
Unedau Arloesi
Mae ein Canolfan Ddeori yn darparu llety o ansawdd a chymorth busnes/academaidd/ariannol i gwmnïau arloesol yn ymwneud â thechnoleg er mwyn rhoi’r cyfle gorau o oroesi iddynt.
Hefyd yn addas i fusnesau sy’n dymuno lleihau, adleoli neu gael lleoliad yng Nghymru.
Canfu astudiaethau fod dechrau eich busnes mewn canolfan ddeori yn rhoi mwy o siawns o lwyddo i chi, na mentro ar eich pen eich hun.
Os ydych yn gwmni technoleg ifanc neu gwmni newydd ac yn dymuno mynediad llawn at ein hystod o gymorth, gallwch elwa o’r cyfleusterau a’r gwasanaethau canlynol:
- Mynediad drws agored at y tîm rheoli am gymorth busnes
- Defnydd o gyfeiriad proffil uchel i gynyddu eich hygrededd gyda chwsmeriaid a chyflenwyr
- Llinell ffôn bwrpasol gyda gwasanaethau cysylltiedig
- Defnydd o wasanaethau derbynfa, ystafelloedd cyfarfod a chyfleusterau cynadledda
- Mynediad at gynlluniau ariannu, cymorth ariannol a chefnogaeth academaidd
- Digwyddiadau, rhwydweithiau a seminarau wedi’u targedu
- Mynediad at wasanaethau technegol gan gynnwys ystafelloedd glân, labordai ac offer arbenigol
- Cymorth i ehangu eich busnes ar y safle gydag unedau tyfu ar gael
- Bwyty ar y safle gyda mynediad Wi-Fi