Chwilio am Brifysgol - sut i wybod pa brifysgol yw’r un iawn i chi

crime map

Gall dod o hyd i’r brifysgol iawn deimlo fel tasg aruthrol o fawr.

Rydym yn gwybod y gall fod yn her gorfod pwyso a mesur gormodedd o wybodaeth wrth geisio mynd ar drywydd gradd a fydd yn addas ar gyfer eich anghenion.  

Rydym wedi llunio casgliad o dactegau i chi eu defnyddio i’ch helpu i ganfod y cwrs gradd iawn, y lle gorau, a’r amgylchedd mwyaf croesawgar ar gyfer eich astudiaethau.

Penderfynwch pa gamau yr ydych am eu cymryd

Gofynnwch i’ch hun y cwestiynau sylfaenol a fydd yn eich helpu i bennu ffiniau eich chwiliad am brifysgol, ond hefyd, agorwch eich meddwl i beth yn union ydy’r pethau hynny sy’n bwysig i chi.

Cwestiynau sylfaenol:

  • Ydy’r brifysgol hon yn cynnig y cwrs sydd o ddiddordeb i mi?
  • Pa ganlyniadau TGAU a fydd eu hangen arnaf i gael ar y cwrs hwn?
  • Faint o gymwysterau Lefel A (neu gymwysterau lefel 3 eraill) a fydd eu hangen arnaf, a pha bynciau ddylwn i eu hastudio er mwyn gallu cofrestru ar y cwrs?

Mae’r atebion i’r cwestiynau hyn yn allweddol i’w hystyried wrth ddechrau ar eich proses o benderfynu lle i fynd i astudio.

Yr hyn y byddem yn ei awgrymu hefyd fyddai mynd â phethau gam ymhellach a meddwl am yr agweddau unigryw hynny sydd o bwys i chi.

Gyda meddwl agored, meddyliwch am y cwestiynau a ganlyn:

  • Ydy’r brifysgol hon yn bellach i ffwrdd o adref nag ydw i’n dymuno teithio?
  • Sut fath o le ydy ardal y brifysgol? Ydy hi mewn dinas neu ar gampws hunangynhwysol?
  • Ydy’r campws ar wasgar, neu wedi’i leoli mewn un lle?
  • Beth mae’r brifysgol yn ei gynrychioli?
  • Oes gan y brifysgol wasanaethau cefnogi da?
  • Beth yw’r costau teithio?
  • Oes yna unrhyw beth gwahanol am yr arddull addysgu ar y cwrs hwn?
  • A fyddai modd i mi yrru yno a pharcio fy nghar oes angen?
  • Oes modd i mi gael profiad gwaith yn ystod fy nghwrs? Ac a fydd y brifysgol yn fy helpu i ddod o hyd i leoliad?
  • Ydw i’n sicr o gael lle yn llety’r brifysgol ar gyfer fy mlwyddyn gyntaf?

Bydd yr atebion i’r cwestiynau hyn yn eich helpu i fapio’r camau y byddwch yn eu cymryd wrth fynd ymlaen. Er enghraifft, dywedodd Emma Telfer, sef un o’n myfyrwyr Seicoleg: “Mi wnes i benderfynu chwilio am brifysgol yr oeddwn i’n teimlo oedd yn gynhwysol”, a bod Wrecsam yn “cwrdd â’m holl ddisgwyliadau, a mwy.”

Mae Prifysgol Wrecsam wedi bod ar ben y rhestr ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol am chwe blynedd yn olynol (The Times and Sunday Times Good University Guide, 2024), ac i Emma, roedd cynhwysiant yn elfen ychwanegol bwysig i’w hystyried. Roedd hi wedi penderfynu beth oedd yn bwysig iddi hi, ac wedi dod o hyd i brifysgol a oedd yn cynrychioli ei buddiannau hi, sy’n rhywbeth y byddwn yn awgrymu y dylid ei ystyried wrth baratoi'r camau y byddwch chi’n eu cymryd wrth ymchwilio i brifysgolion.

Hoeliwch eich sylw ar eich targedau a lluniwch broffil

Ar ôl i chi lunio rhestr o brifysgolion sy’n cwrdd â’ch gofynion, beth am ymchwilio pethau ymhellach?

Y modd gorau o fynd ati i adeiladu proffil o’ch targed a dod i’w hadnabod yw trwy gysylltu â myfyrwyr sy'n astudio yn y brifysgol ar hyn o bryd yn uniongyrchol. Bydd gan y mwyafrif o brifysgolion y swyddogaeth ‘holi ein myfyrwyr’ ar eu gwefannau, lle gallwch gael gwybod safbwynt go iawn am y math o fywyd sydd gan brifysgol i’w gynnig. Gallech ofyn unrhyw gwestiynau nad oeddech wedi cael ateb iddynt yn ystod y camau ymchwilio a gymerwyd gennych.

Fe allech hefyd gysylltu â thîm ymholiadau y brifysgol er mwyn archwilio ymhellach i gyrsiau, adnoddau, cyfleusterau a phroses dderbyn y brifysgol.

Bydd cymryd golwg ar eu hadran gyfryngau cymdeithasol a’u hadran newyddion ar y wefan hefyd yn eich helpu i roi goleuni pellach ar beth mae’r brifysgol yn ei wneud, a bydd yn eich helpu i benderfynu p’un a ydy’r sefydliad yn cynrychioli eich buddiannau chi. 

Ar ôl i chi lunio proffil o bob un o’r prifysgolion y mae gennych ddiddordeb ynddynt trwy ymdrechion eich ymchwil, byddwch yn gallu cael syniad cliriach o’r hyn a fydd yn addas ar gyfer eich anghenion chi.

Ewch i’r afael â’ch targed

Ymwelwch â’r opsiynau sydd gennych mewn golwg o ran prifysgolion ar gyfer diwrnod agored i gael teimlo awyrgylch y campws a phrofi’r hyn sydd ganddyn nhw i’w gynnig drosoch chi eich hun.

Bydd eich darpar ddarlithwyr, yn ogystal â myfyrwyr presennol, wrth law i ateb eich cwestiynau. Mae The Student Room, sef y safle mwyaf ar gyfer y gymuned myfyrwyr yn y DU, wedi llunio rhestr o’r prif gwestiynau i’w gofyn mewn diwrnod agored os oes arnoch angen unrhyw syniadau cyn i chi fynd i'r afael â’r brifysgol yr ydych yn ei thargedu.

Penderfynwch ar eich camau gweithredu

Gyda lwc, dylai eich chwiliad am brifysgol fod wedi eich arwain at y brifysgol iawn, sy’n addas ar gyfer ein hanghenion.

Y cam nesaf yw gwneud cais, a pharatoi ar gyfer eich arholiadau er mwyn cael i mewn i’r brifysgol a ddewiswyd gennych. Sicrhewch eich bod yn gofyn unrhyw gwestiynau na chawsoch y cyfle i’w gofyn cyn i chi gychwyn - mae timau cefnogi prifysgolion yno am reswm!

Wrth wneud eich ymchwil, beth am weld pa opsiynau sydd ar gael i chi ym Mhrifysgol Wrecsam? Byddwch yn rhan o fyd dysgu yn Wrecsam ac archwiliwch ein hamrywiaeth o gyrsiau israddedig ac ôl-radd.