David Elcock

Cyfarwyddwr Cyllid

    Wrexham University

    Ymunodd David â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam ym mis Mawrth 2016 fel Cyfarwyddwr Cyllid. Ef sy’n gyfrifol am holl agweddau ariannol strategol y Brifysgol. Ei brif swyddogaeth yw dyrannu a rheoli adnoddau, rhoi arweiniad strategol ac ariannol i sicrhau fod nodau ac amcanion y Brifysgol yn cael eu bodloni a datblygu’r holl bolisïau a gweithdrefnau angenrheidiol i sicrhau rheolaeth ariannol gadarn dros weithgareddau’r Brifysgol.


    Mae David yn gyfrifydd cymwysedig ac yn aelod o Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli a Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth. Dechreuodd ei yrfa mewn llywodraeth leol cyn ymuno â chwmni ymgynghoriaeth ag enw da yn genedlaethol gan ddiweddu ar Fwrdd y Cwmni fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau. Dilynwyd hyn gan gyfnod o bum mlynedd fel Cyfarwyddwr Cyllid o fewn cwmni cyfyngedig preifat technoleg ac ymchwil, cyn ymuno â’r Brifysgol.  


    Bellach yn Gyfarwyddwr Gweithredol Cyllid mae ganddo gyfrifoldeb dros wasanaethau Cyfreithiol a Chaffael y Brifysgol ochr yn ochr â’r swyddogaeth Gyllid. Mae ei wedi’u canoli ar gyllid a gweithrediadau o fewn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae ganddo wybodaeth helaeth am ofynion llywodraethiant a rheolaeth y sector cyhoeddus, wedi’i ategu gan ei graffter busnes o’r sector preifat a’i brofiad ymgynghorol.