Cyfuno Hygyrchedd gyda Theatr

Black and White Headshot of Researcher Grace Thomas

Cyfuno Hygyrchedd gyda Theatr: Gweithio gyda phobl greadigol anabl ar gyfer cynulleidfaoedd anabl fel Gwneuthurwr Theatr Anabl

Chwefror 2025

Mae Dr Grace Tomas, Uwch Gymrawd Ymchwil mewn Ymgysylltiad â’r Celfyddydau, yn arbenigo mewn theatr gymhwysol, celf gymunedol a gweithredu cymdeithasol drwy'r celfyddydau. Mae ei gwaith ymchwil presennol yn canolbwyntio ar hygyrchedd y celfyddydau i unigolion anabl, ac ymgorffori cynhwysiant mewn ymarfer celfyddydol. Mae Grace hefyd yn Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol ar gyfer WordForWord Arts, cwmni celfyddydau perfformio nid-er-elw sy’n tynnu sylw at faterion cymdeithasol ac yn galluogi ymgysylltiad â’r celfyddydau mewn cymunedau. 

Roedd rhifyn Ionawr 2025 o’r cyhoeddiad a adolygir gan gyfoedion, The Journal of Consent-Based Performance (JCBP), yn cynnwys erthygl gan Grace dan y teitl “Cyfuno Hygyrchedd gyda Theatr: Gweithio gyda phobl greadigol anabl ar gyfer cynulleidfaoedd anabl fel Gwneuthurwr Theatr Anabl”. Mae’r cyfnodolyn yn archwilio astudiaeth, ymarfer ac addysgeg arferion perfformio seiliedig ar ganiatâd drwy erthyglau ysgolheigaidd yn ogystal â nodiadau ymarferol o'r maes. Mae erthygl Grace yn nodyn o'r darn maes, sy’n portreadu ei phrosiect, “Byw gyda...” a gynhyrchodd ddigwyddiadau cyhoeddus yn archwilio gwahanol anableddau anweledig.

Trosolwg
Mae Grace yn dechrau drwy rannu ei phrofiad personol o fyw gyda’r salwch hirdymor Fibromyalgia, a’r sgeptigiaeth mae hi wedi ei hwynebu dros y blynyddoedd mewn perthynas â’r salwch hwn. Dyluniwyd un o’r digwyddiadau, “Byw gyda...FiBrOmYaLgiA” i roi lle i bobl gyda Fibromyalgia godi ymwybyddiaeth a newid dirnadaethau ymysg aelodau’r gynulleidfa. Mae'r erthygl yn manylu ar y perfformiad gan ddweud ei fod yn “conceptualised as an embodiment of life with Fibromyalgia, exploring the physical symptoms, the negative perceptions of the condition, the trauma of navigating the UK's disability benefit system…”, gan alw i’r salwch a phrofiadau’r rheiny sy’n byw gyda’r salwch, gael eu dilysu. Dylid nodi, roedd gan 50% o’r cast a’r tîm cynhyrchu anabledd, gan gynnwys 25% yn byw gyda Fibromyalgia.

Gosod y cyd-destun
Gweledigaeth Grace ar gyfer y set oedd awyrgylch anffurfiol, heb unrhyw ardal cefn llwyfan ac elfennau technegol gweledol. Roedd y set, a wnaed o garthenni, blancedi, clustogau a gobenyddion, ynghyd â'r gwisgoedd (pyjamas yr aelodau cast eu hunain) yn cynrychioli’r amser mae nifer o ddioddefwyr Fibromyalgia yn ei dreulio yn y gwely. Roedd y lleoliad cyfforddus braf hefyd yn rhoi llecyn diogel i orffwyso a chael cysur yn ystod problemau iechyd yn ôl yr angen.

