Os ydych yn dewis astudi ym Mhrifysgol Wrecsam yna bydd gennych y gorau o ddau fyd - bywyd dinas a’r cefn gwlad wych.

Byddwch yn gweld rydym wedi ein lleoli ar y ffin Cymru-Lloegr, lleoliad perffaith am fynediad hawdd i’r dinasoedd agos, sef Gaer, Lerpwl a Manceinion, i’r dwyrain, harddwch garw Eryri i’r gorllewin a thraethau gwych ar hyd arfordir syfrdanol y gogledd.

Mae Wrecsam ei hun yn llawn treftadaeth, gyda golygfeydd prydferth a rhagor o safleoedd hanesyddol, yn ogystal â chanol dref brysur gyda siopau gwych, golygfa adloniant a diwylliant llwyddiannus, a bywyd nos brysur. 

A rhywbeth arall, mae’n lle hawdd iawn i fynd i. Wedi’i leoli oddi ar yr A483, mae gennym ni gysylltiadau arbennig i bob prif ffordd ar hyd y Gogledd Orllewin, gan gynnwys rhwydwaith bysiau eang ar hyd Gogledd Cymru, Gogledd Orllewin Lloegr a’r Canoldiroedd.

Mae hefyd gan Wrecsam cysylltiadau rheilffyrdd gwych, gyda dwy brif orsaf sy’n rhedeg gwasanaethau uniongyrchol i Gaer, Caergybi ac ar hyd Arfordir Gogledd Cymru, yr Amwythig, Birmingham a Chaerdydd. Gallwch hefyd fod yn Lloegr o fewn ychydig dros ddwy awr a hanner, Caeredin mewn ychydig dros bedair, a Dulyn mewn llai na chwech.

Efallai eich bod chithau hefyd wedi gweld Wrecsam yn y newyddion yn ddiweddar, diolch i'r pryniant llwyddiannus CPD Wrecsam gan yr enwogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney. Mae'r clwb hefyd yn digwydd bod yn agos at brif gampws y brifysgol, felly efallai y byddwch yn weld ambell i wyneb enwog o gwmpas! Ac mewn cyd-ddigwyddiad hyd yn oed yn fwy,, mae Wrecsam wedi cael ei arwydd ‘Holywood’ ei hun i helpu i'w roi ar y map. Gyda chymaint yn mynd ymlaen a chymaint i'w weld a'i wneud, nid oes amser gwell i fod yma.

lucy history student

“Un fantais i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam yw bod gennych chi'r gorau o'r ddau fyd - mae gennych chi gefn gwlad gerllaw ac mae gennych chi'r dref ei hun hefyd.”

Lucy Duncan BSc (Anrh) Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol

Eisiau gwybod yn union pa mor agos ydym ni?

Wrecsam i...

  • Gaerdydd - 139 milltir
  • Gaer - 14 milltir
  • Fae Colwyn - 47 milltir
  • Ddulyn - 116 milltir
  • Lerpwl - 31 milltir
  • Llangollen - 12 milltir
  • Lundain - 184 milltir
  • Fanceinion - 54 milltir
  • Amwythig - 31 milltir
  • Eryri - 54 milltir

“Dewisais i astudio yn Wrecsam oherwydd yma, mae ychydig yn fwy bywiog na lle dwi'n dod - mwy o siopa, mwy o lefydd i fynd allan. Ond rwy'n dal yn agos at adref, felly pan dwi eisiau newid golygfeydd, dwi'n gallu jyst hopian ar drên a mynd i gerdded yn y mynyddoedd.”

Ceri-Ellen Speddy BSc (Anrh) Theatre, Teledu a Pherfformio
ceri theatre student