Capiau a’r Hijab yng Ngemau Olympaidd Paris 2024

Mae Moira Vincentelli yn myfyrio ar wahaniaethu hiliol a chrefyddol yn ystod Gemau Olympaidd haf 2024. Myfyrwraig PhD Celfyddyd Gain rhan amser ym Mhrifysgol Wrecsam yw Moira, sy’n creu gludweithiau ar y cyfryngau am faterion ynglŷn â’r hijab. 

Yn ystod haf Olympaidd 2024, ffrwydrodd stori negyddol arall ar y cyfryngau, fel oedd Ffrainc eisoes yn ymdrin â’r holl sylw negyddol am safon dŵr y Seine a materion gwella perfformiad. Dyma Sounkamba Sylla, Sbrintwraig o Ffrainc ac aelod o dîm ras gyfnewid 400-metr y menywod; yn un o dair menyw Ddu a’r unig aelod Mwslimaidd yn y tîm, yn cyhoeddi ar Instagram nad oedd yn cael ymddangos yn y seremoni agoriadol. Nododd Sylla ar ei Instagram, yn ôl The Guardian, “Rydych yn cael eich dewis i’r Gemau Olympaidd, a drefnir yn eich gwlad, ond chewch chi ddim cymryd rhan yn y seremoni agoriadol gan eich bod yn gwisgo sgarff ar eich pen.”

Dengys lluniau a rannwyd ar broffil Instagram Sylla, ei bod yn gwisgo gorchudd pen yn rheolaidd - hijab chwaraeon neu dwrban du - hyd yn oed tra’n cystadlu, gan gynnwys pan oedd yn cynrychioli Ffrainc yn y gorffennol; ond, yn y seremoni Olympaidd, nid oedd yn dderbyniol. Roedd y wisg a gynlluniwyd yn ofalus ar gyfer tîm Ffrainc, ac a gynhyrchwyd gan y brand urddasol Berluti, i fod i adlewyrchu ‘ysblander ac arddull’ Ffrainc. Cynhwysai hyn labedi siaced yn lliwiau baner Ffrainc, hancesi poced o liwiau tebyg i’r dynion, a sgarff gwddf cynnil i’r menywod, ond dim penwisg. Roedd Sylla yn cynrychioli ei gwlad yn swyddogol a ddim yn cael gwisgo hijab gan fod disgwyl iddi gydymffurfio â chyfraith Ffrainc o laïcité, sy’n cael ei gyfieithu fel arfer fel ‘seciwlariaeth’, yn seiliedig ar yr egwyddor o wahanu’r eglwys a’r wladwriaeth, sy’n ei gwneud yn anghyfreithlon i wisgo symbolau crefyddol gweladwy yn gyhoeddus. 

Mae hanes hir i’r mater. Ar ôl y Chwyldro Ffrengig yn 1789, gyda’i gri enwog ‘Liberté, Egalité, Fraternité’, mae gwahanol lywodraethau wedi mynnu’r egwyddor o seciwlariaeth - sefyllfa a gyfeiriwyd yn wreiddiol at yr Eglwys Gatholig yn bennaf. Rhaid i ysgolion gwladol cyhoeddus Ffrainc gefnogi’r cyfarwyddyd hwn. Yn ystod y cyfnod ôl-drefedigaethol, tyfodd y cymunedau Mwslimaidd oedd yn ymgartrefu yn Ffrainc, llawer ohonynt o Ogledd Affrica, ac yn Ffrainc yn awr mae’r boblogaeth Fwslimaidd uchaf yng Ngorllewin Ewrop. Cyfeiriwyd yr egwyddor o laïcité fwyfwy tuag at y grŵp cynyddol hwn ac at wisg y menywod, yn arbennig yr hijab. Yn 1989, cafodd tair geneth ysgol o Ffrainc eu diarddel pan fynnon nhw eu hawl i wisgo’r hijab yn yr ysgol. Mae’r drafodaeth yn parhau. Mewn ymdrech i gymodi, yn 1994 cafwyd gorchymyn yn gwahaniaethu rhwng symbolau crefyddol ‘cynnil’, a fyddai’n cael eu goddef, tra na fyddai symbolau crefyddol ‘rhwysgfawr’, fel croes fawr neu sgarffiau pen Islamaidd, yn cael eu caniatáu mewn ysgolion gwladol.

