Cyfres Seminarau Ymchwil FAST #1 - Art +

Hydref 2023

Cynhaliwyd y cyntaf mewn cyfres o seminarau FAST newydd ar 11 Hydref yn yr Ysgol Gelf ar Stryt y Rhaglaw. Mae’r Gyfres Seminarau Ymchwil FAST yn arddangos y prosiectau ymchwil cyfredol ledled y gyfadran, yn ogystal ag anelu at wella'r diwylliant ymchwil drwy ddarparu lle i drafod ymchwil pwnc benodol. 

Y sesiwn gyntaf oedd y prosiect Art+, a gyflwynwyd gan yr Athro Alec Shelpley a’r darpar Ddoctor, Tracy Simpson (sydd ar fin cwblhau ei PhD ac yn Gymrawd Ymchwil Gwadd yn Wrecsam ac yn Guradur, Cynhyrchydd a Rheolwr ar hyn o bryd). Cynhaliwyd y sesiwn yn Ysgol Gelf Wrecsam, yn yr adeilad hanesyddol ar Stryt y Rhaglaw, sydd, yn briodol iawn, wedi’i amgylchynu gan luniau, cerfluniau a gwaith celf amrywiol.  

Cyflwynodd Alec sut mae ymarferwyr creadigol yn denu'r cyhoedd i drafodaethau am iechyd, llesiant, a dinasyddiaeth ecolegol. Roedd y gwaith yn bennaf yn ansoddol o ran arsylwadau, nodiadau maes, a chyfweliadau i ganfod sail tystiolaeth, a chafodd arweiniad cryf gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  

Faint o “gyfalaf diwylliannol” sydd gan ardal neu boblogaeth? Roedd gan Alec ddiddordeb mewn meithrin a datblygu cymdeithasau sy’n deall ac yn gwarchod diwylliant fel y gall pobl fyw yn fwy cynaliadwy. Roedd Alec hefyd yn creu llun o sut mae cyrff cyhoeddus yn bodloni’r anghenion cyfreithiol ar gyfer cynaliadwyedd.  

Yn aml yr hyn sydd ar goll yw’r “sut”. Siaradodd Alec am yr angen am hwyluswyr, cyfathrebwyr ac anogwyr; pobl sy’n wneuthurwyr newid ymhlith cymunedau a busnesau. Mae angen i ni ddechrau meddwl yn wahanol. 

ON. os oes gennych ddiddordeb yn y pwnc hwn, bydd Alec yn cynnal Darlith Gyhoeddus Sgyrsiau Ymchwil Wrecsam ar 16 Ionawr 2024. 

Ar ôl egwyl, rhoddwyd y llwyfan i Tracy Simpson a aeth â ni ar daith gryno drwy ei hymchwil PhD ar gelf ymgysylltu cymdeithasol ac arferion cydweithredol. Yr amcan oedd creu lleoedd cymdeithasol o fewn sefydliadau diwylliannol, er enghraifft, Tŷ Pawb.  

Rhai pwyntiau i feddwl amdanynt oedd ‘beth mae’n ei olygu i fod yn greadigol?’ a ‘sut all celf fod yn ddefnyddiol?’ Helpodd Tracy i ddatblygu arferion ar gyfer sut y gallai sefydliadau weithio gyda phobl, yn hytrach na chynnal digwyddiad iddynt fel cynulleidfa i arddangosfa yn unig. Manteisiodd y tîm prosiect ar enwogrwydd Wrecsam ar gyfer chwarae creadigol drwy droi arddangosfa Tŷ Pawb yn ystafell ddefnyddiol yn llawn hwyl - Lle Celf Ddefnyddiol. 

Gorffennodd Tracy ar nodyn ysbrydoledig, wrth ddangos i ni sut y cafodd lle ar ben to a oedd unwaith yn faes parcio ei drawsnewid yn ‘Gelf Ddefnyddiol’ drwy ddenu gwirfoddolwyr cymunedol. Llenwyd y lle gyda phlanhigion, meinciau a gweithdy/sied anferthol, a oedd yn galluogi pawb o bob gallu (gyda gwahanol alluoedd a chryfderau) i gymryd rhan yn y gweithgareddau, o balu a phlannu i baentio crochenwaith.  

Ar y cyfan, roedd y seminar gyntaf yn llwyddiant, gyda digonedd o sgyrsiau a syniadau cyffrous yn llenwi’r ystafell. Roedd cynrychiolaeth dda o’r staff Ysgol Gelf a Dylunio yn bresennol, ond rydym yn annog staff ar draws y gyfadran i fynychu pob seminar FAST- dydych chi byth yn gwybod pryd y gallai eich cyfle nesaf i gydweithredu’n rhyngddisgyblaethol, ymddangos!