Christopher Taylor

Uwch Ddarlithydd - Arbenigwr mewn Profiadau Andwyol yn ystod Plentyndod

Picture of staff member

 

Mae gan Chris Radd Feistr mewn Seicoleg gan y Brifysgol Agored. Mae ganddo hefyd ddiplomâu ôl-raddedig mewn gwyddorau cymdeithasol datblygu plant. Mae ganddo 30 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda phlant agored i niwed a rhai sydd wedi profi trawma, a llawer iawn o brofiad yn cyfrannu at adferiad i bobl ifanc, fel ymarferydd rheng-flaen a rheolwr. Bu’r bobl ifanc yn cyflwyno gydag ystod o broblemau ynghlwm wrth drawma ac anawsterau ymlyniad cynnar, gan gynnwys lefelau uchel o drais, hunan-anafu, dianc yn gyson ac ymddygiad rhywiol. 

Roedd yn rhan allweddol yn natblygiad partneriaeth iechyd a gofal cymdeithasol arloesol yn gweithio ar ymyriadau seico-gymdeithasol therapiwtig gyda phobl ifanc ag anawsterau iechyd meddwl ac anhwylderau personoliaeth, sy’n aml yn arddangos ymddygiad risg uchel, gan gynnwys hunan-anafu, parahunanladdiad ac sydd mewn perygl o gamfanteisio rhywiol a throseddol. 

Yn ogystal ag addysgu ar y radd Gofal Plant Therapiwtig, mae’n parhau i hyfforddi gweithwyr preswyl, gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol therapyddion, addysgwyr a rheolwyr ar elfennau ymlyniad ar ofal preswyl a maeth, ac addysg arbennig yn y DU a Gwlad Pwyl. Mae ei ddau lyfr ar ymarfer ag ymlyniad, trawma ac adfyd wedi’u cyfieithu i Bwyleg. Mae wedi siarad mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol ar hunan-anafu, gwaith therapiwtig, ymlyniad, trawma a Phrofiadau Andwyol yn ystod Plentyndod (ACEs). 

Mae Chris yn mwynhau bod yn yr awyr agored ac yn feiciwr brwd, gan feicio oddeutu 10000 cilomedr y flwyddyn.