"The Magic of Paint"

A fine art student painting

Mae'r artistiaid a’r ymchwilwyr, Dr Susan Liggett a Dr Megan Wyatt, wedi cyhoeddi pennod llyfr, ‘The Magic of Paint’ yn ‘The Practical Handbook Of Living With Dementia’ (PCCS books, 2022). Mae’r llyfr hwn yn ymgymryd â dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth gefnogi pobl sy’n byw â dementia a’u teuluoedd, i herio’r stigma sydd ynghlwm â'r cyflwr.

Drwy beintio ochr yn ochr â chyfranogwyr, cynigiodd Sue a Megan brofiad un-i-un pwrpasol, yn helpu unigolion sy’n byw â dementia i beintio, sy’n gwella eu llesiant. Aethant ati i ddadansoddi'r gweithgaredd hwn ac egluro ‘sut’ mae peintio’n galluogi mynegiant o atgofion a theimladau, myfyrdod, yn ogystal â chynnig profiad trochol. 

Mynegi atgofion a theimladau

Yn aml, mae pobl sy’n byw â dementia’n cynnal bywyd mewnol cyfoethog; gellir cynnal eu galluoedd emosiynol hyd yn oed pan nad ydynt bellach yn gallu cyfathrebu ar lafar. Mae peintio’n galluogi unigolion i fynegi’r emosiynau hyn heb ddibynnu ar eiriau, a gall gynnig ffordd newydd o gyfathrebu ar gyfer pobl sy’n byw â dementia, a all gynnig teimladau o ryddhad a chysur iddynt. Gellir defnyddio lliw, ffurf, ac ystumiau fel ffyrdd o fynegi wrth beintio, ac mae’r ffordd hon o fynegi yn opsiwn hyd yn oed os yw gallu llafar unigolyn wedi’i amharu arno. 

Myfyrdodau 

Wrth beintio, rydych yn myfyrio ar gysylltiad cynhenid rhwng y lliw, marciau a chyfosodiad y gwaith, gyda phob un yn dylanwadu ar ei gilydd. Mae pobl sy’n byw â dementia’n gallu defnyddio’r ffordd hon o fyfyrio o fewn y broses beintio, hyd yn oed os nad ydynt yn gallu cyfathrebu hyn ar lafar. Gall myfyrio o fewn y broses beintio hyrwyddo dulliau o feddwl, nad ydynt yn rhai llafar, sy’n cefnogi pobl sy’n byw â dementia i wneud penderfyniadau a myfyrio. Mae hyn yn rhywbeth na fyddant bob amser yn gallu ei wneud yn hawdd fel arall. 

Ar ben hynny, mae’r cylchredau cyson o fyfyrio sy’n codi wrth beintio yn hybu teimladau o ryddid a natur ddigymell. Oherwydd hynny, dylid defnyddio peintio i hyrwyddo teimladau o annibyniaeth ar gyfer pobl sy’n byw â dementia, ac fel llwybr amgen at eu cefnogi i gynnal ychydig o reolaeth, hyd yn oed ar ôl i'w galluoedd llafar ddirywio. 

Trochi 

Gall peintio hybu profiadau trochol ar gyfer pobl sy’n byw â dementia, a all yn ei dro wedyn wella hunan-barch a hyder. Gall natur dementia olygu ei fod yn aml yn anodd prosesu’r dyfodol neu’r gorffennol yn wybyddol, a gall hynny orfodi pobl i fyw yn y presennol. Gall ymgysylltu â phrofiad trochol hefyd gynnig dihangfa rhag teimladau negyddol ac annog rhywun i ymlacio ac ymdawelu. 

Casgliad

Dylid cydnabod peintio fel ffordd o gefnogi pobl sy’n byw â dementia i fanteisio ar brofiadau newydd a datblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth. Gall y ffocws hwn ar alluoedd pobl yn hytrach na’u hanawsterau eu cefnogi i deimlo ymdeimlad o bwrpas ac integreiddiad â chymdeithas. 
Mae The Practical Handbook Of Living With Dementia, wedi’i gyhoeddi gan PCCS Books (2022), ar gael o PCCS am £25.00 neu o Amazon am £25.99.