Cyfadran y Celfyddydau Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae strwythur academaidd Prifysgol Wrecsam wedi'i rannu i mewn i ddwy gyfadran, y ddwy yn gartref i gyfoeth o arbenigedd, athrawiaeth a dysgu ar hyd ragor o ddisgyblaethau
Cyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae gan Gyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg ym Prifysgol Wrecsam hanes cyfoethog o arloesiad yn y Celfyddydau ac yng Ngwyddoniaeth sy'n dyddio yn ôl i 1887.
Mae ein dull athrawiaeth a dysgu sy'n ganoledig ar fyfyrwyr wedi'i deilwra i anghenion myfyrwyr ac mae ein darlithoedd yn maethu diwylliant o gydweithio ac yn ymdrechu i helpu myfyrwyr gyda'u huchelgeisiau. Rydym yn annog dulliau positive ac arloesol i ddysgu ac yn defnyddio grwpiau athrawiaeth fach fel gallwch chi gyflawni'ch gorau a mynd ymlaen i fwynhau gyrfa lwyddiannus. Beth bynnag ydi'ch profiadau neu gefndir, byddem yn hapus i chi gwneud cais i ymuno gyda ni.
Mae'r Gyfadran yn cynnal amgylchedd croesawgar a bywiog wedi'i gynllunio i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr o fewn y diwydiannau creadigol a thechnolegol drwy arbenigedd y staff a'u rhagoriaeth athrawol. Mae'r dysgu yma yn ymgorffori cyfleusterau cyfoesol, ymweliadau diwydiannol a llawer mwy i wella eich cyflogadwyedd ar ôl i chi astudio gyda ni. Mae'r Gyfadran yn fentrol ac uchelgeisiol yn ei chenhadaeth i gyfrannu i gynnydd economaidd yr ardal drwy bartneriaethau diwydiannol a meddwl creadigol.
Archwiliwch STEAM - catalog digidol sy'n arddangos detholiad o waith ein ymchwilwyr a myfyrwyr sy'n graddio.
Mae'r gyfadran yn cynnwys cyrsiau yn yr ardaloedd canlynol; celf a dylunio, amgylchedd adeiledig, cyfrifiadura, peirianneg, dyniaethau, cyfryngau, gwyddoniaeth a theatr.
Mae ein myfyrwyr Celf a Dylunio yn falch o gyflwyno eu Sioe Radd 2022, Unjammed.
Newyddion a Digwyddiadau
Y newyddion a digwyddiadau diweddaraf o'r gyfadran.
Mwy o'n gyfadrannau
Cysylltwch â ni
Byddem wrth ein boddau clywed gennych chi, os hoffech chi wybod mwy am astudio gyda ni, neu os gennych chi unrhyw gwestiwn, galwch ni ar 01978 293439 neu E-bostiwch enquiries@glyndwr.ac.uk.