Wrexham University

Ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa yw Tomos G. ap Sion yn cefnogi ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgol Wrecsam. Yn 2019 graddiodd o Brifysgol Stirling gyda BA (Anrh) mewn Athroniaeth a Chrefydd, cyn derbyn gradd MLitt mewn Epistemoleg, Meddwl, ac Iaith o Brifysgol St Andrews (2020) ac MSc mewn Seicoleg o Brifysgol Stirling (2021).

Mae bellach wedi derbyn cynnig i astudio am radd PhD ym Mhrifysgol St Andrews (2023) mewn Athroniaeth Gwyddoniaeth.

Mae diddordebau ymchwil Tomos G. ap Sion yn ymdrin â materion sy'n ymwneud ag ansawdd theori a methodoleg empirig yn y gwyddorau seicolegol a chymdeithasol, gan anelu at gefnogi cynnydd gwyddonol yn y disgyblaethau hyn.

Cyhoeddiadau

Blwyddyn Cyhoeddiad Math
2022 The psychological type profile of Salvation Army officers working within the United Kingdom: diversity, strengths, and weaknesses in ministry, MENTAL HEALTH RELIGION & CULTURE, 25. [DOI]
ap Sion, Tomos G.;Francis, Leslie J.
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid