdurdod lleol, diwydiant a’r byd academaidd. Ar ben hynny, hi yw enwebai Prifysgolion Cymru ar fwrdd Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) y DU.

    Ymunodd Maria â’r Brifysgol yn dilyn cyfnod llwyddiannus fel Llywydd a Phrif Swyddog Cyfrifo Sefydliad Technoleg Limerick yn Iwerddon. Goruchwyliodd ddatblygiad sylweddol y Sefydliad, cynyddu cofrestriadau ac ychwanegu lleoliadau campws yn Limerick a Tipperary.

    Wedi cwblhau astudiaethau israddedig ym Mhrifysgol Leiden yn yr Iseldiroedd yn yr 1980au, derbyniodd Maria ysgoloriaeth i ddilyn astudiaethau ôl-radd ym Mhrifysgol Caerlŷr, ac yna gwnaeth gwrs TAR. Yn nes ymlaen yn ei gyrfa academaidd a phroffesiynol, cwblhaodd Ddoethuriaeth mewn busnes rhyngwladol gyda Phrifysgol Maastricht, yr Iseldiroedd. Mae hi hefyd wedi cyhoeddi yn y maes hwn. Graddiodd o Sefydliad Rheolaeth Uchaf Sefydliad Arweinyddiaeth y DU ac mae’n Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch. Ei diddordebau ymchwil cyfredol yw ymchwilio i rôl prifysgolion mewn ardaloedd ymylol.

    Pwynt arall o ddiddordeb: mae Maria yn feiciwr brwd ac wedi cymryd rhan mewn rasys ffordd yng Ngwlad Belg a’r Iseldiroedd dros flynyddoedd lawer. Mae hi’n mwynhau mynd o amgylch golygfeydd godidog Gogledd Cymru ar ei beic rasio, gyda’i gŵr Graham.

     

    Mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau mewn cyfnodolion ar destun manwerthu rhyngwladol; yn ystod ei gyrfa gynnar ysgrifennodd werslyfrau Saesneg Busnes a ddefnyddir yn helaeth drwy addysg pellach ac uwch yn Yr Iseldiroedd. Mae ei chyhoeddiadau ymchwil ryngwladol ddiweddaraf yn cwmpasu polisi a chydweithrediadau addysg uwch Iwerddon, cynghreiriau a chyfuniadau yn y sector.

    Gradd B.A. (Anrh) mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Degree, Prifysgol Leiden, Yr Iseldiroedd.

    Gradd M.A. mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Americanaidd Diweddar, Prifysgol Caerlyr, DU.

    Tystysgrif Ôl-radd mewn Addysg, Prifysgol Caerlyr, DU.

    Dyfarnwyd Ph.D yn 2004, a gyhoeddwyd yn llyfr o'r enw Key Success Factors in International Retailing, Prifysgol Maastricht, Yr Iseldiroedd.

    Mae Maria yn raddedig o Raglen Prif Reolwyr Sefydliad Arweinyddiaeth y DU ac yn Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch.