Cynhadledd Flynyddol TAG, Prifysgol Wrecsam

Mehefin 2024

Ddiwedd mis Mehefin,  cynhaliodd Tîm Gwaith Ieuenctid a Chymuned Prifysgol Wrecsam  y Gynhadledd TAG flynyddol ar Gampws Wrecsam. TAG: PALYC yw Cymdeithas Broffesiynol y Darlithwyr mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol; sefydliad aelodaeth sy'n cynrychioli buddiannau academyddion, addysgwyr ac ymchwilwyr ym maes gwaith ieuenctid a chymunedol. 

Roedd y tridiau yn llwyddiant ysgubol, gyda’r agoriad gan Sharon Lovell, Cadeirydd Bwrdd Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru a Tim Cortney fel y prif siaradwr. Roedd yr ail ddiwrnod yn llawn sesiynau ymchwil a seminarau, i gyd ar y thema 'Reclaiming the Political Agenda: A Call for Action?'.

Sarah McEwan, Prifysgol Dundee

I gychwyn un o'r sesiynau cyfochrog, ymunodd Sarah McEwan o Brifysgol Dundee ar-lein a chyflwynodd gynrychiolwyr i 'Praxis to lunch seminars'. Soniodd Sarah am greu'r mannau hyn ar gyfer myfyrdod beirniadol, gan gyfeirio at amddifadedd mewn rhannau o Dundee a Glasgow lle'r oedd llawer o bobl yn byw mewn ardaloedd difreintiedig. Cychwynnodd y seminarau amser cinio o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Prifysgol Dundee a Chyngor Dinas Dundee i rannu ymarfer neu ymchwil gyda gweithwyr maes, rheolwyr, myfyrwyr, academyddion, sectorau gwirfoddol, a'r gymuned.

Cynhaliwyd y sesiynau hyn mewn lleoliadau cymunedol i geisio osgoi'r Brifysgol, yn enwedig gan fod y pwnc yn ymwneud ag ymarfer, Hawliau Dynol, yr Amgylchedd, Arloesi Democrataidd, a bod yn gymuned sy'n ystyriol o drawma. Roedd y sesiynau’n llwyddiannus gyda rhwng 12-20 o bobl yn bresennol. Soniodd Sarah hefyd mai’r gobaith oedd y gallai'r mynychwyr ddod i’r sesiynau a chymryd mwy o berchnogaeth ohonynt yn hytrach na chael eu harwain gan academydd.

Ymchwiliodd Sarah i effaith darparu'r gofod hwn ar gyfer myfyrdod beirniadol a gwnaeth hyn trwy gyfweld â gweithwyr maes, myfyrwyr, actifydd cymunedol, ac academyddion. Soniodd Sarah am yr anawsterau o ran gweithio gyda chymunedau heb gael eu heffeithio gan ddigwyddiadau cyfredol, a bod angen i weithwyr ieuenctid fod yn hyblyg yn eu gwaith a gweithio o fewn dilemâu eu harferion. Er ei bod yn anodd tra'n gweithio mewn sefydliadau, mae gweithwyr ieuenctid yn dal i fod yn asiantau ar gyfer newid os ydynt yn gallu meddwl yn feirniadol. Gall peryglon peidio â bod yn feirniadol arwain at golli cysylltiad â seiliau damcaniaethol cychwynnol a gall agendâu eraill gymryd drosodd. Os nad yw gweithwyr ieuenctid yn feirniadol, efallai y byddant yn ategu’r anghyfiawnderau gwleidyddol presennol. 

Dangosodd canfyddiadau'r cyfweliadau fod cael lle i drafod yn feirniadol yn bwysig, ond roedd corfforoldeb bod mewn man diogel gydag eraill yn hanfodol, yn ogystal â chael yr amser a'r lle i feddwl. Roedd ymddiriedaeth, diogelwch i siarad, amser gwarchodedig, a her gefnogol i gyd yn agweddau pwysig ar y mannau myfyrdod beirniadol hyn. Mae mannau ar gyfer y math hwn o ymgysylltiad wedi diflannu dros amser ac mae ymarfer yn cael blaenoriaeth. Soniodd rhai o’r bobl gafodd eu cyfweld nad oeddynt yn gwerthfawrogi ochr 'theori' trafodaeth a dim ond eisiau bwrw ymlaen â'u hymarfer. Yn aml, mae datgysylltiad rhwng y brifysgol ac ymarfer, a gall academyddion golli cysylltiad ag ymarfer hefyd. 

