
Gofod Desg Ymroddedig
Mae Desg Bwrpasol Canolfan Dechnoleg OpTIC yn rhoi desg fasnachol i sefydliad yn y DU o fewn amgylchedd swyddfa a rennir.
- Datrysiad hyblyg cost isel i sefydlu cwmni newydd
- Ardal desg bersonol o oddeutu 80 troedfedd sgwâr mewn swyddfa a rennir
- Mynediad at dderbynfa a wasanaethir yn llawn ar gyfer delio â galwadau a chasglu post – gan arbed amser ac arian i chi
- Darpariaeth ffôn (sy’n defnyddio Protocol Rhyngrwyd) a WIFI
- System ddiogelwch yn fewnol ac allanol
- Bydd cyfeiriad proffil uchel mewn cyfleuster mawr ei fri yn cynyddu eich hygrededd gyda chwsmeriaid a chyflenwyr
- Rhan o gymuned o arloeswyr
- Cyfraddau is ar gyfer gwasanaethau canolog gan gynnwys ystafelloedd cyfarfod, llungopïo ac argraffu
- Cymorth wedi’i deilwra i’ch busnes
- Llwybr carlam at raglenni cyllid, benthyciadau a buddsoddwyr i helpu gyda buddsoddi mewn Ymchwil a Datblygu a thechnoleg newydd
- Seminarau wedi’u teilwra a chyfleoedd hyfforddiant i wella eich sgiliau
- Rhwydwaith cryf o fusnesau o’r un anian – fforwm i rannu gwybodaeth ac arbenigedd