Bwyd ffres o ansawdd

Gwyddom am y rôl bwysig y mae arlwyo yn ei chwarae yn y profiad cyffredinol i unrhyw fynychwr neu westai, a’n nod yw darparu amrywiaeth o fwydlenni o ansawdd sy’n gweddu i bob dant ac angen dietegol, yn ogystal â phob cyllideb.

Gall y tîm arlwyo ddarparu ar gyfer unrhyw beth o de, coffi a bisgedi wedi’u danfon yn uniongyrchol i’ch cyfarfod, i bryd bwffe llawn ar gyfer hyd at 120 o bobl.

Lluniwyd y fwydlen er mwyn cynnig amrywiaeth o ddewis, er ein bod yn hapus i drafod opsiynau eraill hefyd. Gellir darparu ar gyfer gofynion dietegol arbennig bob amser, pe’n hysbysir o flaen llaw.

 

Caffi OpTIC

Caffi OpTIC yw ein bwyty ar y safle, gyda lle i hyd at 120 o bobl, ac yn agored i’r cyhoedd.

Mae’r fwydlen yn cynnwys bwyd wedi’i baratoi yn ffres gan gynnwys brecwast (hyd at 10.30am), paninis, bar salad, prydau poeth y dydd, tatws drwy’u crwyn, brechdanau, a detholiad o gacennau cartref, yn ogystal â diodydd poeth ac oer a smwddis ffrwythau, i gyd ar gael i’w bwyta i mewn neu ar glud.

Oriau Agor: 8:00yb – 3:00yp (Llun-Gwener, ac eithrio gwyliau cyhoeddus)

Gwe: https://www.aramark.com/our-services/food-services

Facebook: Caffi OpTIC Aramark