Karen Hughes

Uwch Ddarlithydd mewn Nyrsio

Picture of staff member

Ar ôl cymhwyso fel nyrs plant roeddwn yn ffodus i ddatblygu fy angerdd am nyrsio'r newydd-anedig yn fy swydd gyntaf ar uned gofal arbennig i fabanod. O hyn roeddwn yn gallu ehangu fy ngwybodaeth ac ymgymryd â chymwysterau ychwanegol mewn nyrsio gofal dwys y newydd-anedig. Roeddwn yn ffodus i ddod yn brif nyrs y newydd-anedig gymunedol a chynorthwyo teuluoedd yn eu cartrefi eu hunain. Galluogodd hyn i mi barhau ar fy siwrnai o ddysgu gydol oes a dod yn ymarferydd arbenigol mewn nyrsio plant cymunedol. O hyn roedd gen i rôl ddeuol fel nyrs plant cymunedol a nyrs arbenigol mewn dermatoleg paediatreg. O fewn fy rôl dermatoleg bu i mi ennill fy nghymhwyster rhagnodi annibynnol a alluogodd i mi gynnal clinigau dan arweiniad nyrsys i blant a phobl ifanc. Mwynheais y rolau hyn, ond roedd fy angerdd mewn nyrsio'r newydd-anedig o hyd a daeth cyfle i ddatblygu gwasanaeth gofal lliniarol y newydd-anedig ar gyfer hosbis plant. 
Cyn ymuno â Phrifysgol Wrecsam, roeddwn yn ddarlithydd ac yn arweinydd rhaglen ar gyfer nyrsio plant ym Mhrifysgol Bangor. Er mwyn fy helpu i ymlacio a dadflino (a fy nghadw’n ffit!!) gallwch gael hyd i mi yn mynd â fy nghŵn annwyl am dro ym mhob tywydd!