Mae Ffrainc yn ymfalchïo mewn cymdeithas gynhwysol sydd ddim yn nodi hil, crefydd, neu darddiad ethnig yn y ffurflenni cyfrifiad, ond mae’r materion ehangach mewn gwleidyddiaeth fyd-eang; y cynnydd mewn mudiadau eithafol, a digwyddiadau terfysgol fel ymosodiad Charlie Hebdo yn 2015 a Nice yn 2016, wedi creu braw ac wedi caledu teyrngarwch Ffrainc tuag at egwyddorion laïcité. Mae menywod ifanc â ffydd yn cael eu hunain yng nghanol y dryswch. Yn ogystal, mae’n eu heithrio o weithgareddau chwaraeon yn aml. Yn 2019, lansiodd y cwmni dillad chwaraeon o Ffrainc Decathlon hijab chwaraeon - eitem y mae modd ei phrynu ar y we gan amryw o gynhyrchwyr. Sylwodd y cwmni ei fod yn derbyn ymatebion mor elyniaethus ar y cyfryngau cymdeithasol a ‘bygythiadau heb eu tebyg o’r blaen’, nes iddo stopio gwerthu’r eitem yn Ffrainc.

Daeth sefyllfa Sylla â’r mater i’r amlwg unwaith eto. Ymddengys fod y sefyllfa gyfreithiol a ddigwyddodd yn Ffrainc yn fwy anghynaladwy gan fod y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol wedi nodi’n glir nad oes unrhyw gyfyngiadau ar athletwyr i wisgo’r hijab neu unrhyw ddilledyn crefyddol arall. Mae athletwyr benywaidd o sawl gwlad yn gwisgo fersiynau amrywiol o ddillad dinod, gan gynnwys yr hijab, ac yn 2024 gwelwyd llawer ohonynt o gwmpas y pentref Olympaidd. Yn ddadleuol, mewn ymarfer cyfyngu ar niwed anonest, esboniodd gweinidog chwaraeon Ffrainc, Amélie Oudéa-Castéra, i CNN News eu bod “wedi dod i gyfaddawd”. Roedd cap glas arbennig wedi ei ddylunio gyda band ychwanegol i orchuddio ei gwallt - elfen bwysig o’r hijab, i lawer o fenywod Mwslimaidd. Byddai Sylla yn cael mynychu’r seremoni agoriadol. Gwisgodd yr un cap pan gyrhaeddodd tîm Ffrainc rownd derfynol y ras gyfnewid 400-metr.

Mae’r gwerthoedd o ‘gydraddoldeb lliwddall’ a gwrthod casglu ystadegau am hil, ethnigrwydd a chrefydd yn gyfreithiol, yn her i wyddonwyr cymdeithasol a chyfreithwyr i arddangos ymarferion gwahaniaethol a brofir yn eang gan grwpiau hiliol yn Ffrainc. Fel menyw Fwslimaidd Ddu, rhennir profiad Sylla fel enghraifft ddirdynnol o wahaniaethu croestoriadol dwys, yn driphlyg.  Cafodd gefnogaeth fyd-eang gan athletwyr ar ôl ei safiad dewr yng Ngemau Olympaidd Paris, ac mae’n pwysleisio unwaith eto sut y gall darn bach o decstil adrodd stori bwysig.


 
DS: Cyflwynwyd fersiwn o’r darn hwn ym Mhrifysgol Caer [ar-lein], ddydd Mawrth 29ain Hydref ar gyfer ‘Mis Hanes Pobl Dduon: Cyfres Adennill Naratifau.