![students with dog in the clinical suite](https://wrexham.ac.uk/media/marketing/animals/2O3A0405_800.jpg)
Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd
Mae strwythur academaidd Prifysgol Wrecsam wedi'i rannu i mewn i ddwy gyfadran, y ddwy yn gartref i gyfoeth o arbenigedd, athrawiaeth a dysgu ar hyd ragor o ddisgyblaethau
Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd
Mae Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd yn angerddol am anghenion y gymdeithas, boed hynny'n addysg, iechyd, gofal cymdeithasol, yr amgylchedd neu'r system cyfiawnder.
Ein nod yw creu amgylchedd dysgu ysbrydol, canolfan gwych o arbenigedd dysgu ac ymchwil, yn helpu i drawsffurfio bywydau myfyrwyr, ein cymuned a sefydliadau yn yr ardaloedd ehangach. Mae tîm y Gyfadran yn gweithio gyda'i gilydd i greu diwylliant o onestrwydd, dysgu a chefnogaeth hygyrch, parch, arloesedd ac uchelgais yn nyheadau ein myfyrwyr.
Mae cysylltiadau gwych gyda diwydiannau a gwasanaethau cyhoeddus yn yr ardal yn rhoi cyfleoedd i'r Gyfadran diogelu amrywiaeth o leoliadau gwaith i ganiatáu profiadau gwerthfawr gall fyfyrwyr elwa ohonynt fel rhan o'u hastudiaethau. Mae'r partneriaethau diwydiannol yma yn hanfodol i sicrhau fod rhaglenni yn rhoi'r cyfleoedd cyflogadwyedd a chynnydd gyrfaol gorau. Drwy ddefnyddio cymysgedd o ddulliau athrawiaeth a dysgu ac amrywiaeth o arddulliau trosglwyddo rydym yn teilwra ein hathrawiaeth i siwtio anghenion gwahanol fyfyrwyr (gan gynnwys dysgu ar lein/o bell ar rai cyrsiau).
Mae'r gyfadran yn cynnwys cyrsiau yn yr ardaloedd canlynol; busnes, addysg, iechyd, seicoleg, gofal cymdeithasol, cymdeithas a chwaraeon
![Postgraduate students studying](https://wrexham.ac.uk/media/marketing/generic-students/gallery-2.jpg)
![criminology students in corridor](https://wrexham.ac.uk/media/marketing/society/Criminology-lecturer-walking-with-student-carrying-books-3-8-Oct-2019_800.jpg)
![Students in a lecture](https://wrexham.ac.uk/media/marketing/business/Students-in-lecture-1--7-Oct-2019_800.jpg)
![veterinary nursing students with a dog](https://wrexham.ac.uk/media/marketing/animals/2O3A0131_800.jpg)
![policing students in our crime scene simulation house](https://wrexham.ac.uk/media/marketing/society/Professional-Policing-Students-5_800.jpg)
![Students looking at a book](https://wrexham.ac.uk/media/marketing/education/Students-with-book---Oct-2019_800.jpg)
![Colliers park facilities](https://wrexham.ac.uk/media/marketing/sports/Colliers-Park_800.jpg)
![Students in a mental health lecture](https://wrexham.ac.uk/media/marketing/health/Students-in-lecture-reading-books-2--Oct-2019_800.jpg)
![Sports injury rehab students](https://wrexham.ac.uk/media/marketing/sports/Sports-and-Injury-Rehabilitation-Students-9--7-Oct-2019_800.jpg)
![](https://wrexham.ac.uk/media/marketing/health/IMG_0184_800.jpg)
Newyddion a Digwyddiadau
Y newyddion a digwyddiadau diweddaraf o'r gyfadran.
Mwy o'n gyfadrannau
Cysylltwch â ni
Byddem wrth ein boddau clywed gennych chi, os hoffech chi wybod mwy am astudio gyda ni, neu os gennych chi unrhyw gwestiwn, galwch ni ar 01978 293439 neu E-bostiwch enquiries@glyndwr.ac.uk.