
Astudiaethau Achos
Mae llwyddiant mewn busnes yn dibynnu ar sawl ffactor, ac mae’r gallu i ganolbwyntio ar eich gwaith heb unrhyw beth yn denu’ch sylw yn un ohonynt. Mae’r ganolfan OpTIC yn cynnig union hynny, lle i dyfu a datblygu’ch busnes gyda’r holl adnoddau sydd eu hangen arnoch wrth law. Mae nifer o gwmnïau wedi gwneud hyn ac wedi mynd o nerth i nerth o ganlyniad. Gweler rhai o’n straeon llwyddiant isod.
ADC BIO
Cwmni biodechnoleg arloesol yw ADCBIO, sy’n datblygu technoleg proses newydd i gyflymu, symleiddio a lleihau’n sylweddol gostau cynhyrchu’r genhedlaeth ddiweddaraf o gyffuriau gwrth-gancr poblogaidd – Cyffuriau Gwrthgyrff Cyfunedig (ADCs). Wedi’i ffurfio yn 2010, bu i’r Cwmni fasnacheiddio ac ehangu ei gyfleusterau yng Nghanolfan Dechnoleg OpTIC yn ganolfan arbenigedd rhyngwladol mewn datblygu proses a gweithgynhyrchu ar raddfa labordy ADCs.
Dewisodd ADCBIO leoli yng Nghymru gyda chymorth grant lleol a rhanbarthol. Dewiswyd OpTIC yn benodol o ganlyniad i gyfuniad o gymorth ariannol a busnes ynghyd â’r seilwaith a’r cyfleusterau i’w galluogi i ehangu.
Cyfarwyddwr Technegol ADCBIO oedd y cyflogai cyntaf i gael ei leoli yn OpTIC yn 2010, gan rentu desg mewn swyddfa a rennir a llwyddodd i sicrhau cyllid ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb dechnegol a masnachol o dechnoleg clo trydanol ADCBIO. Erbyn 2011 gyda phecyn buddsoddiad gwerth £450,000 a chyllid grant gan Acceleris, Cyllid Cymru (Banc Datblygu Cymru bellach), grant Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru a grant LIF (Cronfa Buddsoddi Lleol) gan Gyngor Sir Ddinbych, ehangodd y cwmni i safle 52 metr sgwâr, wedi’i addasu i gynnwys labordy a swyddfa. Galluogodd hyn y cwmni i ddatblygu ei ddarpariaeth o’i dechnoleg ymhellach, yn ogystal â darparu gwasanaethau technegol a datblygu i arloeswyr fferyllol ADCs.
Erbyn 2013 ac ar ôl buddsoddiad arall a phecyn grant gwerth £600,000, ehangodd y cwmni i labordy (60 metr sgwâr) arall. Erbyn 2015, roedd labordy (93 metr sgwâr) arall mewn gweithrediad ac roedd nifer y staff wedi ehangu i 13 o aelodau staff medrus.
Wedi’u hannog gan alw cwsmeriaid am eu gwasanaethau a dim digon o gapasiti yn y farchnad ar gyfer galluoedd cynhyrchu GMP mewn ADCs, sicrhaodd y cwmni fuddsoddiad yn 2017 ar gyfer adeiladu cyfleuster bio-gyfun GMP gwerth $11 miliwn wedi’i leoli yng Nglannau Dyfrdwy, gogledd Cymru, yn ogystal â chanolfan ymchwil a datblygu newydd.
Symudodd ADCBIO o OpTIC, o’r diwedd, ym mis Ionawr 2019 i’r cyfleuster 6500 metr sgwâr newydd yng Nglannau Dyfrdwy ac maent bellach wedi cynyddu eu lefel staffio i 50 o swyddi gwyddonol hynod fedrus.
