Ar ôl treulio blynyddoedd cynnar fy ngyrfa fel hyfforddwr personol mewn campfa a hyfforddwr atgyfeiriadau gan feddygon teulu, hyfforddais mewn Therapi Galwedigaethol ym Mhrifysgol Southampton - gan raddio yn 2016.
Yn ddiweddarach treuliais sawl blwyddyn yn gweithio mewn ymarfer fforensig, yn benodol o fewn Ysbyty Diogelwch Uchel. Cyn ymuno â thîm Wrecsam, derbyniais y rôl gyntaf o’i math fel therapydd galwedigaethol o fewn Gwasanaeth Ymyrraeth Stelcio yn Hampshire – rôl newydd sbon ar gyfer Therapi Galwedigaethol, gan weithio law yn llaw â’r Heddlu, Swyddog Prawf a’r Gwasanaeth Eiriolaeth i Ddioddefwyr.
Rwyf bellach yn gweithio’n rhan-amser fel Uwch Ymarferydd Fforensig o fewn tîm anableddau dysgu cymunedol.
Fy mhrif ddiddordebau tu hwnt i’r gwaith yw pêl-droed (rwy’n gefnogwr brwd o dîm Lerpwl), badminton, CrossFit a threulio amser gyda’n dau gi selsig!
Cyhoeddiadau
Blwyddyn | Cyhoeddiad | Math |
---|---|---|
2022 | Stalking and the role of occupational therapy "you're not living life to the full if you're stalking", JOURNAL OF CRIMINAL PSYCHOLOGY. [DOI] Wheatley, Rachael;Baker, Sam |
Peer Reviewed Journal |
Anrhydeddau a Gwobrau
Dyddiad | Teitl | Corff Dyfarnu |
---|---|---|
2016 | BSc Occupational Therapy | Prifysgol Southampton |
2021 | MSc Advanced Occupational Therapy | Prifysgol Derby |
2022 | PGcert Learning and Teaching in Higher Education | Prifysgol Glyndwr Wrecsam |