Cynhadledd Ymchwil CoMManDO 2023
Ebrill 2023
Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliodd Prifysgol Wrecsam Gynhadledd Canolfan Ymchwil CoMManDO 2023, a arweiniwyd gan yr Athro Peirianneg Awyrofod, Alison McMillan. Daeth y Gynhadledd ag ymchwilwyr a myfyrwyr o bob cwr o’r wlad, ynghyd ag UDA, at ei gilydd i drafod y datblygiadau diweddaraf o ran ymchwil mewn amryw feysydd, nid dim ond Peirianneg.
Pam fod Dogfennau’n cael eu Strwythuro fel y maen nhw?
Dydd Iau, roedd Ymchwilwyr Gwadd yn y Brifysgol a myfyrwyr o ysgol leol wedi ymuno ag Alison ar gyfer rhywfaint o weithdai ar strwythur dogfennau ac adolygu gan gymheiriaid. Dechreuodd y gweithdy gydag arolwg hanesyddol o’r modd yr oedd dogfennau’n cael eu strwythuro fel arfer, ynghyd â chyflwyno’r Dull Gwyddonol Newydd – ‘Novum Organum’ Francis Bacon a’r Gymdeithas Frenhinol.
Sefydlwyd y Gymdeithas Frenhinol, sef un o gymdeithasau gwyddonol hynaf y byd, ym 1660 yn Llundain. Daeth i fodolaeth o ganlyniad i grŵp o ddeallusion, oedd yn cynnwys gwyddonwyr, mathemategwyr ac athronwyr, a ddechreuodd gyfarfod yn rheolaidd i drafod syniadau a rhannu eu gwybodaeth. Nod y grŵp oedd mynd ar drywydd gwybodaeth wyddonol a hyrwyddo gwyddoniaeth er budd y ddynoliaeth. Yn gyflym iawn, roedd y gymdeithas wedi ennill ei bri, gan ddenu rhai o feddylwyr mwyaf galluog y cyfnod, a rhoddwyd statws siartredig brenhinol iddi gan y Brenin Siarl II - roedd hyn wedi cyfreithloni gwyddoniaeth fel maes astudio ac yn dangos cefnogaeth y frenhiniaeth.
Fe aeth Alison ymlaen wedyn i lywio’r gweithdy yn ôl i’r presennol, ac eglurodd y dulliau gorau o ysgrifennu a ffurfio erthyglau, sef trwy ddefnyddio geiriau allweddol hanfodol o’r teitl, blaenoriaethu’r brawddegau pwysicaf a chael gwared â rhai diangen, a pheidio â drysu rhwng ‘celf flaenorol’ a gwybodaeth a chanfyddiadau newydd. Er enghraifft, mae adolygiadau o lenyddiaeth ynghyd â methodoleg yn crynhoi ac yn ailadrodd beth mae rhywun arall wedi’i wneud yn flaenorol, tra bo’r adrannau canlyniadau’n cyflwyno’r ffeithiau newydd, ac mae’r drafodaeth ar y diwedd yn ymwneud â barn, a mynegi eich dehongliad o’r ffeithiau ar sail gwybodaeth.
Dywedodd Dr Emma Harrison, Rheolwr Effaith Ymchwil, fu’n bresennol yn y gweithdy:
"Roedd Alison wedi fframio’r gwahanol rannau o fewn erthygl cylchgrawn mewn modd mor rhesymegol, fel y byddwn wirioneddol yn argymell pobl i gymryd golwg ar y sleidiau os nad ydyn nhw’n sicr ynglŷn â beth y dylid ei gynnwys ym mha ran o bapur academaidd.”
Nid y Gelyn yw Adolygwyr Cymheiriaid!
Fe aeth y gweithdy nesaf i’r afael ag adolygiadau gan gymheiriaid. Mae rhai pobl yn eu casáu, gan fod cael eich gwrthod dro ar ôl tro yn gallu digalonni pobl, ond roedd y sesiwn hon yn rhoi sylw arbennig i’r modd y gellir mabwysiadu safbwynt gwahanol.
Mae adolygiad gan gymheiriaid yn darparu procsi ar gyfer y gynulleidfa arfaethedig, ac felly, os nad yw’r adolygwyr cymheiriaid yn deall gwahanol rannau o’ch papur, mae’n annhebygol y byddai eich cynulleidfa arfaethedig yn eu deall. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i chi wella eich gwaith a’r modd yr ydych yn cyfathrebu, a dyna holl bwrpas cyhoeddi ymchwil! Mae cyhoeddi’n wahanol i gyflwyno digwyddiad, lle gallwch gael adborth uniongyrchol, a gall pobl ofyn am eglurhad. Mewn darn o waith ysgrifenedig, mae darllenwr yn gallu cnoi cil dros ystyr rhywbeth ond heb unrhyw fodd ymarferol o ofyn i’r awdur ‘beth yn union oeddech chi’n ei olygu?’
Mae Alison yn awgrymu na ddylem feddwl gormod am sylwadau’r adolygwyr a chofio eu bod yn ceisio bod yn drylwyr a defnyddiol. Pwrpas adborth yw helpu i newid papur da i fod yn bapur ardderchog. Rydych eisiau teimlo eich bod mor falch o’r papur hwnnw ag y gallwch fod, ac y byddwch yn meddwl amdano mewn 20 mlynedd gan wybod eich bod wedi gwneud eich gorau glas.
