Lynda Powell

Cyfarwyddwr Gweithrediadau

    Picture of staff member

    Ymunodd Lynda â’r Brifysgol ym mis Mehefin 2000 a daeth yn Gyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau yn 2014. Mae hi’n aelod o dîm Gweithredol Is-gangellorion y Brifysgol, gan weithio ar y cyd â chydweithwyr yn arweinyddiaeth, rheolaeth a gweithrediad effeithiol y Brifysgol.

    Graddiodd Lynda o Blackpool a Choleg Fylde gyda HND mewn Rheolaeth Sefydliadol, Gwestai ac Arlwyo ac mae ganddi radd Feistr mewn Gweinyddu Busnes o Brifysgol Cymru. Bu ei gyrfa gynnar yn y diwydiant lletygarwch a chynadledda cyn treulio’r 27 mlynedd nesaf yn y sector Addysg.

    Yn Prifysgol Wrecsam, mae Lynda'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau uniongyrchol swyddogaethau gwasanaethau proffesiynol allweddol ar draws 3 champws. Mae’r rhain yn cynnwys Rheoli Ystadau a'r Campws (yn cynnwys Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd), Gwasanaethau Gwybodaeth (gan gynnwys TG a’r Llyfrgell), a Bywyd Myfyrwyr a’r Campws (yn cynnwys Cynhwysiant, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd a Chymorth i Fyfyrwyr). Mae sicrhau bod strategaeth a gweithrediadau'r gwasanaethau proffesiynol hyn wedi’u cydlynu’n effeithiol er mwyn gwella gallu’r busnes, effeithiolrwydd gwasanaethau ac effeithlonrwydd cyffredinol y Brifysgol, yn rhan allweddol o rôl.

    Mae Lynda hefyd yn Aelod o’r Sefydliad Lletygarwch, yn Gyfarwyddwr Glyndŵr Services Ltd ac yn Gyfarwyddwr North Wales Science Ltd (Xplore! Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth)

    Ym Mhrifysgol Prifysgol Wrecsam, nod Lynda yw gwneud cyfraniad sylweddol i Gampws 2025 - strategaeth £80m i wella campysau’r brifysgol (tir, adeiladau a seilwaith) er mwyn sicrhau bod gan fyfyrwyr y cyfleusterau a’r amgylchedd dysgu gorau. Fel Cadeirydd Gweithgor Gweithredu Cynaliadwyedd y Brifysgol, mae Lynda hefyd yn darparu arweinyddiaeth a chefnogaeth i sicrhau bod y Brifysgol yn dod yn sefydliad mwy ymwybodol o’r amgylchedd, ynni-effeithlon a moesegol.