Cyfres Seminarau Ymchwil FAST #2 – Gwyddoniaeth

Cynhaliwyd yr ail sesiwn yn y gyfres seminarau FAST ddechrau mis Tachwedd, gyda Dr Jixin Yang yn cadeirio.

Oherwydd newid munud olaf o ran y siaradwyr, rhoddodd Dr Gareth Carr o’r adran Amgylchedd Adeiledig gyflwyniad yn sôn am ‘Negeseuon Isganfyddol mewn Pensaernïaeth Grefyddol’.

Dywedodd Gareth ei fod wedi’i fagu ym Mhort Talbot. Arferai gyfarfod â phlant eraill ar y mynydd lleol, lle’r oedd rhywun wedi gadael graffiti Beiblaidd – “Yr Arglwydd yw fy nghraig”, sef Salm 18, Adnod 2. Arferai trigolion yr ardal alw’r mynydd yn ‘yr arglwydd yw fy nghraig’ ar lafar, ond nid oeddynt yn gwybod pam hyd nes y daeth y graffiti i’r fei. Dengys hyn gymaint o ddylanwad ac effaith a gaiff crefydd ar strwythurau lleol.

Yna, fe wnaeth Gareth ein tywys trwy’r oesoedd, gan ddangos hefyd fod pensaernïaeth grefyddol wedi dod dan ddylanwad yr amgylchedd naturiol, ac aeth ati i ddwyn cymhariaeth rhwng yr enwog Sagrada Familia yn Sbaen, a gynlluniwyd gan Antonio Gaudi, ac arwynebau naturiol y graig.

Mae rhai adeiladau yn arddangos negeseuon crefyddol amlwg, megis Eglwys Gadeiriol Orvieto yn yr Eidal, lle dangosir wynebau poenus a dioddefus y rhai a benderfynodd beidio â dilyn y ffydd. Mae adeiladau eraill yn cynnwys negeseuon mwy cynnil a chudd, megis y colofnau cerrig ar ben crwbanod môr cerfiedig ar y Sagrada Familia – mae hyn yn cyfleu neges gref ynglŷn â sefydlogrwydd, heb gyfeirio’n benodol at grefydd.

Dangoswyd delweddau eraill o bensaernïaeth Gothig Gogledd Ewrop a’r modd y mae’r bensaernïaeth honno’n adlewyrchu coedwigoedd du a thywyll y rhanbarth, gyda choed pigfain uchel iawn.

Hefyd, siaradodd Gareth am y sgiliau y mae’n rhaid i benseiri feddu arnynt wrth ddylunio mannau crefyddol, oherwydd yn ogystal â deall a gwerthfawrogi’r gofynion crefyddol penodol o safbwynt dylunio, rhaid iddynt hefyd ddeall a gwerthfawrogi’r modd ehangach y defnyddir mannau o’r fath, yn cynnwys digwyddiadau dathlu/coffa, cynulliadau cymunedol, offrymau crefyddol, a gofynion acwstig i enwi dim ond rhai.

Ein hail siaradwr oedd Rebekah Taylor, myfyriwr PhD, a ymunodd â’r sesiwn trwy gyfrwng Teams oherwydd rhesymau iechyd.  

Pwnc Rebekah oedd ‘Ailadeiladu Tameidiau o Weddillion Dynol ar Ffurf 3D mewn Anthropoleg Fforensig’.  Dangosodd Rebekah dechnegau sganio 3D ar gyfer ailadeiladu esgyrn toredig mewn modd rhithwir. Trwy ddefnyddio’r technegau hyn, gellir mesur ac adnabod yr esgyrn yn fwy manwl. Un fantais yw’r ffaith y gellir arosod tameidiau o esgyrn coll trwy ddefnyddio meddalwedd gyfrifiadurol.

Soniodd Rebekah am y nod o greu Gweithdrefnau Gweithredu Safonol ar gyfer ailadeiladu 3D, fel y bydd modd sefydlu dulliau profedig a dibynadwy a chanddynt ganlyniadau ailadroddadwy y gellir eu defnyddio mewn llysoedd i gynorthwyo rheithgorau, yn yr un modd ag y defnyddir profion DNA a Thocsicoleg.

Siaradodd Rebekah am ganlyniadau cadarnhaol y gwaith ymchwil cyfnod cynnar, trafododd y cyfyngiadau a’r cyfleoedd, a soniodd am y modd y bydd ymchwil PhD yn y dyfodol yn archwilio ysgerbydau cyfan gan ymchwilio i gywirdeb modelau, gwerthuso gweithdrefnau a throsi’r technegau fel y gellir eu defnyddio ar weddillion cyfoes.

Pynciau diddorol dros ben!

Edrychwn ymlaen at weld pawb yn y Seminar Ymchwil FAST nesaf a gynhelir ar 29 Tachwedd yn B21 – y tro hwnnw, bydd y timau Cyfrifiadura a Pheirianneg yn arddangos eu hymchwil. Bydd Dr Phoey Teh yn sôn am Gyfrifiadura Cymdeithasol, a bydd Jhon Paul Roque yn sôn am Optimeiddiad Topolegol Llafnau Gorchuddiedig. Ni fydd angen ichi neilltuo lle, dim ond galw heibio. Darperir lluniaeth.