Mae'r campws ar gau oherwydd toriad pŵer y bore yma (dydd Iau). Bydd gwasanaethau arferol yn ailddechrau yfory (dydd Gwener).

Rebekah Taylor

Myfyriwr PhD

    Picture of staff member

    Cyflawnodd Rebekah Taylor radd Dosbarth Cyntaf mewn BSc (Anrh) Gwyddor Fforensig yn 2022 ym Mhrifysgol Wrecsam. Yn ystod y cyfnod hwn, gwnaethpwyd sawl prosiect ymchwil ar raddfa fach yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar anthropoleg fforensig. 

    Yn 2023, cwblhaodd Rebekah ei MRes mewn Anthropoleg Fforensig a Bioarchaeoleg gan ennill gradd Rhagoriaeth, a ffocws yr ymchwil oedd dadansoddi ac adluniad 3D.

    Ar hyn o bryd, mae hi wedi ymrestru ar radd MPhill/PhD ymchwil, gan ganolbwyntio unwaith eto ar anthropoleg fforensig 3D.

    Blwyddyn

    Teitl y prosiect

    2021

    A yw llafnau danheddog eiledol yn arwain at golli mwy o’r asgwrn na llafnau â dannedd syth? A beth yw rôl lled yn hyn oll?

    Canfod sut y mae’r math o lafn a ddefnyddir yn effeithio ar golli màs esgyrn wrth ddatgymalu.

    2022

    Cymharu esgyrn dynol wrth eu mesur a’u hailadeiladu yn y plân ffisegol ac wrth eu mesur a’u hailadeiladu yn y plân rhithwir.

    Ymchwiliodd i’r defnydd o sganwyr 3D i ailadeiladu gweddillion dynol toredig.

    2023

    Canfod hunaniaeth trwy ddefnyddio 3D i ailadeiladu gweddillion ysgerbydol toredig.

    Ymchwil Cyfredol.

    Gweithgareddau proffesiynol

    Cymdeitha Ariennir gan
    BAFA Aelod myfyriwr
    CSFS Aelod myfyriwr

    Cyflogaeth

    Cyflogwr Swydd Hyd/O
    Prifysgol Wrecsam llysgennad myfyrwyr 2022 - 2026

    Addysg

    Sefydliad Cymhwyster Pwnc Hyd/O
    Prifysgol Wrecsam MRes Anthropoleg Fforensig a Bioarchaeoleg 2022 - 2023
    Prifysgol Wrecsam BSc (Hons) Gwyddoniaeth Fforensig 2018 - 2022

    Gweithgareddau Allgymorth

    Title Description
    Dysgu Addysgu gweithdai amrywiol gan gynnwys: Hanesion fforensig Olion bysedd / Dadansoddiad Sgerbwd Adluniad Wyneb Dusting
    Hwylusydd Cynhadledd Cyfrannodd at baratoi’r gynhadledd, rhoi trefn ar ddeunyddiau’r mynychwyr a gosod y lleoliad yn barod. Aeth ati i groesawu a thywys y mynychwyr, gan sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gydgysylltu’n ddidrafferth.
    Archeolegydd dan hyfforddiant Enillodd wybodaeth sylfaenol am archaeoleg, gan feistroli’r dull priodol o ddefnyddio offer cloddio a chan ennill ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch ar y safle. Llwyddodd i gloddio nifer o ffosydd, gan arwain at ddarganfod arteffactau o bwys.
    Technegydd Labordy Anthropoleg Fforensig Cynorthwyodd gydag ymchwil fforensig, yn cynnwys dulliau storio arbenigol ar gyfer astudiaethau dadelfennu. Cynorthwyodd i guradu a chynnal casgliad anthropoleg fforensig y brifysgol.
    Cynorthwyydd Addysgu Gwirfoddol

    Cynorthwyodd i addysgu myfyrwyr, bu’n monitro eu cynnydd a bu’n rheoli’r gwaith o oruchwylio arholiadau’r modiwl Esgyrneg Ddynol.

    •    Cynorthwyodd gyda gweithgareddau cyfarwyddol, paratôdd ddeunyddiau dyrannu ac aeth ati i sicrhau glendid ar ôl gwaith dyrannu ar gyfer y modiwl Patholeg Anatomi ac Ymchwiliad Fforensig i Weddillion Dynol.
    •    Hwylusodd i addysgu sesiynau, gan ganolbwyntio ar ddefnydd ymarferol ac ymgysylltu â myfyrwyr yn y modiwl Ymchwilio i Safleoedd Trosedd.
    •    Aeth ati i gynnal a chadw’r Cyfleuster Ymchwil Taffomoni Fforensig, gan sicrhau’r amodau gorau ar gyfer ymchwil wyddonol.
    •    Chwaraeodd rôl hollbwysig yn ystod y Diwrnod Safleoedd Trosedd, gan gynorthwyo mewn arddangosiadau ymarferol a chan ryngweithio gyda myfyrwyr.
    •    Arweiniodd fyfyrwyr lefel 6 i ddewis pynciau ymchwil dichonadwy a mireinio teitlau prosiectau, gan sicrhau ymarferoldeb a pherthnasedd academaidd.
    •    Rhoddodd gymorth arbenigol i sawl carfan ar gyrsiau byr yn ymwneud â Gwyddoniaeth Fforensig ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol ac Ailadeiladu’r Wyneb.