PUM PRIF AWGRYM AR GYFER ADOLYGU

A student working in The Study

Rydych chi wedi ymlacio a mwynhau eich amser rhydd, ac mae’n amser gweithio nawr - ond does dim byd gwaeth na chyrraedd diwedd pythefnos o seibiant a theimlo’ch bod chi wedi gwastraffu’ch amser, ac y gallwch chi fod wedi gwneud llawer mwy i baratoi ar gyfer eich arholiadau.

Peidiwch â threulio 5 awr yn llunio amserlen adolygu wedi ei chodio â lliwiau…

A meddwl wedyn ‘dyna ni ddigon ar gyfer heddiw’ heb wneud dim gwaith o gwbl. Mae cynllunio beth rydych am ei astudio’n syniad wych, ond peidiwch â mynd drws ben llestri – nid dyna fydd yn cyfri tuag at eich gradd (yn anffodus!).

Ychydig ac yn aml

Os oes gennych chi ddarn mawr o waith i fynd drwyddo, peidiwch â mynd i banig a cheisio gwneud pob dim yn syth. Torrwch y gwaith i lawr i ddarnau llai (pennod, 500 gair 30 munud) a chymryd seibiant wedyn. Byddwch yn llawer mwy tebygol o gofio wybodaeth mewn darnau hawdd eu trafod.

Daliwch ati!

Os ydych chi’n bwriadu edrych ar 3 modiwl dros 3 diwrnod - cadwch at hynny. Ac os ydych chi wedi anghofio ei bod hi’n ben-blwydd eich Nain yn 70 mlwydd oed a bod cinio mawr wedi ei drefnu ar gyfer y teulu ar y diwrnod rydych chi wedi trefnu sesiwn adolygu - peidiwch â newid eich cynllun yn llwyr! Derbyniwch nad ydych chi, mae’n debyg, am wneud unrhyw beth y diwrnod hwnnw, a threfnwch eich bod yn gwneud hynny'r diwrnod canlynol…neu’r diwrnod cynt…os ydych chi wirioneddol am gadw trefn ar bethau.

Dewch i wybod beth sy’n gweithio i chi

Mae pobl yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd. Mae’n debyg eich bod chi wedi adolygu gyfer arholiad o’r blaen ac felly mae’n bosib fod gennych chi ryw fath o syniad sut ddysgwr ydach chi. Os na, yna mae llawer o brofion a chwisiau i’ch helpu i wybod. Efallai mai dysgwr gweledol ydych chi neu fod angen ichi wneud pethau’n lliwgar ac yn seiliedig ar ddelweddau, neu efallai bod yn well gennych chi ail-ysgrifennu neu ddarllen eich nodiadau allan yn uchel. Mae’n bwysig canfod beth sy’n gweithio orau i chi.

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun

Cofiwch nad chi yw’r unig berson sydd wrthi’n adolygu neu’n cael eich llethu gan waith cwrs. Ac mae yna bobl a chyfleusterau i’ch helpu chi. Cysylltwch â’ch tiwtor personol os oes gennych chi broblemau gyda’ch gwaith cwrs - eu swydd nhw yw eich cynorthwyo i wneud y gorau medrwch chi - felly cadwch mewn cysylltiad gyda nhw! Peidiwch ag anghofio bod y llyfrgell hefyd yn llawn cyfrifiaduron ac ardaloedd astudio os oes angen lle arnoch chi i ganolbwyntio.

I ganfod mwy am gefnogaeth astudio cliciwch yma.

 

Ysgrifennwyd gan Hannah Lea, Swyddog Cyfathrebu Digidol ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.