BN (Anrh) Nyrsio Iechyd Meddwl
Manylion cwrs
Côd UCAS
MHJN (Maw '25) MH22 (Medi '25)
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
3 BL (llawn-amser)
Tariff UCAS
96-112
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
St Asaph, Wrecsam
Course Highlights
1af yn y DU
ar gyfer Boddhad Myfyrwyr*
1af yn y DU
ar gyfer Ansawdd Addysgu a Profiad Myfyrwyr*
Cydradd 1af yn y DU
ar gyfer Rhagolygon Graddedig*
Pam dewis y cwrs hwn?
Cychwyn ar daith werth chweil gyda gradd nyrsio Iechyd Meddwl, lle byddwch yn cael y cyfle i ofalu am bobl o bob oed, ynghyd â'u teuluoedd a'u gofalwyr. Ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym yn canolbwyntio ar eich arfogi â'r wybodaeth a'r sgiliau hanfodol i ddod yn nyrs iechyd meddwl graddedig hyderus a chofrestredig gyda'r NMC.
Bydd myfyrwyr yn:
- Elwa ar ein tîm addysgu cefnogol a hawdd mynd ato, sydd bob amser yn barod i'ch arwain gyda'n polisi drws agored.
- Bydd gennych fynediad i'n Hystafell Efelychu Gofal Iechyd blaengar, sy'n dod â chi mor agos at sefyllfaoedd clinigol 'bywyd go iawn' â phosibl, gan sicrhau eich bod yn barod ar gyfer lleoliadau a gyrfa ôl-gymhwyso.
- Bydd gennych diwtor personol a fydd yn eich arwain yn eich datblygiad personol a phroffesiynol trwy gydol eich amser gyda ni.
- Byddwch yn cael eich cefnogi wrth weithio mewn lleoliadau clinigol gan dîm practis, i sicrhau eich bod yn cyrraedd eich llawn botensial fel nyrs iechyd meddwl yn y dyfodol.
- Byddwch yn gymwys i gael bwrsariaeth lawn gan GIG Cymru nad yw’n ad-daladwy, os ydych yn ymrwymo i weithio mewn lleoliad GIG Cymru am ddwy flynedd ar ôl cymhwyso.
*Mae'r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc sydd yn 1af yn y DU am Fodlonrwydd Myfyrwy yn y Canllaw Prifysgolion Cyflawn, 2025
*Mae’r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc sydd yn safle 1af yn y DU am Ansawdd Addysgu a Brofiad Myfyrwyr yn nhabl cynghrair maes pwnc Nyrsio yng Nghanllaw Prifysgolion Da’r Times a’r Sunday Times 2025.
*Mae’r maes pwnc hwn yn 2il yn y DU a 1af yng Nghymru yn nhabl cynghrair maes pwnc Nyrsio a Bydwreigiaeth yn Nhabl Cynghrair Prifysgolion y Daily Mail, 2024.
Nyrsio acIechyd Perthynol
Prif nodweddion y cwrs
- Ennill cymhwyster a gymeradwyir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
- Profwch leoliadau dysgu ymarfer amrywiol gyda'n bwrdd iechyd lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).
- Manteisiwch ar leoliadau dysgu ymarfer dewisol yn eich ail a thrydedd flwyddyn o astudio.
- Mwynhewch leoliadau trwy gydol eich tair blynedd yng Nghymru, gan gwmpasu amrywiaeth eang o leoliadau.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd eich sesiynau theori yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu ac addysgu gan ddefnyddio dull cyfunol, gan ystyried Fframwaith Dysgu Gweithredol Prifysgol Wrecsam, gan gynnwys darlithoedd, dysgu seiliedig ar broblemau, trafodaethau asyncronnous, seminarau a sesiynau caffael sgiliau.
Mae mynediad i amgylcheddau dysgu rhithwir fel Moodle a Safemedicate - pecyn dysgu i helpu i ddatblygu sgiliau rhifedd a rheoli meddyginiaethau, yn nodweddion annatod o'ch dysgu.
Mae'r rhaglen yn adeiladu o ran lefel academaidd a chyfrifoldeb proffesiynol wrth iddi fynd rhagddi drwy gydol y tair blynedd gan eich galluogi i ddod yn fwy hunangyfeiriedig yn eich dysgu gyda phwyslais tuag at ddiwedd eich rhaglen ar arweinyddiaeth a datblygiad fel nyrs gofrestredig.
BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)
Ym mlwyddyn un byddwch yn canolbwyntio ar y sgiliau gofal sylfaenol sydd eu hangen i ymarfer fel gweithiwr proffesiynol gofalgar, caredig, tosturiol sy'n gwerthfawrogi ac yn parchu anghenion unigol y claf, y teulu a'r gofalwyr.
