Cyfiawnder: Sefydlwyd y Sefydliad Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol ym Mhrifysgol Wrecsam ar ddechrau 2022. Mae'n gymuned ymchwil o fewn y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd sydd â'r nod o feithrin cydweithrediad rhwng academyddion, darparwyr gwasanaethau, a defnyddwyr gwasanaethau (rhyngddisgyblaethol, lleol, cenedlaethol a rhyngwladol) i fynd i'r afael ag ymchwil o safon, ymateb i gyfleoedd cyllid, a datblygu ceisiadau am grantiau er mwyn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol.

Mae'r sefydliad yn croesawu cyswllt gan unigolion sy'n dymuno ymgymryd ag astudiaethau ar lefel PhD yn y meysydd cyfiawnder troseddol, gofal cymdeithasol neu bolisi cymdeithasol. Mae hefyd yn croesawu cyswllt gan asiantaethau a grwpiau sy'n dechrau ar brosiectau newydd, sy'n dymuno cwmpasu dealltwriaeth bresennol cyn cyflwyno ceisiadau am gyllid, neu sy'n dymuno gweithio mewn partneriaeth ac archwilio sut gall staff y Sefydliad helpu gyda cheisiadau am gyllid a/neu werthusiadau prosiectau.

person working in office at desk

Prosiectau

Cymerwch olwg ar brosiectau presennol a blaenorol y Sefydliad Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol ym meysydd troseddeg, polisi cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, a mwy...

people milling about at an event

Digwyddiadau

Cymerwch olwg ar y digwyddiadau sydd ar y gweill a gynhelir gan Cyfiawnder.

4 people looking at laptop

Aelodau

Y Cyd-Gyfarwyddwyr, aelodau'r Sefydliad, aelodau Cyswllt, ac Aelodau Myfyrwyr.

wales flag with a hand painted in welsh flag colours

Ein Partneriaid

Rhestr o bartneriaid presennol a blaenorol sydd wedi gweithio gydag aelodau Cyfiawnder.