Argymhellion:

Mae angen i LE ar gyfer trafodaeth feirniadol fod yn beth rheolaidd, sydd wedi'i wreiddio’n gadarn yn ethos a diwylliant sefydliadau. Mae angen i’r lleoedd hyn fod yn anffurfiol, yn deg, yn ddiogel, a chydnabod dynameg pŵer. Dylai fod pwrpas neu fwriad i'r drafodaeth. 

Haley Sneed, Prifysgol Glasgow

Cafwyd y cyflwyniad nesaf yn y sesiwn gyfochrog hon gan Haley Sneed, o Brifysgol Glasgow a oedd yn sôn am 'Facilitating Empowerment of Youth Voice'. Cafodd y cyfnod clo effaith ar les ac mae lleisiau pobl ifanc ar goll; mae'r ymchwil hwn yn mynd i'r afael â'r bwlch yn y llenyddiaeth drwy arddangos profiad ieuenctid o safbwynt gwaith ieuenctid. 

Sut gellir cefnogi lles pobl ifanc mewn cyd-destun gwaith ieuenctid ar ôl COVID19? Gan ddefnyddio methodoleg greadigol, cafodd y bobl ifanc a oedd yn cymryd rhan gamerâu gyda chyfarwyddyd i dynnu lluniau yn eu bywydau bob dydd fel rhan o brosiect ffotovoice. Yna cafodd y lluniau hyn eu hargraffu a'u cyflwyno i sesiynau cyfweld yn cynnwys lluniau (‘photo-elicitation’) gyda'r bobl ifanc yn gweithredu fel cyd-ymchwilwyr. Hefyd, rhannodd Haley holiadur ymysg partïon â diddordeb yn cynnwys cwestiynau penagored, a chyfweliadau â phobl ifanc. Roedd cwestiynau'n cynnwys: sut gall gwaith ieuenctid gefnogi fy lles? Sut mae COVID19 wedi effeithio ar fy lles?

Canfu Haley fod iechyd meddwl yn bwnc mawr, ac fe wnaethant gymryd pob thema gychwynnol o'r data a chreu rhai galwadau i weithredu, ac fe’u cyflwynwyd i bartïon â diddordeb mewn arddangosfa, cafwyd sgyrsiau am iechyd meddwl, gweithgareddau therapi celf wedi'u hwyluso, sesiynau casglu sbwriel lleol, digwyddiadau teuluol, teithiau natur, creu grŵp ffilm, a gweithdai gwrth-fwlio – i gyd yn seiliedig ar leisiau pobl ifanc. 

Nod yr ymchwil oedd gweithio tuag at rymuso a datblygu ymwybyddiaeth drwy fyfyrio, a gwelwyd cymhelliant ac ymgysylltiad o du’r bobl ifanc. Cafwyd digwyddiad Your Voice hefyd, a gwahoddwyd busnesau lleol a 100 o bobl ifanc i fynychu, lle roedd modd iddynt gael torri eu gwallt am ddim, a mwynhau rasio VR, i enwi ond ychydig o weithgareddau. Dangosodd Hayley dri fideo gwych i'r mynychwyr am effaith eu gwaith, gan gynnwys grŵp ieuenctid iechyd a harddwch, a phantri cymunedol. 

Jess Achilleos, Uwch Ddarlithydd Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, Prifysgol Wrecsam 

Y drydedd sesiwn a'r olaf yn y slot cyfochrog hwn oedd Jess Achilleos yn cyflwyno ar 'Social Justice in Higher Edcation'. Mae Jess yn sôn am sut y bu iddi fynd i waith ieuenctid a'r cyfyng-gyngor personol o weithio mewn sefydliad breintiedig iawn. 

Gofynnodd Jess y cwestiwn: 'Sut ydym ni'n newid y diwylliant?', a arweiniodd at y syniad o ddod ag academyddion a myfyrwyr at ei gilydd i gael sgwrs am y cwestiynau moesol a moesegol hyn. Felly, dyna gychwyn Y Sgwrs. 

