Serina Jenkin-Davis
Uwch-ddarlithydd mewn Ffisiotherapi
Ymunodd Serina â Phrifysgol Wrecsam yn 2024. Cymhwysodd fel Ffisiotherapydd Siartredig yn 2007 o Brifysgol Salford. Ar ôl cymhwyso, treuliodd Serina nifer o flynyddoedd yn ymgymryd â gwaith ffisiotherapi craidd, cyn arbenigo mewn meddygaeth gyhyrysgerbydol. Mae Serina wedi gweithio mewn nifer o Ymddiriedolaethau’r GIG a hefyd mewn practisau preifat yn Llundain, Swydd Gaer a Gogledd Cymru. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio’n rhan-amser yn y brifysgol, gan barhau i weithio’n glinigol fel Ymarferydd Ffisiotherapi Uwch mewn Gofal Sylfaenol yng Nghaer. Mae Serina yn meddu ar gymwysterau ôl-radd mewn Therapi Pigiad a Phresgripsiynu Anfeddygol.
Yn ei hamser hamdden, mae Serina wrth ei bodd yn treulio amser gyda’i theulu. Hefyd, mae’n mwynhau padlfyrddio, a rhedeg gydag Eric, ei chi Cockapoo. Yn ddiweddar, llwyddodd i gwblhau llwybrau 55 cilometr Ardal y Llynnoedd.