Polisi Preifatrwydd

Er mwyn i ni weithredu gwefan Prifysgol Wrecsam ('Prifysgol'), gallwn gasglu a storio gwybodaeth bersonol rydych yn ei gyflwyno drwy'r wefan. Os gwelwch yn dda darllenwch y polisi preifatrwydd canlynol i ddeall sut mae'r Brifysgol yn defnyddio a diogelu'r wybodaeth rydych yn ei ddarparu drwy'r wefan hon.

Darparwyd a chynhaliwyd y system yma gan y Brifysgol. Drwy gyflwyno eich gwybodaeth bersonol, rydych yn caniatáu i'r Brifysgol ei ddal a'i ddefnyddio mewn cytundeb a'r polisi hwn. Gall y polisi hwn newid a bydd unrhwy newidiadau iddo yn y dyfodol yn hysbys ar y dudalen hon. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon rydych yn cytuno i'r fath newidiadau. Rydym yn awgrymu'ch bod yn gwirio'r polisi preifatrwydd pob tro i chi ymweld â'r safle hwn.

Mae'r dudalen hon yn eich hysbysu o'r termau defnydd rydych yn cytuno iddynt pan rydych yn defnyddio wrexham.ac.uk/cy

Cynnwys polisi

 

  1. Gwybodaeth rydym yn ei gasglu gennych a'ch defnydd o'r wefan hon
  2. Sut rydym yn defnyddio eich wybodaeth
  3. Sut rydym yn trin y data cyflwyniwyd gennych
  4. Dolenni i wefanau allanol
  5. Sut i gysylltu â ni
  6. Hygyrchedd
  7. Rhyddid Gwybodaeth
  8. Cyswllt ac adborth

 

1. Gwybodaeth rydym yn casglu gennych a'ch defnydd o'r wefan hon

1.1 Gwybodaeth rydych yn ei roi i ni

Pan rydych yn ymweld  â'r wefan hon gallwch gael eich gofyn i ddarparu gwybodaeth benodol amdanoch, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt.

1.2 Gwybodaeth awtomatig

Rydym yn derbyn a chadw mathau penodol o wybodaeth pryd bynnag rydych yn rhyngweithio  â'r wefan hon. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i fonitro traffig i'r wefan ac i helpu gyda mordwyo a phrofiad defnyddiwr y wefan. 

Mae'r wybodaeth byddwn yn ei dderbyn yn awtomatig yn cynnwys:

  • URL (Uniform Resource Locator) Gofynwyd amdano
  • Cyfeiriad IP (Internet Protocol, gall hyn adnabod neu beidio adnabod cyfrifiadur penodol)
  • Enw parth o ble rydych yn cael mynediad i'r rhyngrwyd
  • URL cyfeiriol
  • Meddalwedd (porwr/system gweithredu) defnyddwyd i gael mynediad i'r dudalen
  • Dyddiad ac amser ymwelwyd â'r wefan

1.3 Cwcis

(gwelwch dudalen defnydd cwcis y brifysgol am fwy o wybodaeth)

2. Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gallwn ddefnyddio a dadansoddi'r wybodaeth rydym yn ei gasglu fel ein bod yn gallu rheoli a gwella'r gwasanaethau ar y wefan. Gall wybodaeth ddemograffig ac ystadegol ynglŷn ag ymddygiad defnyddiwr gael ei gasglu a'i ddefnyddio i ddadansoddi poblogrwydd ac effeithiolrwydd y wefan. Bydd unrhyw ddatgeliad o'r wybodaeth hon mewn ffurf gyfanredol ac ni fydd yn adnabod unrhyw ddefnyddwyr unigol.

Mae Prifysgol Wrecsam hefyd yn defnyddio gwasanaethau gan Google a Hotjar ar y wefan hon i fesur a dadansoddi wybodaeth ymwelwyr. Am fwy o wybodaeth os gwelwch yn dda ymwelwch â Google Analytics and Hotjar.

Ni fydd y Brifysgol (na fydd yn gadael i drydydd barti i) ddefnyddio offer dadansoddi ystadegol i dracio gwybodaeth ganfyddadwy bersonol ymwelwyr i'r wefan hon. Ni fydd y Brifysgol yn cysylltu unrhyw ddata a gasglwyd gydag unrhyw wybodaeth ganfyddadwy bersonol gan unrhyw ffynhonnell fel rhan o'n defnydd o offer dadansoddi ystadegol.

3. Sut rydym yn trin y data gyflwyniwyd gennych

3.1 Deddfwriaeth Diogelu Data

Y Brifysgol ydy eich rheolwr data. Fel eich rheolwr data mae'r Brifysgol wedi hysbysu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth o'i weithgareddau fel a fynnwyd o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC) ac fei'i rherstriwyd yn y Gofrestr Cyhoeddus Rheolwyr Data. Bydd wybodaeth bersonol dim ond yn cael ei gasglu a/neu ei brosesu mewn cytundeb â'r RhDDC.