Mae'r Sgwrs yn brosiect parhaus sy'n darparu lle i gael sgyrsiau anodd mewn man diogel. Mae'n cyflwyno methodoleg gwaith ieuenctid i'r byd academaidd, fel addysgeg radical, oherwydd bod angen cyfiawnder cymdeithasol mewn sefydliadau AU. Mae radicalaidd yn golygu gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol a defnyddio addysg anffurfiol ac arferion gwrth-ormesol i godi ymwybyddiaeth feirniadol yw'r ffordd 'wahanol'. 

Mae'r Sgwrs yn cynnwys ffocws ar rai materion perthnasol yn y gymdeithas heddiw, gyda phob sesiwn yn canolbwyntio ar fater gwahanol, e.e., LGBTQ+, hiliaeth, ac anabledd/ableddiaeth. Mae i’r sesiwn dair rhan: y cyntaf yw gweminar, yna llyfrgell naratif, ac yn olaf myfyrdod addysgol. Mae'r sesiwn yn gwahodd bod yn agored ar gyfer sgwrs am faterion cyfoes, gan ddarparu lle i bobl allu gofyn cwestiynau na fyddent efallai'n teimlo'n ddigon diogel i'w gofyn y tu allan i'r sesiwn. Mae'n bwriadu bod yn lle diogel ar gyfer dysgu a thyfu. 

Mae Jess eisiau darganfod pa gamau y bydd mynychwyr yn eu cymryd unwaith y byddant wedi dysgu rhywbeth ac yn teimlo'n wahanol.

Yn ystod y dydd, roedd dwy set arall o sesiynau cyfochrog gyda'r siaradwyr Tracy Ramsey (Playing Politics: Is youth work a site for political education – Can it be?), Pam Alldred (Affecting Youth Research: Reanimating LGBT+ Youth Accounts), Jane Hickey (Access and Equity in the Classroon – What can Youth and Community Work education learn from the neurodiversity movement?),  John Lockhart (Making academia relevant again), ac Alex Drury (Youth Work funding review). 

Cyflwynodd Alex ymchwil ar ran tîm ymchwil ym Mhrifysgol Wrecsam, sydd wedi bod yn gweithio ar y cyd â’r Drindod Dewi Sant a Met Caerdydd ar yr adolygiad ariannu Gwaith Ieuenctid ar gyfer Llywodraeth Cymru. Yn 2022, sefydlwyd Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid i adeiladu ar waith y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Cyhoeddodd y Bwrdd ei adroddiad terfynol, 'Amser i gyflawni ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru: Cyflawni model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru'. Y pedwerydd o 14 argymhelliad y Bwrdd oedd y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad annibynnol i gyllid a gwariant ar wasanaethau gwaith ieuenctid ar draws: Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol. Mae'r adolygiad yn asesu effeithiolrwydd cyflawni canlyniadau a’r effaith ar bobl ifanc. Rhannodd y cyflwyniad hwn ganfyddiadau Cam 2 yr adolygiad, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024.

Ar ôl cinio, cafwyd gweithdai ymchwil ac ymarfer gan Simon Williams, Hayley Douglas, ac Ian Jones. 

Hayley Douglas, Uwch Ddarlithydd Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, Prifysgol Wrecsam

Cyflwynodd Hayley ‘Discourse (Dialog) and Diversity (Amrywiaeth)’ i'r cynrychiolwyr yn y gweithdy hwn; nid yw’n ymwneud â’r hyn sy’n cael ei ddweud ond yn hytrach sut mae geiriau'n cael eu defnyddio. Mae gan eiriau bŵer, ac arweiniodd Hayley archwiliad o'r 'sut'. Felly beth yw Dialog? Mae pob Dadansoddiad o Ddefnydd o Ddialog yn wleidyddol, p'un a yw hynny'n wleidyddol gyda ‘G’ fawr, e.e., gall iaith gan wleidyddion bortreadu rhywbeth mewn ffordd negyddol neu gadarnhaol, neu efallai gwleidyddol gyda ‘g’ fach sef perthnasau rhwng sefyllfaoedd goddrychol unigol i chi. Gall datgelu dialog fod yn frawychus, a dywedodd Hayley ei fod yn aml yn ddewis (a la Matrix!) rhwng cymryd y bilsen las ac aros yn anwybodus neu gymryd y bilsen goch a datgelu gwybodaeth annymunol. 

