“Byddwn yn argymell yn gryf i gwmnïau cychwynnol leoli eu busnes yn OpTIC. Mi wnes i ystyried rhentu lleoliad arall ond wrth gymryd yr holl gostau cysylltiedig i ystyriaeth mae OpTIC yn cynnig gwerth da am arian, un bil misol yn unig sydd, a gallaf ganolbwyntio ar fy musnes. Mantais arall yw mai talu am y lle sydd ei angen arnoch yn unig ydych chi ac mae maint ein safle wedi ehangu yn unol ag anghenion y busnes. Ar ben hynny, gwnaeth y ffaith nad oes prydles hirfaith i’w harwyddo fyd o wahaniaeth i mi fel busnes bach/canolig. Mae’r lleoliad a chyfleusterau blaenllaw yn arbennig, bwyty, derbynfa, nwyddau i mewn/allan ac ni allwch fyth anwybyddu gwerth rhyngweithio â phobl o’r un anian. Yn syml mae’n lle gwych ar gyfer busnesau newydd a rhai sy’n tyfu!”
“Mae OpTIC yn gyfleuster gwych ac yn darparu amgylchedd o ffyniant er mwyn i gwmnïau technoleg ifanc dyfu yn unol â’u hanghenion. Un o brif fanteision OpTIC yw bod ystod eang o gyfleusterau cefnogi ar gael yn hawdd mewn un lleoliad, gan ganiatáu i gwmnïau gael y cyfle i’w defnyddio pan fydd angen a lleihau’r anawsterau sy’n wynebu pob busnes bach wrth ymdrin â gofynion sy’n newid yn gyflym. Mae’r amgylchedd gweithio yn OpTIC yn golegaidd ac yn hamddenol sy’n meithrin cysylltiadau rhyng-gysylltiol da rhwng y cwmnïau preswyl. Yn sicr gwnaeth LML elwa o fod yn OpTIC yn ystod yr ychydig flynyddoedd cyntaf ein busnes.”
“Nid oes amheuaeth bod Canolfan Dechnoleg OpTIC wedi bod yn rhan allweddol o dwf llwyddiannus ein cwmni. Dros y 3 blynedd diwethaf, rydym wedi tyfu o fod ag o dan 20 i 50 o bobl, ac mae OpTIC wedi hwyluso’r ehangiad hwn. Mae ei gallu i ymateb yn gyflym i’n hanghenion newidiol yn allweddol i gwmni sy’n tyfu fel un ni. Mae OpTIC wedi darparu’r cyfleusterau a’r gwasanaethau iawn i ni ar yr adeg iawn. Mae’r arbenigedd a’r offer wrth law wedi bod yn amhrisiadwy – megis dylunio optegol, laserau, mesureg a siambr thermol ar gyfer profi. Hefyd y cymorth busnes, gwnaeth mentora a rhwydweithio fyd o wahaniaeth i ni. Os ydych chi’n gwmni technoleg sy’n tyfu, mae’n anodd dod o hyd i gyfleuster a chynnig cymorth tebyg ar draws y rhanbarth. Ni allaf argymell yn ddigon cryf i unrhyw fusnes ystyried lleoli eich hun yn y Ganolfan OpTIC. Gadewch iddynt ofalu am y ffactorau a all arafu busnes a chanolbwyntio'ch amser ar y gwaith pwysig o gyflawni eich potensial twf.”