Dywedodd Charlie Johnson, Prif Swyddog Gweithredol ADC Bio: “Hoffwn ddiolch i Ganolfan Dechnoleg OpTIC a’i staff am eu holl gymorth a chefnogaeth dros y 9 mlynedd diwethaf. Mae amser yn hedfan! Un o’r heriau mwyaf wrth greu ac adeiladu cwmni newydd, yn enwedig ym maes arloesi gwyddonol, yw dod o hyd i leoliad addas â’r gallu i letya cwmnïau o’r fath yn ogystal â helpu i gefnogi eu twf. Rhoddodd Canolfan Dechnoleg OpTIC hynny i gyd i ADCBIO ac rydym wedi mynd ymhell y tu hwnt i’n nodau gwreiddiol ar gyfer y busnes. Ar wahân i fod mewn lleoliad prydferth, rhoddodd y ganolfan y sefydlogrwydd angenrheidiol, ardal a gwasanaethau cost effeithiol i ni, i gefnogi ein twf. O ganlyniad i’r llwyddiant hwn, roedd angen i ni, yn y pen draw, ddod o hyd i’n cartref pwrpasol ein hunain i symud i weithgynhyrchu GMP i’n galluogi i ddarparu cynnig gwasanaeth ehangach o lawer i’n cwsmeriaid. Diolch unwaith eto.”
Kent Periscopes
Sefydlwyd Kent Periscopes (cwmni Gooch & Housego) yn 2005 mewn ymateb i gyfle a gododd, o ganlyniad i ailstrwythuro’r ochr gyflenwi o’n marchnad. Ers hynny, rydym wedi ymestyn ein galluoedd cynnyrch a gwasanaeth. Rydym wedi tyfu’n gryf a phroffidiol o’r cychwyn un, a gyda llyfr archebion sy’n tyfu, rydym nawr ar drothwy cyfnod o dwf a buddsoddi pellach. O fis Mai 2010 i fis Mai 2015, llwyddom i gyflawni twf o 400% yn ein refeniw. Symudom o OpTIC yn 2016 gyda dros 50 o weithwyr, ond rydym yn dal i fod ar safle Parc Busnes Llanelwy.
Mae Canolfan Dechnoleg OpTIC wedi ein helpu gyda:
- Staff sydd â phrofiad optegol
- Cyflenwyr
- Cyngor ar dechnoleg
- Cyngor ar ddylunio
- Cymorth y llywodraeth
Cyfleusterau a Gwasanaethau:
- Lle addas – glân, aer cywasgedig, dirgryniad isel
- Arbenigedd wrth law – galluoedd profi ymyriadurol a dylunio optegol
- Profi – siambr fesureg a thermol
- Hyblygrwydd i ehangu
- Cysylltiadau â Phrifysgol Wrecsam
“Nid oes amheuaeth bod Canolfan Dechnoleg OpTIC wedi bod yn rhan allweddol o dwf llwyddiannus ein cwmni. Dros y 3 blynedd diwethaf, rydym wedi tyfu o fod ag o dan 20 i 50 o bobl, ac mae OpTIC wedi hwyluso’r ehangiad hwn. Mae ei gallu i ymateb yn gyflym i’n hanghenion newidiol yn allweddol i gwmni sy’n tyfu fel un ni. Mae OpTIC wedi darparu’r cyfleusterau a’r gwasanaethau iawn i ni ar yr adeg iawn. Mae’r arbenigedd a’r offer wrth law wedi bod yn amhrisiadwy – megis dylunio optegol, laserau, mesureg a siambr thermol ar gyfer profi. Hefyd y cymorth busnes, gwnaeth mentora a rhwydweithio fyd o wahaniaeth i ni.
Os ydych chi’n gwmni technoleg sy’n tyfu, mae’n anodd dod o hyd i gyfleuster a chynnig cymorth tebyg ar draws y rhanbarth. Ni allaf argymell yn ddigon cryf i unrhyw fusnes ystyried lleoli eich hun yn y Ganolfan OpTIC.
Gadewch iddynt ofalu am y ffactorau a all arafu busnes a chanolbwyntio'ch amser ar y gwaith pwysig o gyflawni eich potensial twf.”
John Oliver, Rheolwr Gyfarwyddwr (tan Ionawr 2017)