NEWID HINSAWDD: PAM GYMAINT O AMHEUAETH A SEGURDOD?

Ysgrifennwyd y blog hwn gan David Sprake, Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd Rhaglen ar gyfer Ynni Adnewyddadwy a Thechnoleg Gynaliadwy yma ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.

Rwyf wedi bod yn ymchwilio a dysgu am newid hinsawdd am tua 20 mlynedd bellach, a dal yn cael fy synnu gan faint o wybodaeth angywir sydd ar-lein, mewn papurau newydd ac yn fwy ofidus, gan wleidyddion sydd yn gwneud penderfyniadau fydd yn effeithio llawer o genedlaethau i ddod. 

Mae’n debyg fod rhai sydd yn darllen ychydig o erthyglau neu’n gwylio ychydig o fideos YouTube yn meddwl eu bod nhw’n arbenigwyr ac i’w weld eisiau gorfodi eu “harbenigedd” ar gynulleidfa ehangach, yn aml heb sylweddoli eu bod nhw’n lledaenu wybodaeth anghywir neu amheuaeth am gyflwr presenol dealltwriaeth gwyddonol.  

Tybed os ydi’r fath bobl yn meddwl nad ydi’r ymchwilwyr ac arbenigwyr ddim wedi meddwl am y pwyntiau maen nhw’n eu codi ac wedi ystyried eu dadleuon penodol o’r blaen (maen nhw wedi).

Mae amheuwyr i’w weld yn cwyno fod ceisio atal newid hinsawdd yn ymosodiad ar ein ffordd o fyw, ein hawliau sifil a’n arian - ac yn dweud fod pobl sy’n cefnogi’r ymdrechion yn ffyliaid pan nad yw India a Tseina yn gwneud unrhyw beth (maen nhw – ond bydd mwy am hynny mewn blog arall)

Mae pobl eisiau gwybod beth sy’n wir, felly beth ydi’r prif wyddonwyr newid hinsawdd wir yn feddwl?  Papur gwyddonol yw lle mae gwyddonydd neu ymchwilydd yn cyhoeddi syniad newydd neu canlyniadau ynghyd ag esboniad helaeth o’r hyn maen nhw wedi’i gwneud, ac weithiau’n cynnig damcaniaeth newydd. Mae ymchwilwyr yn fwy amheuol o’u gwaith na neb arall. Caiff papurau eu cyhoeddi os yn hydynt yn haeddiannol, a dyma sut y gyflwynir damcaniaethau gwyddonol newydd o’r radd flaenaf. Cychwynnodd dancaniaethau Albert Einstein ac Isaac Newton mewn papurau.

Mae gwyddonwyr eraill, sydd wir eisiau darganfod y gwir, yn treulio dipyn o amser mewn cynadleddau a chymunedau ymchwil yn ceisio difrïo papurau gwyddonol newydd. Yn aml, mae hyn yn arwain at ddadlau ac ymrysonau chwerw rhwng damcaniaethau sydd yn parhau am flynyddoedd - ac weithiau nid oes consensws: hyn ydi’r proses adolygiad gan gyd-weithwyr.

Er hynny, ar ôl peth amser, os ydi’r achos yn ddigon cryf, mae’r mwyafrif o bobl sydd yn deall y pwnc orau’n cytuno ac mae gwirionedd gwyddonol yn ymddangos.

Y consensws cyffredin am newid hinsawdd yw bod 97% o wyddonwyr hinsawdd yn cytuno fod yn ffenomen o waith dyn. Daw hyn o waith Cook lle’r edrychodd ar lawer o astudiaethau gwahanol ac yn ymchwilio’r papurau oedd o blaid ac yn erbyn newid hinsawdd. Casgliad Cook oedd bod y saith bapur yn cytuno 97%, 91%, 97%, 93%, 100%, 97% a 97%. Cyhoeddodd Cook ei gasgliadau mewn papur, Consensus on Consensus. Mae’r ymchwil yn gywir, er gwaethaf ymdrechion rhai amheuwyr i’w gwrthbrofi.

Gwneir ymchwil ar lefel dwys iawn ar newid hinsawdd, er enghraifft mae Science Direct (cyhoeddwr cymeradwy) wedi cyhoeddi 514,418 o bapurau oedd yn sôn am newid hinsawdd. Yn 2018-19 (hyd at fis Mehefin) mae 81,332 wedi cael eu cyhoeddi. Yn ôl y consensws 97%, byddech yn disgwyl tri o bob 100 bapur - cyfanswm o 2,439 papur - i fod yn amheus. Pe baswn i ddim ond yn dweud wrthoch chi am y 2,439 papur a gwadu bodolaeth y 78,893 sydd yn cytuno â’r consensws, mi fuasai’n hawdd iawn i dwyllo pobl.