Archwilio byd hynod ddiddorol Biocemeg ym Mhrifysgol Wrecsam

student in yellow

Fy enw i yw Veronica Bianco ac ar hyn o bryd rwy’n astudio Biocemeg ym Mhrifysgol Wrecsam.

O gymharu â’r mwyafrif o fyfyrwyr sy’n ymchwilio a dewis eu hopsiynau prifysgol, roedd y ffordd y dechreuais yn y brifysgol yn anarferol gan fod Prifysgol Wrecsam wedi cysylltu â mi, a fy newis i.

Rhoddodd y darlithwyr gyfle unigryw i mi fod yn fyfyriwr cyntaf eu rhaglen Biocemeg newydd sbon, ac roedd y cynnig cyffrous hwn yn rhy ddeniadol i’w wrthod.

Pam Prifysgol Wrecsam

Roeddwn yn camu i mewn i fyd dieithr pan benderfynais ymuno â Phrifysgol Wrecsam ond rwyf mor falch fy mod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw.

Cefais ymdeimlad o rywbeth arbennig o’r funud y cyrhaeddais i’r campws bywiog. Roedd yr awyrgylch cynhwysol, y corff myfyrwyr amrywiol, a’r syniad o ddosbarthiadau bychain wedi mynd â’m bryd ar ei union. Teimlodd fel y lle delfrydol i mi archwilio byd hynod ddiddorol Biocemeg a micro-organebau.

Roedd gen i brofiad proffesiynol blaenorol mewn rôl a oedd yn ymwneud â Biocemeg, gan i mi ddod o’r cefndir unigryw o weithio mewn bragdy ym Manceinion. Roedd y swydd hon yn golygu gofalu am feithriniadau burum a ddefnyddir yn y broses fragu, ac yno y datblygais ddiddordeb mawr mewn ffyngau. Sylweddolais fod gan y micro-organebau pitw, a oedd yn rhan o’r broses fragu, gyfrinachau a oedd yn ysu i gael eu datgelu, a chyneuodd hyn fy niddordeb brwd mewn Biocemeg a’m dechrau i ar fy nhaith i Brifysgol Wrecsam yn 27 mlwydd oed.

Manteisio ar gyferbyniadau diwylliannol: Yr Eidal o gymharu â’r DU 

Roedd fy nhaith i Brifysgol Wrecsam yn un llawn canfyddiadau academaidd sydd wedi fy ngalluogi i brofi cyferbyniadau diwylliannol. Fel rhywun o’r Eidal sy’n byw yn y DU, rwyf wedi sylwi ar ambell i wahaniaeth diddorol yn y system addysg, dulliau dysgu, a’r ddeinameg gymdeithasol.

Mae tirlun addysgol yr Eidal yn tueddu i fod yn fwy strwythuredig, gyda phwyslais ar wybodaeth ddamcaniaethol. I’r gwrthwyneb, mae dull Prifysgol Wrecsam yn rhoi’r pwyslais ar feddwl yn feirniadol, dysgu annibynnol, a chynhwysiad ymarferol. Mae’r trawsnewid hwn wedi fy herio i addasu, meddwl mewn ffordd wahanol a manteisio ar ddulliau dysgu deinamig y brifysgol. Yn ogystal, rwyf wedi gweld bod gan gymdeithasu mewn prifysgol yng Nghymru ei fanteision ei hun, ac mae yna gyfle i ymgysylltu â chorff myfyrwyr amlddiwylliannol, mynychu digwyddiadau bywiog, a chwrdd â phobl o wahanol gefndiroedd.

Yr hyn rwyf wir yn ei fwynhau am fy nghwrs Biocemeg 

Rwy’n gweld fy hun yn cael fy rhyfeddu drwy’r amser gan y byd micro-organebau, ac mae ffyngau yn agos iawn at fy nghalon. Yn fy meddwl i, pwy all faddau atyniad yr organebau dirgel, pitw sydd â chyfrinachau mawr i’w datgelu? Ar ein rhaglen, rydym yn treulio cryn dipyn o amser yn y labordy yn cynnal arbrofion ac ymchwil ymarferol. 

