Dysgwch mwy mewn digwyddiad pwnc.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am gwrs neu bwnc penodol, mae ein digwyddiadau pwnc ar-lein ac ar y campws yn gyfle gwych i siarad â darlithwyr a dysgu mwy am astudio yn Wrecsam.

Ydych chi'n fyfyriwr neu'n ysgol? Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ein Diwrnodau Darganfod i ddarganfod mwy ym Mhrifysgol Wrecsam trwy gael profiad ymarferol o sut beth yw bod yn fyfyriwr prifysgol. 

What's on

Dydd Llun, Hydref 19, 2026 - 17:30-18:30pm

Dewiniaeth, Cyfiawnder a Phanigau Moesol: Trosedd a Chosb Drwy’r Oesoedd (16+ yn unig)

Trosedd a Chosb Trwy'r Oesoedd

Camwch i mewn i fyd tywyll y treialon gwrachod a darganfyddwch beth maent yn ei ddatgelu ynghylch ofn, pŵer a chyfiawnder.

Yn y sesiwn hon fydd yn eich ysgogi i feddwl am sawl peth, byddwn yn archwilio sut mae rhai o’r achosion enwocaf o banig moesol wedi llywio ein dealltwriaeth o drosedd a chosb. O gyfaddefiadau dan artaith i’r diafol mewn llên-gwerin, byddwn yn dadorchuddio gwreiddiau troseddeg o safbwynt y rhai y tybiwyd eu bod yn wrachod a’r ymateb o ran cyfiawnder troseddol.

Mae’r digwyddiad hwn sydd AM DDIM yn berffaith ar gyfer unrhyw un sy’n chwilfrydig ynghylch cosb, cyfiawnder a sut rydym yn diffinio ‘bod yn wahanol’ ar hyd yr oesau.

Nid oes angen unrhyw wybodaeth na phrofiad blaenorol. Rhaid i fynychwyr fod yn 16+ oed.

Lleoliad: Ystafell B18, Plas Coch Campus, Prifysgol Wrecsam

Archebwch nawr

 

 

Dydd Iau 5ed Tachwedd: 5.00 - 6.30yp

Jack Sargeant: Mwy o Beirianwyr o Amgylch y Bwrdd - Llais gweithwyr polisi

Cefndir Jack

Roedd Jack Sargeant yn Aelod o'r Senedd ar gyfer Alun a Dyfrdwy o 2018 hyd fis Mai 2026. Gwasanaethodd fel Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru. Mae'n beiriannydd gyda chryn brofiad a gradd mewn peirianneg ddiwydiannol o Brifysgol Wrecsam, a chyn iddo fod yn wleidydd, roedd yn gweithio fel peiriannwr mewn cwmni gwasanaethau peirianneg a pheiriannydd ymchwil a datblygu gydag Atlas Copco.

Cefndir y Sgwrs

Ymunwch â ni i groesawu Jack Sargeant i Brifysgol Wrecsam am sgwrs gymhellol ynghylch yr hyn all peirianneg ei gyfrannu i fywyd cyhoeddus. Gan dynnu ar ei daith o fod yn brentis peirianneg a pheiriannydd gweithgynhyrchu i Aelod o'r Senedd a Gweinidog i Lywodraeth Cymru, bydd Jack yn rhannu ei brofiadau o beirianneg, gwleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus.

Bydd y sgwrs yn archwilio pam ddylai peirianwyr a gweithwyr proffesiynol STEM gael llais cryfach wrth wneud penderfyniadau, a sut y gallai dulliau peirianneg o edrych ar ddatrys problemau helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau sy'n wynebu gogledd Cymru, o sgiliau ac uwch weithgynhyrchu i dechnoleg a datblygiad rhanbarthol.

Dewch draw i wrando ar safbwynt gwahanol ar y rôl y gall peirianwyr ei chwarae yn llunio ein cymunedau a'n dyfodol.

lleoliad: The Nick Whitehead Lecture Theatre, Wrexham University

Cofrestru ar gyfer y digwyddiad

 

Jack Sargeant at Wrexham Talks