Dod â Gwyddoniaeth i Wrecsam: Myfyrdodau ar ein Gŵyl Pint of Science Gyntaf
-(1).png)
Gan Amy Rattenbury, Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddor Fforensig - Mehefin 2025
Ym mis Mai eleni, fe wnaeth Wrecsam gynnal ei gŵyl Pint of Science gyntaf, gan ymuno â menter fyd-eang sy'n dod ag ymchwilwyr i dafarndai, caffis a mannau cyhoeddus i rannu eu gwaith â chymunedau lleol mewn ffordd agored ac anffurfiol. Dros ddwy noson, cynigodd yr ŵyl gymysgedd amrywiol o straeon gwyddonol, syniadau ymarferol, a chynulleidfaoedd brwdfrydig. Roeddwn wrth fy modd o dderbyn cais i gymryd rhan fel siaradwr ynghyd â’m nghyd-weithiwr Dr Paige Tynan o’r tîm Gwyddoniaeth Gymhwysol yma yn y Brifysgol. Roedd yn gyfle cyffrous i gysylltu gyda phobl tu allan i’r byd academaidd a thynnu sylw at ba mor ddifyr a pherthnasol yw gwyddoniaeth i fywyd bob dydd.
Fe wnaeth y noson gyntaf, a gynhaliwyd ar y 19eg o Fai yn y Magic Dragon Brewery Tap, werthu allan gyda lle i sefyll yn unig ar gael. Dechreuodd Dr Tim Astrop, paleofiolegydd, a Dr Tom Hughes, daearegwr, y ddau o Stori Brymbo, gyda noson fywiog a rhyngweithiol gyda ffocws ar y gorffennol cynhanesyddol. Gan dynnu ar eu gwaith ar Goedwig Ffosil Brymbo, un o safleoedd ffosiliau pwysicaf y DU, a safleoedd treftadaeth lleol eraill, fe wnaethon nhw roi cipolwg i’r gynulleidfa o fyd 300 miliwn o flynyddoedd oed sydd yn cuddio o dan ein traed.
Fe wnaeth Tim drafod yr amodau sydd eu hangen ar gyfer cadw ffosiliau a heriodd y mynychwyr i ddylunio eu senario ffosileiddio delfrydol eu hunain gyda'r enillydd yn derbyn y gwydr Pint of Science. Wedi hynny cawsom sgwrs gan Tom, yn ein harwain drwy hanes daearegol Prydain. Fe wnaeth helpu’r gynulleidfa ddehongli mapiau daearegol a nodi cyfnodau amser y creigiau yn eu trefi. Roedd yr awyrgylch yn anffurfiol ond yn llawn gwybodaeth, ac roedd y gynulleidfa wedi’u swyno drwy gydol y sgwrs.
Fe wnaeth yr ail noson, a gynhaliwyd yn Tŷ Pawb, ganolbwyntio ar ochr wahanol iawn o wyddoniaeth. Fe wnaeth Paige a minnau gyflwyno sesiwn ar y cyd yn trafod beth sy’n digwydd i’r corff ar ôl marw a sut yr ydym yn defnyddio’r wybodaeth honno mewn ymchwiliadau fforensig. Fe wnaethom drafod prosesau cemegol a biolegol pydru a’r wybodaeth y gall esgyrn ei rhoi i ni am fywyd a hunaniaeth rhywun. Ein nod yw codi’r llen ar y wyddoniaeth wrth wraidd achosion fforensig, mynd y tu hwnt i ddramâu ar y teledu i ddangos yr hyn sydd wirioneddol yn digwydd pan mae gwyddonwyr yn cael y dasg o siarad dros y meirw. Gofynnodd y gynulleidfa gwestiynau meddylgar a heriol ac yn amlwg roedd ganddynt ddiddordeb mawr yng ngwirionedd ein pwnc. Roedd yn wych cael gweld cymaint o ddiddordeb yn y wyddoniaeth y tu ôl i fioleg ddynol ac archwilio lleoliadau trosedd.
Mae cyfranogiad Prifysgol Wrecsam yn Pint of Science yn adlewyrchu ein hymrwymiad i rannu ymchwil mewn ffyrdd agored a difyr. Rydym bob amser yn edrych am gyfleoedd i ddod â’n gwaith i mewn i'r gymuned ehangach, ac fe brofodd y digwyddiad hwn pa mor werthfawr y gall hyn fod. O ffosiliau ac amgylcheddau hynafol i wyddoniaeth fforensig a dadelfennu, fe wnaeth yr ŵyl drafod ystod enfawr o bynciau, a phob un gyda chynulleidfa a oedd yn chwilfrydig, yn frwdfrydig, ac yn barod i ddysgu.
Diolch o galon i Dr Tim Astrop am ddod â’r digwyddiad i Wrecsam ac i’r tîm yn Stori Brymbo am eu cefnogaeth wrth ddod â’r cwbl at ei gilydd. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn nodi dechrau rhywbeth tymor-hir ar gyfer ein rhanbarth. Yn amlwg, mae chwant am wyddoniaeth yn ein tref, a byddem wrth ein boddau yn gweld Pint of Science yn dod yn ddigwyddiad rheolaidd, gan ddod ag ymchwilwyr, myfyrwyr, a’r gymuned ehangach ynghyd am ragor o nosweithiau o ddysgu, chwerthin, a sgyrsiau difyr.