Athro Aulay Mackenzie

Dirprwy Is-ganghellor (Partneriaethau)

    Wrexham University

    Ymunodd Aulay â’r Brifysgol fel Dirprwy Is-Ganghellor ym mis Rhagfyr 2016. Mae’n gyfrifol am bartneriaethau (y DU a rhyngwladol), menter ac arloesi a recriwtio myfyrwyr rhyngwladol.

    Mae ei gefndir academaidd mewn ecoleg esblygiadol a phoblogaeth (BSc (Anrh) Caeredin, PhD East Anglia), a bu’n aelod o gyfadran yr Ysgol Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Essex, yn dysgu ac yn ymchwilio yn y maes hwn.

    Mae Aulay hefyd wedi dal swyddi Dirprwy Is-Ganghellor (Partneriaethau) ym Mhrifysgol Teeside, Pennaeth yr Edge Hotel School, a Deon Partneriaethau Academaidd ym Mhrifysgol Essex. Mae ganddo brofiad helaeth yn natblygiad a goruchwyliaeth partneriaethau addysgol, yn y DU a thramor.
    Cymerodd ran mewn prosesau sicrhau ansawdd addysg uwch gydag Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU, yn gweithredu fel archwilydd, adolygydd a rheolwr adolygu o dan nifer o fethodolegau gwahanol (yn cynnwys Pwerau Dyfarnu Gradd) ac yn cynnwys adolygiadau o brifysgolion Rhydychen, Loughborough, Leeds Metropolitan, BPP, Birkbeck (Prifysgol Llundain) a Chaerdydd, yn ogystal â nifer o golegau preifat. Ar hyn o bryd ef yw Cadeirydd y Cyngor Dilysu Prifysgolion, un o gyrff y sector addysg uwch.

    Mae gan Aulay arbenigedd mewn dysgu drwy fanteisio ar dechnoleg a chyflwyno addysg uwch ar-lein ac yn gyfunol a threuliodd ddwy flynedd yn y sector preifat mewn swyddi arweiniol yn y maes hwn.