Modiwlau
- Hanfodion Ymarfer Nyrsio Iechyd Meddwl (40 credyd)
- Rheoli Bregusrwydd mewn Cymdeithas (40 credyd)
- Sylfeini Iechyd a Lles (40 credyd)
BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)
Ym mlwyddyn dau byddwch yn canolbwyntio ar y gyfraith a moeseg, pwyslais ar gydrannau cyfannol cyflyrau iechyd meddwl acíwt amrywiol a hirdymor, ymchwil a gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Modiwlau
- Datblygu'r ymarferydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth (40 credyd)
- Diwallu anghenion Cleifion a theuluoedd mewn salwch acíwt a chronig (Iechyd Meddwl) (40 credyd)
- Hyrwyddo Ymddygiad Iach (40 credyd)
BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)
Ym mlwyddyn tri byddwch yn canolbwyntio ar reoli newid, grymuso defnyddwyr gwasanaeth a theulu/gofalwyr, biowyddoniaeth gymhwysol ar gyfer gofal cymhleth a datblygiad personol a phroffesiynol i'ch paratoi ar gyfer dod yn nyrs gofrestredig.
Modiwlau
- Arloesi mewn Ymarfer (40 credyd)
- Cydlynu Gofal Cymhleth mewn Iechyd Meddwl yn Holistaidd (40 credyd)
- Arwain a Rheoli Gofal Nyrsio (40 credyd)
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae'n rhaid i chi gael o leiaf pum TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg, Mathemateg (neu gyfwerth) a thystiolaeth o sgiliau TG.
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 96-112 pwynt tariff UCAS yn TAG Lefel A neu gyfatebol.
Fel arall, mae'n ofynnol bod gennych un o'r canlynol:
NVQ 3 (gyda thystiolaeth o Saesneg, Mathemateg a TGCh fel uchod)
neu
Wedi cwblhau naill ai ‘Mynediad i Iechyd’ neu ‘Mynediad i Nyrsio’ (o Goleg Addysg Bellach sydd wedi ei gymeradwyo gan naill ai Agored Cymru neu OCN Gogledd-orllewin Lloegr (cymeradwywyd gan ASA) a'i fod wedi'i gyflawni ar y lefel canlynol: 112 o bwyntiau tariff UCAS).
Ar ben hyn:
- Cynhelir cyfweliadau ar 'Teams' gyda staff academaidd, defnyddwyr gwasanaeth a/neu staff o'r GIG.Bydd prawf rhifedd a llythrennedd yn cael ei gynnal yn y cyfweliad.
- Mae profiad o weithio mewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol yn werthfawr.
- Bydd angen GDG os yn llwyddiannus yn y cyfweliad.
- Bydd angen sgrinio iechyd galwedigaethol os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad.
- Gellir gwneud cynigion amodol i'r bobl hynny sy'n astudio ar hyn o bryd ac yn aros am ganlyniadau academaidd.
- Gofynnir am arholiad IELTS os ystyrir bod angen, gyda sgôr cyffredinol o 7 yn ofynnolar gyfer mynediad i'r rhaglen yn unol â gofynion y brifysgol a'r corff proffesiynol
Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â meddalwedd 'Teams' cyn eich cyfweliad.
Addysgu ac Asesu
Mae angen i chi gyflawni o leiaf 2300 awr o ymarfer damcaniaethol a 2300 clinigol i alluogi cofrestru fel nyrs Iechyd Meddwl gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Byddwch yn cael eich asesu gan amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys:
- Asesiad Ymarfer a phortffolio clinigol
- Aseiniadau ysgrifenedig
- Cyflwyniadau
- Arholiadau
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Bydd cwblhau'r radd hon yn llwyddiannus yn galluogi myfyrwyr i fod yn gymwys i wneud cais i gofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC). Mae hyn yn golygu, unwaith y bydd myfyrwyr yn dod yn gofrestrydd gyda'r NMC, y gallant ymarfer fel nyrs gofrestredig.
Gall gyrfaoedd mewn nyrsio iechyd meddwl gynnwys:
- Cyfleoedd i weithio mewn sefydliadau'r GIG mewn ysbytai, cymunedol, gwasanaethau arbenigol, gwasanaethau iechyd meddwl fforensig, a gofal sylfaenol.
- Mae sefydliad sector preifat yn arbenigo mewn gofal iechyd meddwl fforensig, gofal cartref nyrsio, a gwasanaethau cyffuriau ac alcohol arbenigol.
Gall rolau gynnwys:
- Gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl
- Gwasanaethau seicosis ymyrraeth gynnar
- Gwasanaethau anhwylderau bwyta
- Gwasanaethau alcohol a defnyddio sylweddau
- Gwasanaethau iechyd meddwl acíwt a chronig
- Gwasanaethau gofal dementia
- Gwasanaethau gofal sylfaenol
Gall nyrsys iechyd meddwl cofrestredig ddisgwyl cyfnod o dderbynnydd i drosglwyddo o fyfyriwr nyrsio i ymarferydd cofrestredig (mae hyn yn cael ei drefnu gan eu cyflogwr).
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.
Rhyngwladol
Os ydych yn ymgeisio fel Myfyriwr Rhyngwladol/Ewropeaidd, ac yn byw tu allan i'r DU, dylech wneud eich cais drwy ein system cais ar-lein, Centurus.
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.
Gwnewch Cais
Derbyniad Mawrth 2025:
Derbyniad Medi 2025: