Liz Cade

Prif Ddarlithydd mewn Therapi Galwedigaethol

Picture of staff member

Yn gynnar yn 2020 camodd Liz i rôl arweinydd proffesiynol a phrif ddarlithydd ym maes pwnc Therapi Galwedigaethol, ar gyfer astudiaeth cyn-cofrestru ac ôl-radd.

Mae Liz wedi bod yn rhan o ddatblygiad a chyflwyniad y rhaglen Therapi Galwedigaethol ers 2004 ac mae wedi bod yn rhan o geisiadau ail-ddilysu a chontractau comisiynu llwyddiannus. Mae’n falch o arwain ar y rhaglen ac ar hyn o bryd dyma'r 2il yn y DU o ran boddhad myfyrwyr a’r 3ydd o ran rhagolygon i raddedigion. Mae’n aelod proffesiynol o Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol ac wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).

Dyfarnwyd Doethuriaeth i Liz mewn Gwyddor Iechyd gyda Phrifysgol Cymru yn 2021.

Cymhwysais ym 1987 a gweithiais yn glinigol yn awdurdodau iechyd Lerpwl a Chilgwri o fewn lleoliadau iechyd corfforol a meddyliol. Yn 1989 symudais i ofal cymdeithasol yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Cilgwri am 14 mlynedd a gyda Chyngor Sir Gaer cyn symud i rôl addysgiadol.

Fy maes arbenigedd clinigol yw gydag unigolion gydag anabledd hirdymor a hwyluso eu hannibyniaeth yn bennaf drwy addasiad tŷ, adferiad a darpariaeth offer. Mae gan y grŵp cleient yn aml anghenion cymhleth oherwydd salwch a chlefyd cronig ac yn buddio o dynnu rhwystrau sy'n atal yr unigolion hyn rhan fyw bywydau diogel ac ystyrlon.

Roeddwn yn mwynhau siarad â myfyrwyr ar leoliad pan roeddwn yn glinigwr ac yn 2004 cofleidiais rôl darlithydd ymarferwr ar y radd Therapi Galwedigaethol yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Cymerais rôl llawn amser yn addysg yn 2006 ac rwy'n parhau i gael rôl allweddol yng nghydlynu lleoliadau ar gyfer ein myfyrwyr ochr yn ochr â'm rôl addysgu. Mae hyn yn cynnwys datblygu cyfleoedd lleoliad newydd ac amrywiol i'n myfyrwyr brofi drwy gydol eu hyfforddiant.

Rwyf wedi ymwne3ud a datblygiad y rhaglen Therapi Galwedigaethol ers ei gychwyn yn 2004 a chymerais ran yn ddilysiad y cwricwla newydd oedd yn cynnwys cwrdd â'r safonau gofynnol gan y Brifysgol a'r cyrff proffesiynol ThG. Dechreuais fy rhaglen doethuriaeth broffesiynol yn 2012 ac rwyf ar hyn o bryd yn ysgrifennu am fy ymchwil.

Rwy'n mwynhau bywyd gwledig gyda fy nheulu. Rwy'n berchen ar geffyl rydw i'n cystadlu gyda fo, dau sbaniel afieithus ac ychydig o ieir.