Helen Craddock

Uwch Ddarlithydd Nyrsio Ymarfer Uwch

Picture of staff member

Profiad Clinigol

Rwy'n Uwch Ymarferydd Nyrsio gofalgar, hyblyg a gweithgar, gyda dros 20 mlynedd o brofiad nyrsio oedolion acíwt, gan arbenigo mewn Cardioleg, ac rwy’n dal i weithio'n rhan-amser mewn rôl glinigol. Ar ôl cwblhau fy hyfforddiant nyrsio drwy Brifysgol Cymru, Bangor, mae fy ngyrfa nyrsio wedi bod yn gyfyngedig i Wrecsam.

Mae fy mhrofiad clinigol wedi canolbwyntio ar feddygaeth, gan ddechrau fy ngyrfa gynnar mewn uned dibyniaeth fawr a gofal coronaidd meddygol cyfunol, dyma lle datblygais angerdd am gardioleg. Gan gymryd swydd newydd sbon Nyrs Asesu Poen y Frest, llwyddais i ddatblygu'r rôl yn yr Adran Achosion Brys a chael profiad acíwt amhrisiadwy ym maes gofal brys.

Fel aelod o dîm nyrsio asesu poen acíwt y frest, rwyf fi wedi gweithio yn gydweithredol ac yn gydweithrediadol â'r tîm amlddisgyblaethol, gan ddarparu cyngor, cefnogaeth, addysg a hyfforddiant arbenigol, mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, i gynorthwyo gofal cleifion, hwyluso datblygiad staff a gweithredu newid. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf fi wedi datblygu fy ngwybodaeth a sgiliau, gan gwblhau'r MSc Ymarfer Clinigol Uwch, ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, yn 2019. Fel Uwch Ymarferydd Nyrsio mewn Cardioleg, rwy'n parhau i fod yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso cleifion sy'n cyflwyno i'r adran frys, y ward acíwt, neu'r clinig cleifion allanol.

Mae fy mhrofiad yn cynnwys bod yn hyfforddwr Cynnal bywyd uwch, mae gen i angerdd am addysgu a chefnogi datblygiad staff, cynnal sesiynau addysgu amlddisgyblaethol rheolaidd, gydag unigolion a grwpiau o bob lefel.

Gyrfa Prifysgol

Wedi ymuno â'r tîm darlithio nyrsio ôl-raddedig ym mis Ionawr 2023, rwy'n newydd yn y swydd ac ar ddechrau fy ngyrfa academaidd. Rwyf fi bob amser wedi bod yn angerddol dros addysg ac mae gen i brofiad sylweddol o gefnogi staff a darparu cyrsiau ECG i ystod o staff. Rwyf fi wedi cefnogi'r tîm Ymarfer Clinigol Uwch fel gwirfoddolwr ac ar sail sesiynol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda chyflwyno'r modiwl asesu clinigol a'r rhesymu diagnostig, rhan 1. Rwy'n awyddus i gefnogi myfyrwyr gyda dysgu creadigol a datblygu sgiliau clinigol mewn ymarfer uwch.

Y Tu Allan i’r Gwaith

Yn ogystal â'm rolau nyrsio a darlithio, rwy'n gweithio ochr yn ochr â'm gŵr, fel partner busnes a chynorthwyydd gweinyddol ar ein fferm deuluol. Rwy'n treulio llawer o amser fel 'tacsi mam' a 'chynorthwyydd personol' i fy nhri o blant gweithgar a phrysur. Rwyf wrth fy modd â gweithgareddau awyr agored a threulio amser gyda ffrindiau a theulu yn cerdded, sgïo a charafanio.

I ymlacio rwy'n treulio amser yn garddio ac yn mwynhau coginio, fel teulu rydym ni’n cymryd rhan weithredol mewn gwaith ieuenctid gwirfoddol a chymunedol.