3.2 Datgloi eich gwybodaeth

  • Oni bai fel gosodwyd yn y polisi hwn neu fel mynnwyd gan y gyfraith, ni fydd eich data personol yn cael ei roi i drydydd parti heb eich caniatâd ysgrifenedig blaenorol.
  • Bydd y wybodaeth rydych yn ei ddarparu i ni'n cael ei ddal ar ein cyfrifiaduron yn y DU. Gall gael ei gyrchu gan neu ei roi i drydydd parti gall fod tu hwnt i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd sydd yn gweithredu i ni ar gyfer y pwrpasau gosodwyd yn y polisi yma neu ar gyfer pwrpasau cymeradwyid gennych. Mae'r partïon hynny'n prosesu gwybodaeth a gallent ddarparu gwasanaethau cefnogaeth i'r Brifysgol neu ar ran y Brifysgol.
  • Nid oes gan wledydd tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd o hyd cyfreithiau diogelu data cryf. Fodd bynnag, byddwn o hyd yn cymryd camau i sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio gan drydydd parti mewn cytundeb a'r polisi hwn.

3.3 Monitro defnydd systemau'r Brifysgol

Er mwyn amddiffyn diogelwch a gweithrediad systemau rhwydwaith a chyfrifiadur y Brifysgol, gall fod yn angenrheidiol i fonitro neu gofnodi defnydd y systemau hyn.  Os oes yna arwyddion o gam-drin systemau neu unigolion gall fod yn defnyddio systemau tu hwnt i'w hawdurdod, gall ffeiliau, negeseuon, ac unrhyw a holl ddefnyddiau o'r systemau gael eu rhagodi, monitro, recordio, copïo, archwilio, arolygu a'u datgelu i bersonél awdurdodedig y Brifysgol a gorfodaeth cyfraith.

4. Dolenni i wefannau allanol

Gall y wefan hon gynnwys dolenni i wefannau eraill sydd tu allan i reolaeth y Brifysgol ac nad ydynt yn cael eu cwmpasu gan y polisi hwn.

5. Sut i gysylltu â ni 

Pe bai'r wybodaeth rydym yn ei ddal amdanoch yn anghywir, gallwch newid a diweddaru'ch wybodaeth berosnol neu gael eich wybodaeth wedi ei gywiro drwy gysylltu a ni.

Byddwn yn eich cyflwyno gyda copi darllenadwy o'r data personol rydym yn ei gadw amdanoch os gwnewch gais drwy gysylltu â ni ar y cyfeiriad isod. Gallwn ymofyn prawf o'ch hunaniaeth cyn eich cyflenwi a'r wybodaeth i sicrhau cyfrinachedd.

Rydym yn caniatau i chi herio'r data rydym yn ei ddal amdanoch a lle'n briodol cewch gael y data wedi'i ddileu, gywiro, diweddaru neu gwblhau. We allow you to challenge the data we hold about you and where appropriate you may have the data erased, rectified, amended or completed. Ar gyfer cwynion ac ymholiadau ynglŷn â'r polisi preifatrwydd neu ymholiadau diogelu data yn gyffredinol os gwelwch yn dda cysylltwch â: Leonna Messiter, swyddog diogelu data, Prifysgol Wrecsam, Ffordd Yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AW neu e-bostiwch dpo@wrexham.ac.uk.

6. Hygyrchedd

Rydym yn ymrwymedig i wneud ein gwefan yn hygyrch i'n holl ddefnyddwyr. Am wybodaeth bellach neu i'n hysbysu o unrhyw broblemau rydych wedi eu cael, os gwelwch yn dda ebostiwch webeditor@wrexham.ac.uk. Rydym yn gwerthfawrogi'ch adborth. Edrychwch ar ein datganiad hygyrchedd gwefan am fwy o wybodaeth.

7. Rhyddid Gwybodaeth

Mae casglu a phrosesu gwybodaeth yn cael ei reoleiddio gan y Ddeddf Diogelu Data 1998.  Dylid gwneud unrhyw geisiadau gan unigolion ar gyfer gweld gwybodaeth daliwyd amdanynt gan y Brifysgol gael eu gwneud yn ysgrifenedig i: Swyddog Diogelu Data, Prifysgol Wrecsam, Ffordd Yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AW.  

8. Cyswllt ac adborth

Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau neu adborth ynglŷn â'r datganiad hwn iâr e-bost i dpo@wrexham.ac.uk neu drwy ysgrifennu at:

Uwch Swyddog Cydymffurfio 

Prifysgol Wrecsam

Ffordd Yr Wyddgrug

Wrecsam

LL11 2AW