Cyfreithiol a Llywodraethu
Mae Prifysgol Wrecsam yn Gorfforaeth Addysg Uwch sefydlwyd yn 1993 fel Sefydliad Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru o dan y Ddeddf Diwygiad Addysg Uwch 1998; a chaniatawyd ei deitl Prifysgol gan y Cyfrin Gyngor ar Orffennaf 3ydd 2008. Mae'r Brifysgol hefyd yn elusen wedi'i gofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau (Rhif elusen 1142048).
Y Bwrdd Llywodraethwyr yw awdurdod blaenaf, cyfreithiol, ariannol a busnes y Brifysgol yn ogystal â'r awdurdod cyflogi ar gyfer ei holl staff. Mae angen i'r Bwrdd bennu cymeriad addysgiadol a bwriad y Brifysgol a gosod ei gyfeiriad strategol cyffredinol.
Yr Is-ganghellor yw Prif Weithredwr y Brifysgol ac yn gyfrifol am wneud cynigion i'r Bwrdd ynglŷn â chymeriad addysgiadol a bwriad y Brifysgol a dros weithredu penderfyniadau’r Bwrdd, yn ogystal â threfniant, cyfeiriad a rheolaeth y Brifysgol ac arweinyddiaeth ei staff. Mae hi'n gwneud hyn gyda chefnogaeth Tîm Gweithredol yr Is-ganghellor.
Yn amodol ar gyfrifoldeb cyffredinol y Bwrdd a chyfrifoldebau'r Is-ganghellor mae'r Bwrdd Academaidd yn gyfrifol am faterion cyffredinol yn ymwneud ag ymchwil, ysgoloriaeth, addysgu a chyrsiau'r Brifysgol, datblygiad y gweithgareddau academaidd a chynghori'r Is-ganghellor a'r Bwrdd Llywodraethwyr ar y materion hyn.
Is-Ganghellor
- Yr Athro Joe Yates
Lywodraethwyr Annibynnol
- Leigh Griffin (Chair)
- David Subacchi
- Paul Barlow
- Yr Atrho Sandra Jowett
- Claire Homard
- Yr Athro Martin Chambers
- Richard Campbell
- Liam Wynne
- Will Naylor
- Fabrizio Trifiro
Lywodraethwyr Staff
Lywodraethwyr Myfyrwyr
Aelodau Allanol wedi’u cyfethol i Bwyllgorau Bwrdd
Statws Elusennol
Rhif elusen: 1142048
Mae Prifysgol Wrecsam yn Gorfforaeth Addysg Uwch a sefydlwyd o dan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 fel Sefydliad Gogledd Ddwyrain Cymru yn 1993 gan dderbyn y teitl Prifysgol gan Gyfrin Gyngor Mwyaf Anrhydeddus Arglwyddi Ei Mawrhydi ar 3 Gorffennaf 2008.
Caiff Prifysgol Glyndŵr ei rheoli gan Offeryn ac Erthyglau Llywodraethu ac, fel y nodir yn ei Datganiad o Brif Gyfrifoldebau, Bwrdd y Llywodraethwyr yw prif awdurdod cyfreithiol, ariannol a busnes y Brifysgol yn ogystal â’r awdurdod dros gyflogi ei holl staff. Mae datganiadau ariannol cyfunol y Brifysgol ar gael i'r cyhoedd.
Mae prif gampws y Brifysgol yn Wrecsam, Gogledd Ddwyrain Cymru gyda champysau yn Llaneurgain, Llanelwy a Llundain. Mae'r Brifysgol yn cydweithio ag ystod eang o bartneriaid.
Cyfeiriad gweinyddol y Brifysgol yw Plas Coch, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam. LL11 2AW.
Fel pob Sefydliad Addysg Uwch, mae’r Brifysgol yn wastad wedi bod yn elusen, gyda’i llywodraethwyr yn ymddiriedolwyr iddi. Gan hynny y mae bob amser wedi gorfod cydsynio â chyfraith elusennol.
Cwblhaodd y Brifysgol y broses gofrestru ac fe’i chofrestrwyd yn llwyddiannus gyda’r Comisiwn Elusennau ym mis Mai 2011.