Lisa Sheriff

Uwch Ddarlithydd mewn Addysg SAC

Picture of staff member

Cyn ymuno â Thîm Addysg Prifysgol Wrecsam, roedd Lisa yn ymarferydd ysgol gynradd mewn ysgol drefol fawr. Roedd yn addysgu mewn amgylchedd dysgu amrywiol, lle dathlwyd cynhwysiant ac arloesedd. 
Yn ystod y cyfnod hwn bu Lisa yn ymwneud â phrosiect 'Ysgolion Creadigol' Cymru, gan ddefnyddio cyfryngau digidol i ymgysylltu â dysgwyr a'u herio; ymgorffori cyfleoedd arloesol ar gyfer cyflwyno cydrannau Cwricwlwm i Gymru 2022 yn ystod y camau o ddrafftio’r Cwricwlwm. 
Mae Lisa yn parhau i weithio gyda Chyngor Ymgynghorol Sefydlog Wrecsam ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, lle bu'n gyn-gadeirydd. Yn 2019, fe’i gwahoddwyd i ymuno â gweithgor Llywodraeth Cynulliad Cymru o ganlyniad i’w rhan ag Addysg Grefyddol, wrth baratoi ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022. 
Tra’n gweithio’n llawn amser, cwblhaodd Lisa ei gradd Meistr ym Mhrifysgol Wrecsam ac ymunodd â Chyngor y Gweithlu Addysgol fel Dilyswr Allanol yn mentora a hyfforddi Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) yng Nghymru, rôl y mae’n parhau i’w chyflawni. Mae hi'n cymryd rhan mewn astudiaethau doethurol ac mae ganddi ddiddordeb ymchwil mewn addysgeg dysgu ryngddisgyblaethol a thrawsgwricwlaidd ac awyr agored. 
Ers ymuno â Phrifysgol Wrecsam mae wedi gweithio fel ymchwilydd gyrfa gynnar yn archwilio dysgu awyr agored, a’r cysyniad o ‘ gynefin ’ mewn ystafelloedd dosbarth cynradd yng Nghymru. 
Er nad yw'n gweithio ym myd addysg, mae Lisa'n mwynhau cynorthwyo pobl ifanc yn y celfyddydau perfformio a chyfleoedd ar gyfer gweithgareddau awyr agored a chorfforol. Mae'n mwynhau amser yn yr awyr agored yn cerdded a garddio a theithio gyda'i theulu.