Performers dressed in comfortable clothing with blankets on floor
Yn ystod ymarferion

Creu ar y Cyd a chaniatâd
Crëwyd y perfformiad ar y cyd gyda’r actorion drwy farddoniaeth, gwybodaeth feddygol a chyfweliadau gyda chleifion Fibromyalgia. Mae Grace yn nodi bod cynnwys gair am air y cyfweliad wedi sbarduno trafodaethau ymysg y cast, gan ddatgelu cymhlethdodau ableddiaeth a’r ‘canfyddiad’ y gall pobl anabl fod yn amherffaith. Roedd cynhwysiant yn flaenoriaeth, gyda thrafodaethau agored a chast a thîm cynhyrchu amrywiol yn dod â gwahanol bersbectifau a phrofiadau bywyd ynghyd. Mae’r erthygl yn cyfeirio at y cyfleoedd, neu’r diffyg cyfleoedd, i actorion anabl sefydlu ffiniau yn ystod ymarferion/cynyrchiadau ac yn “2020, 95% of disabled characters were played by able-bodied actor (Kataja 2020)” sy’n lleihau’r cyfleoedd am awtonomiaeth o ran sicrhau rolau prin. Creodd yr unigolion a fu’n rhan o “Byw gyda...FiBrOmYalgiA” eirfa ar gyfer gweithredoedd corfforol i’w defnyddio yn ystod y rhan symud a fyddai’n addas ar gyfer yr unigolion a oedd yn cymryd rhan.

Hygyrchedd ar Waith
Roedd hygyrchedd yn cael ei gynnwys ym mhob bob agwedd o’r cynhyrchiad, o hyd y sioe i amseroedd a lleoliad y perfformiad. Roedd y perfformiadau am ddim, ac roedd yr amserlen hyblyg yn galluogi aelodau o’r gynulleidfa gydag anableddau fynychu’n gyfforddus. Ffrydiwyd y perfformiad olaf yn fyw, gan sicrhau mynediad i’r unigolion nad oeddent yn gallu mynychu'r lleoliad.

Cafodd Grace sylwadau gan un o aelodau’r cast, Esther Ridgway, ynglŷn â’i barn ar y cynhyrchiad, yn ogystal â’i phrofiad ehangach fel actor anabl. Dywedodd Esther “Roedd hi’n sioe wych i godi ymwybyddiaeth pobl o sut brofiad yw byw gydag anabledd cudd. Er bod fy anabledd yn gudd ar y pryd - nid oedd angen baglau na ffyn arnaf i gerdded fel ydw i nawr - roeddwn yn teimlo fel ffugiwr os oeddwn i’n dweud bod gennyf anabledd. Mae'r sioe hon yn helpu pobl i sylweddoli’r caledi mae pobl nad ydynt yn edrych yn anabl ond sy’n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor, yn eu dioddef. Roeddwn yn teimlo bod gweithio ar y sioe hon wedi rhoi teimlad o berthyn i mi hefyd, o allu gweithio gyda chwmni theatr a mynegi’r anghenion a oedd gennyf yn ystod ymarferion ond hefyd ar gyfer y sioe, gan sicrhau bod gennyf flancedi a chlustogau ychwanegol fel na fyddwn yn anafu fy hun. Rhoddodd y sioe a phawb a oedd yn gweithio arni y llais hwnnw i mi fel y gallaf ddweud beth sy’n gweithio i mi ac i fy nghorff, a’r hyn nad yw’n gweithio, sy’n hanfodol i mi.”

Casgliad
Mae Grace yn myfyrio ar y frwydr barhaus dros hygyrchedd a chynhwysiant o fewn y celfyddydau. Mae hi’n pwysleisio bod yr addasiadau a wnaed ar gyfer y cynhyrchiad hwn nid yn unig wedi gwella hygyrchedd, ond hefyd wedi cyfoethogi cynnwys a strwythur y perfformiad. Mae gweithio gydag unigolion creadigol anabl a chreu theatr ar gyfer cynulleidfaoedd anabl yn ehangu’r posibiliadau creadigol ac yn cynnig profiadau ystyrlon i bawb sy’n rhan o’r gwaith. Mae erthygl Grace yn dystiolaeth bwerus o bwysigrwydd hygyrchedd a chynhwysiant yn y celfyddydau. Mae’n rhoi cipolwg gwerthfawr ar ymarferoldeb a buddion gweithio gydag unigolion creadigol anabl ac yn pwysleisio’r angen am ymdrechion parhaus i sicrhau bod y celfyddydau yn hygyrch i bawb.

Darllenwch yr erthygl yn llawn.