Lisa Formby

Arweinydd Ymchwil mewn Addysg

Wrexham University

Lisa yw'r Arweinydd Ymchwil Addysg, ac mae’n helpu i gydlynu a monitro ystod o brosiectau ymchwil sy'n cael eu cynnal yn yr adran ar hyn o bryd. Enillodd Radd Anrhydedd Dosbarth 1af ym Mhrifysgol Wrecsam, ac yna Gradd Meistr Gwyddoniaeth trwy Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor.

Cyn dod i Brifysgol Wrecsam, bu Lisa yn gweithio am 3 blynedd ar astudiaeth ymchwil dull cymysg yn archwilio teithiau diagnostig dynion sydd newydd gael diagnosis o ganser y prostad yng Nghymru. 
Ym maes addysg, mae Lisa wedi cyflwyno profiadau dysgu mewn amrywiaeth eang o sefydliadau gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, addysg bellach, clybiau ieuenctid a charchardai.

Mae Lisa yn angerddol am helpu i hwyluso newid i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac anfantais, a chefnogi cynhwysiant a lles. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys gwaith ieuenctid, cefnogaeth bontio i droseddwyr sy'n gadael carchar, datblygiad cymunedol mewn ardaloedd difreintiedig ac fel arweinydd prosiect ar gyfer timau amlasiantaeth sy'n canolbwyntio ar deuluoedd cymhleth mewn angen. Fe wnaeth blynyddoedd o brofiad fel hyfforddwr rhaglennu niwroieithyddol llesiant ganiatáu i Lisa alluogi eraill i wireddu eu potensial drwy sesiynau hyfforddi 1-1 a dylunio a chyflwyno gweithdai pwrpasol. Ymhlith y sefydliadau mae Lisa wedi eu cefnogi mae'r Uned Diogelwch Cam-drin Domestig, WeMindTheGap ac elusennau ffoaduriaid.

Mae ei hobïau a diddordebau yn cynnwys cariad at deithio, dylunio mewnol a manteision lles drwy'r awyr agored.