Diwrnod Rhuban Gwyn 202

Gan Helena Barlow 

Cynhelir Diwrnod Rhuban Gwyn 2023 ar 25 Tachwedd. Ar y dyddiad hwn hefyd bydd ymgyrch 16 diwrnod yn dechrau i roi diwedd ar drais ar sail rhywedd – sef ymgyrch a fydd yn para tan y Diwrnod Hawliau Dynol a gynhelir ar 10 Rhagfyr. 

Ar y Diwrnod Rhuban Gwyn, byddwn yn cofio’r merched a’r genethod sydd wedi dioddef trais o du dynion. Rydym yn gofyn i bob dyn #NewidYStori ac ymrwymo i addewid y Rhuban Gwyn, sef peidio â defnyddio trais yn erbyn merched, peidio â’i esgusodi a pheidio ag aros yn dawel yn ei gylch. Ymrwymwch i Addewid y Rhuban Gwyn. 

Mae trais dynion yn erbyn merched a phlant yn broblem fyd-eang. Mae’n cynnwys cam-drin domestig, rheolaeth drwy orfodaeth, stelcio ac aflonyddu. Erbyn hyn, caiff cam-drin domestig ei gydnabod yn eang mewn perthnasoedd, ond nid oes digon o waith ymchwil wedi’i gynnal er mwyn gweld i ba raddau y mae dynion yn stelcio ar ôl i’r berthynas ddod i ben. Yn ôl y sôn, mae 1 o bob 5 o ferched wedi cael eu stelcio ar ryw adeg yn eu bywydau; ac mewn 39% o achosion, y cyn-bartner sy’n gyfrifol am wneud hyn. 

Rydw i’n Ddarlithydd Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Wrecsam. Ar hyn o bryd, rydw i’n mynd i’r afael â gradd PhD, gan ymchwilio i brofiadau merched o stelcio a’r modd y maent yn rhyngweithio â gwasanaethau. Nod fy ngwaith ymchwil yw deall profiadau bywyd merched sydd wedi cael eu stelcio gan eu cyn-bartneriaid a phennu arferion da ac argymhellion ar gyfer gwelliannau fel y gellir gwella’r cymorth a roddir i ferched. I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil, anfonwch e-bost ataf: helena.barlow@glyndwr.ac.uk. 

Yn ôl y cyfryngau, caiff dwy ferch eu lladd bob wythnos yn y DU gan eu partner cyfredol neu eu cyn-bartner. Ond awgryma ymchwilwyr academaidd fod y ffigur gwirioneddol yn fwy o lawer, a bod o leiaf 10 o ferched yn cael eu lladd bob wythnos yn y DU oherwydd camdriniaeth a thrais ar sail rhywedd. Mae stelcio yn ffactor risg uchel mewn perthynas â lladdiadau merched. (Monckton Smith, Szymanska, a Haile, 2017). 

Caiff stelcio ei ddisgrifio fel patrwm ymddygiad ailadroddus ac ymwthiol, ac mae modd i unigolion gael eu stelcio am fisoedd, neu flynyddoedd hyd yn oed. Gall difrifoldeb y stelcio amrywio a gall achosi niwed seicolegol a chorfforol mawr, gan effeithio ar bob agwedd ar fywydau’r merched a’u teuluoedd. Efallai y bydd ambell ymddygiad yn eithaf diniwed yr olwg ar ei ben ei hun, megis cael anrhegion neu alwadau ffôn mynych gan bartner sy’n dymuno ailafael yn y berthynas, ond buan iawn y gall hyn ddatblygu’n batrwm ymddygiad ymwthiol. Yn aml, caiff dynion sy’n stelcio eu cyn-bartneriaid eu ‘goddef’, ac efallai y bydd y ferch yn gyndyn o geisio help – efallai y bydd yn ei beio’i hun neu efallai na fydd yn gwybod am y gwasanaethau sydd ar gael i’w chynorthwyo. Mae stelcio yn drosedd (Deddf Diogelu Rhyddidau 2012), ac mae’r gyfraith yn datgan y gellir dedfrydu troseddwyr o’r fath i hyd at 5 mlynedd yn y carchar. 

Nod y blog hwn yw tynnu sylw at stelcio ac annog unigolion sy’n dioddef ymddygiad o’r fath i geisio cymorth a chodi llais. 

Asiantaethau 

Yr Uned Diogelwch Trais Teuluol neu ffoniwch 01978 310203 / llenwch y Ffurflen Gyswllt ar-lein 

Y Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol neu ffoniwch 0808 802 0300 

Gwasanaeth Eiriolaeth Stelcio Paladin 

 

 

Cyfeiriadau  

Monckton-Smith, J. (2021). In Control. Llundain: Bloomsbury Publishing. 

Monckton-Smith, J., Szymanska, K. a Haile, Sue. (2017) Exploring the Relationship between Stalking and Homicide. Project Report. Prifysgol Swydd Gaerloyw ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh, Cheltenham. https://eprints.glos.ac.uk/4553/.

White Ribbon Day. (2023). ‘Ending violence against women and girls starts when we #ChangeTheStory’. Ar gael ar: https://www.whiteribbon.org.uk/white-ribbon-day-2023.