Digwyddiad Agored ar gyfer Ymchwil, Ionawr

Ionawr 2024

Ym mis Ionawr, cafodd sesiwn nesaf Digwyddiad Agored ar gyfer Ymchwil ei gynnal ar y campws ond fe wnaed hynny'n hybrid er mwyn caniatáu i rai sy'n gweithio oddi ar y campws fynychu. Cafwyd cyflwyniad chwe munud yr un gan Hayley Douglas, Uwch-ddarlithydd mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, Nettie Thomas, Darlithydd Nyrsio Iechyd Meddwl (Llanelwy), Fern Mitchell, Darlithydd/Gweinydd-ydd Seicoleg, a Dr Nikki Lloyd-Jones, Uwch-ddarlithydd Nyrsio (campws Wrecsam).

Dechreuodd Hayley drwy siarad am Ddatblygu Cymunedol Seiliedig ar Asedau (ABCD), sy'n fath o ddatblygiad cymunedol. Mae ABCD yn ddull sy'n ymchwilio i ba gryfderau sydd gan y gymuned eisoes, e.e., "beth sy'n gryf, nid beth sydd o'i le", a gweithio dros hyn sydd ei angen ar y gymuned yn hytrach na'r hyn mae gweithwyr proffesiynol yn ei gredu sydd ei angen arni. Mae'r prosiect ymchwil yn golygu gwerthuso Rhaglen Ddwys Gymysg ar gyfer gweithwyr ieuenctid a chymunedol a ymgymerodd â symudedd rhyngwladol gyda myfyrwyr o bob rhan o Ewrop, er mwyn deall sut maent wedi dysgu o'r profiad hwn a'i gymhwyso i'w harferion gwaith ieuenctid. Yn ystod eu profiad o wythnos yn y Ffindir, dysgodd y myfyrwyr ddulliau ethnograffig Bywgraffiad a Datguddiad.

Mae Hayley yn gweithio'n barhaus gyda phrifysgolion eraill yn yr Almaen, Iwerddon, Sweden a'r Ffindir, gan ddefnyddio holiaduron dilynol. Gan edrych ar bob rhan o'r ddwy garfan sydd wedi cymryd rhan, mae'r canfyddiadau hyd yma yn dangos bod pawb wedi mwynhau eu profiadau a'u teithiau dysgu, a oedd o fudd er mwyn ddeall y gymuned ac annog perthnasoedd cadarnhaol rhwng pobl ifanc a'r gymuned. Un rhwystr a nodwyd oedd bod mynd â'r gwersi hyn yn ôl i sefydliadau yn aml yn frwydr. 

Nesaf, rhoddodd Nettie Thomas gyflwyniad i'w cais i'r Gystadleuaeth Ymchwil Delweddu y llynedd, a oedd yn dwyn y teitl 'Irlen's, it's not just black and white'.  Eglurodd Nettie mai cyflwr prosesu gweledol yw Irlen sy'n golygu fod geiriau ar dudalen neu sgrin symud o gwmpas neu greu siapiau a phatrymau, gan ei gwneud hi'n anodd iawn eu darllen.

Cefndir gwyn gyda thestun du arno oedd y ddelwedd, ond yn hytrach na chael ei fformatio fel paragraff taclus, cyflwynwyd y testun i efelychu'r hyn y gallai person ag Irlen ei weld wrth geisio ei ddarllen. Daeth y ddelwedd yn ail ar y cyd, ac amlinellodd Nettie eu taith bersonol o ddarganfod Irlen a chael yr help haeddiannol yr oedd ei angen arnynt trwy ddiagnosis a sbectol arlliw arbennig. Gorffennodd Nettie gyda rhai awgrymiadau ymarferol ar gyfer gwrandawyr: osgoi testun du ar gefndir gwyn ar gyfer eich cyflwyniadau, dogfennau, a chyfathrebu eraill, a rhannu ffeiliau gwreiddiol (e.e., PowerPoint) fel bod modd golygu'r rhain er mwyn iddynt fod yn gyfforddus ar gyfer dewisiadau personol y darllenwyr.

Ein trydydd siaradwr oedd Fern Mitchell, a ymunodd â ni ar-lein. Trafododd Fern eu presenoldeb mewn cynhadledd ddiweddar: cangen Gymreig Cymdeithas Seicolegol Prydain, Cymunedau Cysylltiedig. Roedd hon yn sgwrs bersonol arall, lle'r aeth Fern ati i roi amlinelliad o'r daith gorfforol i'r gynhadledd, a oedd yn cyd-fynd gyda'u taith o fod yn 'ddewrach'. Tra oedd ar drên orlawn, wynebodd Fern gynulleidfa anffurfiol a chyflwynodd eu sesiwn gynhadledd i lond cerbyd trên lle roedd pawb wedi'u gwasgu fel sardîns, a chafodd dderbyniad da.

Yn y gynhadledd ei hun, dywedodd Fern fod yna amrywiaeth o fyfyrwyr yn mynychu, a oedd o gymorth i rwystro unrhyw ymdeimlad o syndrom y ffugiwr, ac nid oedd yr awyrgylch mor ffurfiol â'r disgwyl. Roedd Fern hefyd yn gyd-enillydd 'cyflwyniad gorau' a diolchodd i'r tîm ymchwil am y wobr datblygu ymchwil oedd wedi cynorthwyo eu taith.

Yn olaf, siaradodd Nikki am ACPau, sef Uwch Ymarferwyr Clinigol, a'r profiad o gyflwyno ymchwil i addysg ACPau. Mae'n bosib nad yw Ymarferwyr Clinigol erioed wedi ymgymryd ag ymchwil ffurfiol yn ystod eu gyrfa broffesiynol, ac yn aml nid yw cychwyn ar gymhwyster lefel Meistr gydag ymchwil fel pwnc anymwthgar yn cael ei werthfawrogi fel rhywbeth sy'n cyfrannu at ddatblygu eu gallu clinigol. Eglurodd Nikki bod y myfyrwyr yn aml yn poeni'n arw am ehangu eu hatebolrwydd proffesiynol yn hytrach na dod yn ymchwilwyr gweithredol.

Fodd bynnag, mae Nikki yn gwneud cynnydd gwych wrth gasglu eu dealltwriaeth o ymchwil, sydd â gwybodaeth am ymchwil yn sail iddo, gan weithio gyda'r profiad sydd ganddynt. Mae hyn yn cynnwys eu cynorthwyo i 'ddarllen â phwrpas' ac adeiladu ar eu dealltwriaeth. Un strategaeth a ddefnyddiwyd gan Nikki er mwyn dysgu dulliau ymchwil i'r myfyrwyr oedd rhoi'r un pwnc i bob un ohonynt i'w ymchwilio ond gan adael iddynt hwy benderfynu ar y dull ymchwilio. Roedd hyn o gymorth iddynt allu cofleidio'r cysyniad o ymchwil yn llawn, cael y person i fynegi ei ragdybiaethau a datblygu ei fethodoleg ei hun tuag at ymchwilio i fater o ymarfer. Gan ddefnyddio'r rhagdybiaeth o wella atebolrwydd yr ymarferwyr, mae'r myfyrwyr yn ffurfio dealltwriaeth ynghylch datblygu dadl gadarn gan ddefnyddio egwyddorion proses ymchwil ddisgybledig a chymeradwy.

Diolch i'n holl siaradwyr gwych – edrychwn ymlaen at y sesiwn Digwyddiad Agored ar gyfer Ymchwil nesaf ym mis Ebrill.