Blog Ymchwil Delweddu 2024, Dr Gwennan Hâf Barton

Mae’r gystadleuaeth Ymchwil Delweddu wedi bod yn llinyn cyffredin trwy gydol fy nhaith Ddoethuriaeth a thu hwnt yn Wrecsam; mae’n ased i’r gymuned ymchwil yn y Brifysgol. Rwyf wedi cyflwyno sawl ymgais dros y blynyddoedd ac roeddwn i’n ffodus iawn o dderbyn y wobr gyntaf ar un achlysur. I mi, mae’n gyfle creadigol drwy gydol y broses ymchwil sydd wedi caniatáu i mi fyfyrio ar fy nhaith. Mae pob ymgais newydd wedi fy ngalluogi i feddwl am fy ymchwil o safbwynt gwahanol wrth iddo esblygu a chynhyrchu syniadau newydd o ran sut i gyfleu fy ymchwil i gynulleidfaoedd newydd drwy’r lens.

Roeddwn i’n ymwybodol wrth gyflwyno fy ymgais y llynedd mai hwn fyddai’r olaf o safbwynt ymchwilydd doethuriaeth, felly roedd yn bwysig i mi ddal hyn yn ei hanfod. Teitl yr ymgais oedd “Llywio taith ymchwil doethur: tirnodau allweddol a datblygiad”. Gellir gweld y ddelwedd yn yr Oriel uwchben y dderbynfa ar gampws Ffordd yr Wyddgrug ochr yn ochr â chyflwyniadau gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Wrecsam.

Roedd y dylanwad ar gyfer y ffotograff yn deillio o brofiadau trwy gydol fy nhaith doethuriaeth a datblygu ymchwil. Dywedodd person doeth unwaith fod doethuriaeth yn ymwneud â’r daith i ddod yn ymchwilydd cyflawn. Roedd fy ymchwil ddoethuriaeth yn canolbwyntio ar sut mae unigolion â mathau gwahanol o bersonoliaethau yn llywio taith ac yn cofio amgylcheddau gan ddefnyddio tirnodau. Roeddwn i’n teimlo ei bod yn addas portreadu fy nhaith trwy adlewyrchu fy mhwnc ymchwil, gan arddangos rhai o’r tirnodau allweddol trwy gydol y ddoethuriaeth. Roeddwn i hefyd eisiau cyfleu pwysigrwydd gwahaniaethau unigol, fel personoliaeth, sydd wrth wraidd fy ymchwil ac annog unigolion i fyfyrio ar eu teithiau nhw eu hunain. Efallai y bydd rhai ohonom yn dod ar draws amgylcheddau a sefyllfaoedd cyffredin, fel ymgymryd â doethuriaeth, sy’n gofyn am ddefnyddio’r un swyddogaethau gwybyddol, sylw, cynllunio, gwneud penderfyniadau a’r cof i’w lywio. Mae rôl gwahaniaethau unigol, fodd bynnag, yn ein galluogi i ddeall beth sy’n gwneud y profiadau a’r canfyddiadau o’r daith yn gofiadwy ac yn unigryw i bob un ohonom ni.

Mae’r llun yn darlunio fy nhaith ymchwil bersonol gan ddefnyddio’r tirnodau allweddol hyn. Mae’r ddelwedd wedi’i gosod mewn ‘coridor’ o lyfrau yn llyfrgell y brifysgol, lle treuliais lawer iawn o amser fel ymchwilydd doethuriaeth. Mae’r rhesi o lyfrau yn symbolaeth o’r swm helaeth o wybodaeth y gwnes ei chaffael drwy gydol y broses ymchwil. Mae’r llun a grëwyd yn amlygu tirnodau pwysig drwy gydol fy nhaith. Roedd y bylb golau yn dangos datblygiad fy syniad ymchwil. Roedd yr amgylchedd rhithwir, traciwr llygad, a’r dechnoleg i gofnodi adalw i’r cof yn dangos fy nghyfnod casglu data lle bu i mi harneisio sgiliau newydd. Roedd y cyflwyniad poster yn symboleiddio fy nghyflwyniadau cynhadledd a’r grant datblygu ymchwil y gwnes i ei dderbyn i gyflwyno fy ngwaith yn Glasgow. Fe wnes i recordio podlediad yn stiwdio’r Brifysgol i ehangu fy nghynulleidfa ymchwil. Yn olaf, mae ffenestr lachar ar ben y coridor gyda mi’n dal fy nhraethawd hir ar y diwrnod y bu i mi basio fy viva, gan symboleiddio diwedd fy nhaith ddoethuriaeth a dechrau newydd fel Darlithydd mewn Seicoleg Wybyddol ac ymchwilydd.