Amy Anglesea

Llywydd yr Undeb Myfyrwyr

Penodwydd Gorffennaf 2022

Amy sydd newydd gael ei phenodi yn Llywydd yr Undeb Myfyrwyr yn 2023-24. Gwasanaethodd Amy fel Is-lywydd yr Undeb Myfyrwyr yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23 a bu’n Fyfyriwr Lywodraethwr ers 2021. Bu Amy’n aelod gweithgar o’r Undeb a gweithiodd ar brosiectau llais y myfyrwyr ers dechrau fel myfyriwr yma yn 2019. Graddiodd Amy o Brifysgol y Santes Fair, Twickenham, sy’n bartner masnachfreinio gyda Phrifysgol Wrecsam, gyda gradd BA (Anrhydedd) mewn Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig yn 2022. 

Yn ystod ei chyfnod yn gweithio i’r Undeb Myfyrwyr bu’n Gadeirydd Cyngor y Myfyrwyr yn ystod 2020-2022, yn gynrychiolydd yr Undeb gydag NUS Cymru yn 2019, 2022 a 2023, yn gapten y tîm pelrwyd yn 2021-22 ac yn Swyddog Merched yn ystod 2019-2020. Tra bu’n Is-lywydd llwyddodd Amy i gyflawni’r canlynol: cynllunio a chynnal ‘Gemau Glyndŵr’ yn lle’r profiad ‘Varsity’ (mae trafodaethau’n parhau ynghylch ailgyflwyno’r profiad ‘Varsity’ llawn yn ystod y flwyddyn academaidd hon), sicrhau £5k o gyllid gan y Brifysgol i ddatblygu ein timau chwaraeon a’n cymdeithasau, gweithio ar brosiect Campws 2025, creu rolau Cynrychiolwyr y Glas yr Undeb Myfyrwyr, gweithio gyda’r Llysgenhadon Myfyrwyr i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau’r Undeb Myfyrwyr, cynnig polisi i Gynhadledd NUS Cymru i adolygu nifer y cynrychiolwyr er mwyn i lais myfyrwyr Gogledd Cymru fod yn gryfach (cymeradwywyd hyn), cynnig cais llwyddiannus i gynnal NUS Y Talwrn ym Mhrifysgol Wrecsam yn 2023 a chafodd ei dewis gan Elusen NUS i adolygu’r Llawlyfrau i Swyddogion cyn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.    

Nod Amy eleni yw gweithio ar y cyd â’r Brifysgol i gynnal ymgynghoriad gyda’r myfyrwyr yn seremoni raddio 2024 ar y newidiadau, cynnal digwyddiadau diwylliannol gwahanol bob mis yn yr Undeb Myfyrwyr i ymgysylltu mwy gyda’n cymuned myfyrwyr rhyngwladol a gweithio gyda Thîm Cyllido ac Arian y Brifysgol ar ymgyrch ‘Help Yourshelf’ yr Undeb Myfyrwyr i gynhyrchu cynlluniau prydau bwyd sy’n addas ar gyfer cyllideb myfyrwyr a chynhyrchu adnoddau fel cardiau rysait a fideos, er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i reoli eu harian yn well yn ystod yr argyfwng costau byw. 

Mae Amy yn edrych ymlaen at barhau ei gwaith yma ym Mhrifysgol Wrecsam a chynrychioli’r Undeb Myfyrwyr am flwyddyn arall.