students in lecture theatre

Sgyrsiau Ymchwil  Wrecsam

Croeso i Sgyrsiau Ymchwil Wrecsam

Yn dilyn llwyddiant darlithoedd cyhoeddus 'Sgyrsiau Glyndŵr' yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, rydym yn bwriadu parhau â'r gyfres gan fabwysiadu enw newydd er mwyn adlewyrchu'r newidiadau sy'n digwydd o fewn y brifysgol. Mae Darlithoedd Cyhoeddus Sgyrsiau Wrecsam yn gyfres o ddarlithoedd fin nos am ddim a gynhelir gan y Swyddfa Ymchwil ac maent yn agored i bawb. Dewch i fwynhau ychydig o ddanteithion a lluniaeth am ddim wrth rwydweithio gyda'r siaradwyr a mynychwyr eraill, yna ymlaciwch i fwynhau sgyrsiau gan ein hymchwilwyr, wedi eu cyflwyno gan Gadeirydd, ac yn cael eu dilyn gan gwestiynau gan y gynulleidfa.

Mae Sgyrsiau Ymchwil Wrecsam yn ffenestr siop bwysig i Brifysgol Wrecsam, a bwriad y darlithoedd yw gwahodd trafodaethau a dadleuon mewn amrywiol bynciau i brocio'r meddwl. Rydym yn ymfalchïo mewn ymchwil gymhwysol, Ymchwil Sy'n Trawsnewid, ymchwil sy'n dylanwadu'r gymuned leol a'r byd ehangach, ac rydym eisiau rhannu hyn gyda chi mewn ffordd hygyrch.

Heb gynulleidfa nid oes pwrpas i Ddarlithoedd Cyhoeddus, felly edrychwn ymlaen at groesawu eich safbwyntiau newydd ar ein hymchwil. Edrychwch ar ein hamserlen ac archebwch eich lle trwy Eventbrite gan ddefnyddio'r dolenni neu'r codau QR. Os nad yw'n bosibl i chi fynychu, bydd modd i chi wylio recordiad ar-lein o'r sesiwn yn fuan wedi'r digwyddiad. Gobeithiwn eich gweld yn fuan!

Mae’r Darlithoedd am ddim i’w mynychu, ond rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw. Cymerwch gip ar restrau’r digwyddiadau i weld y manylion llawn, gan gynnwys lleoliad, amseroedd a sut i archebu tocyn. Gallwch ddal i fyny ar sgyrsiau blaenorol trwy fynd i'n tudalen darlithoedd gorffennol.

Os ydych chi’n dymuno cyfrannu at Sgyrsiau Glyndŵr: Mynegiad o ddiddordeb.

Siaradwr Amserlen Teitl

Dr Joanne Pike, Deon Cyswllt

25 Hydref 2023, 17:30 Defnyddio anifail anwes robotaidd fel cydymaith i bobl â dementia: cysylltu gyda 'Companotics' heddiw ac yn y dyfodol 

Dr Robert Bolam, Darllenydd mewn Peirianneg Awyrennol

6 Rhagfyr 2023, 17:30 Gyriant Trydanol Awyrennau: Taith ddynoliaeth tuag at Sero Net

Yr Athro Alec Shepley, Deon Cyswllt 

16 Ionawr 2024, 17:30 Artistiaid yn ymgysylltu'r cyhoedd ar faterion amgylcheddol a chymdeithasol a phwysigrwydd hynny.

Dr Chris White, Darlithydd mewn Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles

28 Chwefror 2024, 17:30 Mae'n iach, mae'n dda i'r amgylchedd, gall fod yn hwyl, ond nid ydym wedi taro'r hoelen ar ei phen eto: Gweithredu teithio llesol ar gyfer iechyd cyhoeddus

Dr Shubha Sreenivas, Darlithydd mewn Seicoleg Fiolegol

23 Ebrill 2024, 17:30 Balm y bawen: rheoli straen gan ddefnyddio cŵn therapi ymysg myfyrwyr prifysgol 

Yr Athro Iolo Madoc-Jones, Athro Cyfiawnder Cymdeithasol a Throseddol

5 Mehefin 2024, 17:30 Yn ymdrin â'r heriau o orfodi gwahardd hela llwynogod