Yna, cyflwynodd Hayley gerdd o'r enw "Wheelchair" gan Lois Keith a gwahoddodd y mynychwyr i fyfyrio ar eu teimladau ynghylch yr ysgrifennu a'r iaith a ddewiswyd. Pa eiriau oedd yn sefyll allan? Sut roedd eu profiad a'u sefyllfa eu hunain yn y gwahanol hunaniaethau cymdeithasol yn effeithio ar eu darlleniad o'r gerdd? Pa drafodaethau y gallen nhw eu hadnabod? 

Ar ôl i'r mynychwyr rannu eu meddyliau a'u dehongliadau gwahanol o fod yn gorfforol abl a phrofiadau o gender, cyflwynodd Hayley ddarn o destun iddynt archwilio'r defnydd o iaith yn ofalus gan gadw mewn cof y triongl sy’n berthnasol i Ddadansoddiad o Ddialog: iaith, ymarfer a chyd-destun. Gyda nifer o gwestiynau i brocio myfyrdod, dadansoddodd y mynychwyr y dialog mewn dyfyniad o gyfweliad a oedd yn ymwneud â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a gwaith ieuenctid.

Rhoddodd y myfyrwyr adborth ar ôl iddynt archwilio'r darn, gan nodi nad oedd y sawl a oedd yn cael ei gyfweld wedi ateb cwestiwn y cyfwelydd. Roedd rhywfaint o drafodaeth ynghylch a oedd y fethodoleg dadansoddi dialog yn seiliedig ar ragdybiaethau o'r hyn y mae'r darllenydd yn meddwl y mae'r siaradwr yn ei olygu, ond mae hyn bob amser yn wir wrth ymchwilio i fodau dynol, oherwydd na allwn fyth fynd i mewn i feddwl rhywun arall. Daethpwyd i'r casgliad bod DA yn fethodoleg anodd, a chasglodd canfyddiadau'r dadansoddiad fod yr iaith a ddefnyddiwyd gan y person a oedd yn cael ei gyfweld yn wahanol i'r model grymuso gwaith ieuenctid a'i bod mewn perygl o atgyfnerthu'r anghydraddoldeb y mae'n ceisio ei herio. Yn hytrach, mae gan Weithwyr Ieuenctid y cyfle i herio'r status quo a chreu gwrth-ddialog.

Ar ddiwrnod olaf y Gynhadledd, cyflwynodd Myfyrwyr Gwaith Ieuenctid o Brifysgol Wrecsam a Nottingham Trent eu hymchwil. Rhannodd Sarah O'Mahony, a gwblhaodd ei MA mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned yn Wrecsam yr ymchwil o'i thraethawd hir. Teitl hyn oedd 'Food for Thought: What are young people’s perceptions of food insecurity and the youth work response in North-East Wales’. Amlinellodd Sarah sut mae Gweithwyr Ieuenctid yn aml ar flaen y gad o ran gweithio gyda phobl ifanc sy'n profi ansicrwydd bwyd, ond yn aml bod yr ymateb i ddarparu bwyd (trwy fanciau bwyd neu sesiynau coginio) yn cuddio craciau yn unig ar gyfer achosion sylfaenol tlodi, a bod y bobl ifanc eu hunain yn gwbl ymwybodol o hyn. Yn hytrach, roedd Sarah yn dadlau y dylai Gweithwyr Ieuenctid fod yn gweithio gyda phobl ifanc  er mwyn iddynt deimlo eu bod wedi'u grymuso a chymryd rhan mewn prosesau democrataidd i sicrhau newid gwleidyddol a strwythurol. Roedd cyflwyniadau myfyrwyr eraill yn canolbwyntio ar 'Pushing safeguarding back to the core of youth work?', 'Voice and Agency – Pushing the Political Will?', 'Alternative Methodologies – What needs to change in education?' a 'CAMHS – Currently and what next?

Dywedodd y tîm: "Cawsom ychydig ddyddiau gwych. Roedd yn beth da iawn dod ag academyddion a myfyrwyr gwaith ieuenctid at ei gilydd i drafod eu hymchwil bresennol. Roedd amseriad y pwyslais gwleidyddol yn dda gyda'r etholiad cyffredinol rownd y gornel ac ail-daniodd y drafodaeth ynghylch gwaith ieuenctid fel gorchwyl wleidyddol rymusol".

Os hoffech dderbyn y sleidiau PowerPoint o'r Gynhadledd, e-bostiwch Yasmin.washbrook@wrexham.ac.uk.