Yasmin Washbrook
Darlithydd Gwaith Ieuenctid a Chymuned
Cafodd Yasmin Radd BA (Anrh.) Dosbarth Cyntaf mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol ym Mhrifysgol Newman, gan ennill statws proffesiynol JNC; gan symud ymlaen i raddio ar lefel Meistr yn yr un maes. Mae Yasmin yn parhau â’i datblygiad proffesiynol drwy gwblhau ei thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysgu a Dysgu Addysg Uwch, yma ym Mhrifysgol Wrecsam.
Mae gan Yasmin 14 mlynedd o brofiad o Waith Ieuenctid a Chymunedol. Mae wedi cael cyfle i weithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Cymru, Lloegr a Malta. Mae rhai o’r rhain wedi cynnwys; clybiau ieuenctid ar lawr gwlad, gwasanaethau ieuenctid statudol, gwobrau Dug Caeredin, cartrefi plant, darpariaeth tai a digartrefedd ieuenctid gan gynnwys ymgysylltiad ieuenctid cenedlaethol a gwaith ieuenctid digidol. Mae Yasmin wedi canolbwyntio ar gefnogi ac annog pobl ifanc ledled Lloegr i gael dweud eu dweud drwy ddylanwadu polisi sefydliadol, Llywodraethol a strwythurol a systemau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu profiadau bywyd.
Daeth Yasmin yn aelod o’r Sefydliad Gwaith Ieuenctid, gan gael ei hethol i’r Cyngor, yn 2020; mae’n gweithio ar gefnogi’r nodau strategol ac uchelgais y sefydliad i fod yn llais gweithwyr ieuenctid ledled y DU.
Hobïau: mae Yasmin yn treulio ei hamser rhydd yn garddio a chyfuno’r hobi hwn gyda chreu crefftau. Mae Yasmin hefyd yn mwynhau teithio o amgylch Cymru a Lloegr i ddatblygu ei sgiliau ffotograffiaeth.
Cyhoeddiadau
Blwyddyn | Cyhoeddiad | Math |
---|---|---|
2023 | Engaging in race equity: navigating power and privilege in higher education, Advance HE News + Views. Yasmin Washbrook;Ali Bloomfield;Claire Taylor |
Cyhoeddiad Arall |
2022 | YOU-THE VOICE: USING AUTO-ETHNOGRAPHIC AND COLLABORATIVE AUTO-ETHNOGRAPHIC METHODOLOGIES IN YOUTH AND COMMUNITY WORK, Youth Voice Journal. Yasmin Washbrook;Emma Beacon |
Cyhoeddiad Arall |
2021 | Educating Informal Educators on Issues of Race and Inequality: Raising Critical Consciousness, Identifying Challenges, and Implementing Change in a Youth and Community Work Programme, EDUCATION SCIENCES, 11. [DOI] Achilleos, Jess;Douglas, Hayley;Washbrook, Yasmin |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2021 | Educating Informal Educators on Issues of Race and Inequality: Raising Critical Consciousness, Identifying Challenges, and Implementing Change in a Youth and Community Work Programme, [DOI] Achilleos, Jess;Douglas, Hayley;Washbrook, Yasmin |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu
Teitl | Pwnc |
---|---|
Contextual Studies | FY302 |
Placement 3 - Leading in Professional Practice | YCW611 |
Negotiated Learning | YCW712 |
Young People's Development | YCW317 |
Anti-Discriminatory Practice in Youth and Community Work | YCW316 |
Values & Principles of Youth and Community Work | YCW411 |
Working Creatively With Groups | YCW412 |
Youth and Community in Practice 2 | YCW319 |
Youth and Community in Practice 1 | YCW318 |