Rwy’n sylwi nad yw darllen llenyddiaeth wyddonol yn fwrn a’i fod yn helfa drysor cyffrous. Rwyf wrth fy modd gyda’r ffordd mae ein gwaith cwrs yn ein gwthio ni i ymdrochi ym myd ymchwil. Mae creu cyflwyniadau ac adroddiadau labordy hefyd yn ein herio ni i ganfod ac arloesi drwy ein dysg. Yr hyn sy’n gwneud Prifysgol Wrecsam yn wahanol i eraill yw cefnogaeth ein darlithwyr, academyddion, a thechnegwyr labordai. Maent yn fy ysbrydoli i seilio fy nghyflwyniadau, asesiadau, ac ymchwil ar yr hyn rwy’n ei fwynhau, yn hytrach nag ar yr hyn sydd wedi’i nodi mewn gwerslyfrau yn unig. Mae agwedd bersonol i’r ddysg sy’n cael ei llywio gan broses i’w dilyn wrth archwilio’r byd dieithr.

Dyheadau gyrfa yn y dyfodol

Dim ond megis dechrau ar fy mherthynas gydol oes â Biocemeg ydw i yma. Rwy’n gweld fy hun yn parhau yn y maes ymchwil yn y dyfodol, naill ai mewn sefydliad corfforaethol rhyngwladol mawr, neu yn y byd academaidd. Mae byd cymhleth ffyngau a bacteria yn dwyn fy sylw, yn arbennig mewn cyd-destun cwmnïau bwyd. 

Mae fy mhrosiect ymchwil hynod ddiddorol presennol ar gyfer fy nhraethawd hir yn bwydo i mewn i hyn ac yn canolbwyntio ar Feithrin Bacteria a Burum mewn ffordd Symbiotig, a elwir yn SCOBY, ar gyfer cynhyrchu Kombucha.

I atsain geiriau Ed Yong, un o fy hoff awduron gwyddoniaeth, “The world is a richer place when you turn scientific discovery into a story” ac mae fy stori i newydd ddechrau. Rwy’n benderfynol o droi fy niddordeb brwd mewn Biocemeg yn broffesiwn ac i gyfrannu at y gwead o ddealltwriaeth wyddonol sy’n esblygu’n barhaus. 

Cefais gyfle hefyd i ddatblygu fy mhrofiad proffesiynol fel Llysgennad Myfyrwyr ar gyfer y brifysgol. Mae hyn yn cynnwys teithio o amgylch y DU i fynychu digwyddiadau a ffeiriau UCAS lle caf gyfle i gynrychioli’r Brifysgol. Rwy’n gweld nad ymwneud yn unig â rhannu gwybodaeth y mae; mae’n ymwneud â chyfarfod pobl, creu cysylltiadau, a lledaenu’r brwdfrydedd am y dysgu ym Mhrifysgol Wrecsam.

I gloi

Roedd dechrau ar yr antur academaidd hon, ar ôl gadael y byd addysg am gyfnod, fel dechrau taith gyffrous i chwilio am wybodaeth, ac i mi, Prifysgol Wrecsam oedd y gyrchfan berffaith. 

Diffiniwyd fy astudiaethau gan dwf, diddordeb brwd, ac ymdeimlad o berthyn. Mae Prifysgol Wrecsam wedi codi o fod yn sefydliad dysgu yn unig, i fod yn ecosystem o brofiadau sy’n parhau i ddatblygu. Mae cymuned y brifysgol yn datblygu cysylltiadau, meithrin chwilfrydedd, ac yn cynnau’r awydd i fynd ar drywydd gwybodaeth. Newydd ddechrau ydw i ar fy antur i fyd Biocemeg, ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar i weld lle mae’n mynd â fi nesaf. Wedi’r cwbl, mae mynd ar drywydd gwybodaeth yn daith gydol oes, ac rwy’n barod i’w dilyn, un ficro-organeb ar y tro. 

Sicrhewch eich bod yn cael cipolwg ar ein graddau Biocemeg ac Israddedig i ganfod y cyfleoedd gwych sydd ar gael ym Mhrifysgol Wrecsam.