“Canolbwyntio’n llwyr ar Ymarfer Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru”

A book sitting on a table

Gwahoddwyd Dr Caroline Hughes, Deon Cyswllt, Ymgysylltu â Myfyrwyr, i draddodi’r anerchiad agoriadol wrth lansio’r llyfr 'Social Work in Wales' (Livingston et al., 2023) ym Mhrifysgol Wrecsam, Gorffennaf 2023.

Medd Dr Hughes:Bore da a chroeso cynnes i chi i gyd.

Pleser ac anrhydedd yw croesawu pob un ohonoch yma i lansiad Social Work in Wales – llyfr pwysig, a’r cyntaf i gynnig astudiaeth fanwl o natur unigryw ymarfer Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru.

Mae hi’n wych gweld cynifer ohonoch yma – cymysgedd o aelodau’r tîm golygyddol, awduron y penodau, aelodau Outside In, myfyrwyr, cydweithwyr, partneriaid strategol a chyfeillion y Brifysgol. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau gweddill y bore wrth ddysgu rhagor am siwrnai’r llyfr a’r hyn y mae lansio’r llyfr cyntaf sy’n canolbwyntio’n llwyr ar Ymarfer Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru yn ei olygu.

Mae heddiw yn gyfle inni ddathlu’r llyfr unigryw hwn sy’n dwyn ynghyd leisiau academyddion, gofalwyr, teuluoedd, unigolion, ymarferwyr ymchwilwyr a myfyrwyr er mwyn archwilio’r cyd-destun Cymreig, enghreifftiau o ymarfer a heriau cyfredol yn ymwneud â Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru.

Book contributors gathered on/ near steps in reception area

Byddwn yn clywed gan y Golygyddion – yr Athro Wulf Livingston, Abyd Quinn Aziz a Dr Jo Redcliffe a fydd yn sôn am fan cychwyn y llyfr hwn sy’n ymhél â gwaith cymdeithasol yng Nghymru, a hefyd am y modd y mae cydberthnasau a grëwyd gyda Phrifysgolion Cymru, gan weithio ochr yn ochr ag Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus Gofal Cymdeithasol Cymru er budd gweithwyr cymdeithasol, wedi cynnig llwyfan ar gyfer y cydweithio hwn ledled Cymru.

Hefyd, byddwn yn clywed gan rai o awduron y penodau, yn cynnwys Eluned Plack, Hayley Douglas a Liz Lefroy.

Mae darlun pwerus Eluned, sef ‘Cwilt Bywyd’, yn cynnig delwedd o glawr y llyfr, a gellir dod o hyd i eiriau ysbrydoledig Eluned, sy’n rhoi llais i’w darlun, yng Nghyflwyniad y llyfr, yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan gynnig blas o’r modd y mae’r un neges yn edrych ac yn teimlo yn y ddwy iaith.

Gwych o beth yw gweld bod Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi ysgrifennu rhagair y llyfr. Cyn troi at y byd academaidd a dilyn gyrfa wleidyddol, bu Mark Drakeford yn gweithio fel Swyddog Prawf a Gweithiwr Cyfiawnder Ieuenctid. Hefyd, helpodd i sefydlu Llamau, elusen digartrefedd yng Nghymru, yn dilyn ei waith gyda phobl ifanc a oedd yn dioddef amddifadedd. Yn ddi-os, felly, mae ef mewn sefyllfa ddelfrydol i ysgrifennu’r rhagair hwn, o gofio ei fod wedi cael profiad ymarferol yn ei yrfa gynnar a’i fod yn meddu ar wybodaeth wleidyddol a pholisi ehangach fel arweinydd llywodraeth Cymru. Yn ei eiriau agoriadol, dyma a ddywed Mark Drakeford:

‘Chwarter canrif ers datganoli, priodol iawn yw dwyn ynghyd gyfres o themâu a datblygiadau allweddol yn ymwneud ag un o’r cyfrifoldebau sylfaenol, craidd a drosglwyddwyd i Gymru ym 1999.’

Mae’n sôn am un o’r gwersi y bydd yn rhaid i unrhyw fyfyriwr gwaith cymdeithasol newydd ei dysgu, sef nad yw bwriadau da ynddynt eu hunain yn ddigon. Mae’n cymharu hyn â’r llywodraeth, sy’n gyfrifol am y gwaith caled o droi egwyddorion yn bolisïau ymarferol, ac mae’n tynnu sylw at y modd y mae nifer o benodau’r llyfr yn pwyso ac yn mesur y siwrnai honno ac yn llunio casgliadau o ran ble y llwyddwyd i gyflawni a ble mae angen parhau i ennill tir.

Mae Outside In yn enghraifft wych o gydgynhyrchu ym Mhrifysgol Wrecsam – sef grŵp ffocws lle mae unigolion a gofalwyr yn cymryd rhan ac yn cydgynhyrchu gyda Chyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Wrecsam. Ym mhennod saith y llyfr, mae Liz Lefroy, sy’n hwyluso’r gwaith hwn, yn sôn am ddefnyddio egwyddorion cydgynhyrchu ac Outside In. Mae Outside In wedi ennill nifer o wobrau, yn cynnwys gwobrau clodfawr Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2020 am Ddatblygu ac Ysbrydoli gweithlu yfory.

Aelodau Outside In sydd wedi ysgrifennu pennod deg, sef ‘Experiences of Social care and social work education: completing the circle’. Dyma bennod ysbrydoledig – profiad, yn hytrach na gofynion cyhoeddi, yw’r man cychwyn. Sandra Williams, y cynrychiolydd sylfaenol, a feddyliodd am yr ymadrodd ‘cwblhau’r cylch/completing the circle’ – tri gair sy’n cyfleu i’r dim ddiben a dull cydgynhyrchu’r grŵp.

Mae hi’n amhosibl trafod cynnwys yr holl benodau mewn anerchiad croesawu fel hwn, ond mae pob un ohonynt yn rhagorol – maent yn llawn gwybodaeth, maent yn hynod ddiddorol a gwreiddiol, ac mae cyd-destun gwirioneddol Gymreig yn perthyn iddynt. Mae pob pennod yn canolbwyntio ar bwnc penodol ac yn ystyried agweddau arbennig ar y ‘Ffordd Gymreig’ sy’n sail i’r modd yr ymdrinnir â gwaith cymdeithasol yng Nghymru, gan ystyried y goblygiadau o ran ymarfer a chan gyfeirio at adnoddau allweddol y gellir eu defnyddio i ymchwilio ymhellach i’r pynciau a drafodir.

Cyn imi drosglwyddo’r awenau i Wulf, hoffwn rannu geiriau cloi Mark Drakeford. Mae’n tynnu sylw at ymdeimlad o newydd-deb a syniadau arloesol a welir drwy gydol y gyfrol, ac mae’n gorffen trwy ddweud – ‘Dylai roi hyder inni bod dyfodol y proffesiwn a’r ddisgyblaeth mewn dwylo cryf ac ymroddedig’.

Mae ‘Social Work in Wales’ gan Wulf Livingston, Jo Redcliffe ac Abyd Quinn Aziz ar gael i’w brynu ar Policy Press.