Y Brif Gynhadledd
Yn y prynhawn, roedd Dr Salim Miah, o Brifysgol Swydd Hertford, sydd hefyd yn Ymchwilydd Gwadd ac yn gynfyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Wrecsam, wedi dechrau’r sesiynau cyflwyno gyda thrafodaeth ddiddorol iawn ynghylch Ymchwilio i Adfer Olew gan ddefnyddio Disgiau Tro. Mae gollyngiadau olew yn creu problemau sylweddol a dinistriol o safbwynt yr amgylchedd a’r ecosystem, ac yn anffodus, mae angen dyfais arloesol ar fyrder ar gyfer gwaith glanhau.
I ddilyn, fe gafwyd Elena Cassidy-Smith, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Wrecsam, yn mynd i’r afael â thestun amser, ynghyd ag archwiliad o’n profiadau o amser mewn gwahanol sefyllfaoedd. Mae Elena wrthi’n gwneud PhD ar sail ymarfer, ac mae’r gwaith yn archwilio’r modd y mae celf, ffiseg, athroniaeth a chymdeithas yn croestorri, gan geisio herio’r syniadau cyffredin yng nghyswllt amser. Roedd Elena hefyd wedi dod yn ail yn ein cystadleuaeth Ymchwil Delweddu eleni, ac fe gynhwyswyd y ddelwedd a enillodd y wobr yn y cyflwyniad ar gyfer y gynhadledd.
Nesaf, roedd y myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Wrecsam, Robert Kingstone, wedi rhoi sgwrs gryno a chraff ynghylch y Rhyngrwyd Pethau. Nod Robert yw creu ysgol fyd-eang ar gyfer asiantau atgyfnerthu dysgu (mathau o Ddeallusrwydd Artiffisial) y gellir eu hyfforddi i sicrhau bod ein dyfeisiau’n fwy diogel, gan ei bod yn eithaf hawdd dwyn data ohonynt ar hyn o bryd.
Ein cyflwynydd olaf yn y gynhadledd oedd Dr Mark Jahanbin, Cymrawd Diwydiannol Gwadd ym Mhrifysgol Wrecsam. Eglurodd Mark yr ymchwil presennol o ran gwella diogelwch ym maes awyrofod yng nghyswllt monitro iechyd strwythurau, er enghraifft, dulliau methiant cyrff awyrennau ynghyd â lludded, gyda’r nod o leihau damweiniau. Mae honiadau o ddiogelwch yn seiliedig ar gyfrifiadau risg tebygoliaethol ar gyfer dulliau rhagweld risg derbyniol.
Darlith Gyda’r Nos a noddwyd gan y Sefydliad ffiseg, Cymru.
Cyflwynodd Dr Vincent Smith, o Brifysgol Bryste, ddarlith o’r enw, ‘Who needs the Higgs Boson?’ Amlinellodd Vincent y model mater safonol, gan egluro’r atomau, protonau, cwarciau a gronynnau eraill ochr yn ochr â phedwar grym ffiseg. Fe aeth Vincent ymlaen wedyn i drafod arwyddocâd Higgs Boson o safbwynt cwblhau model safonol ffiseg gronynnau. Gronyn isatomig yw’r Higgs Boson, y damcaniaethwyd yn ei gylch gyntaf yn y 1960au gan y ffisegwr Peter Higgs, ac mae’n chwarae rôl hanfodol o ran egluro’r modd y mae gronynnau’n ennill màs. Roedd Gwrthdrawydd Mawr Hadron wedi darganfod yr Higgs Boson yn 2012, a oedd yn garreg filltir arwyddocaol ym maes ymchwil ffiseg gronynnau. At ei gilydd, roedd darlith Vincent wedi taflu goleuni diddorol iawn ar fyd ffiseg gronynnau, ynghyd â phwysigrwydd Higgs Boson o ran cwblhau ein dealltwriaeth o gonglfeini sylfaenol y bydysawd.
Cynhadledd dydd Gwener
Roedd yr ail ddiwrnod yn parhau gyda phrif sesiynau’r gynhadledd, gyda rhagor o Athrawon Gwadd, myfyrwyr PhD, ynghyd ag academyddion allanol a oedd yn gwneud cyflwyniadau ar amrywiaeth eang o destunau, o fathemateg gymhwysol, cyfrifiadureg, a chyfansoddau, i ffigyrau hanesyddol ym maes trydan, peirianneg, celf ac addysgeg.
Siaradodd Dr Raj Nangia am effeithiau amrywiadau bach yn nyluniad patrwm traws-sonig adenydd awyrennau ymladd ar effeithlonrwydd a sefydlogrwydd gweithredu ar bob cyflymder is-sonig ac uwchsonig.
Fe’i dilynwyd gan y myfyriwr PhD cyfrifiadureg, Alexander Bruckbauer, y mae ei ymchwil yn brosiect dyngarol sy’n cefnogi’r gallu i glirio ffrwydron. Disgrifiodd arbrawf ffisegol oedd yn defnyddio protocolau ar gyfer gosod ffrwydron gwrthbersonél i gasglu data hyfforddi ar gyfer ei ymchwil ym maes Dysgu Peirianyddol yng nghyswllt rhagweld lleoliad ffrwydron.
Rhoddodd Dr Andre Batako (John Moores Lerpwl) gyflwyniad ar ei ymchwil ynghylch peiriannu deunyddiau sy’n anodd i’w peiriannu. Eglurodd effeithiolrwydd ei broses sy’n defnyddio dirgryniadau yn nhermau creu ardrawiadau niferus lleoledig.
Siaradwr olaf sesiwn y bore oedd Dr Vincent Smith, a roddodd safbwynt hanesyddol ar fywyd a gwaith Volta, Ampere, ac Ohm, y mae eu henwau’n gysylltiedig heddiw ag unedau trydanol, sef Foltiau, Amperau ac Ohmau.
Ar ôl cinio, fe siaradodd yr Athro Gwadd, Jonathan Blackledge, ynghylch damcaniaeth gwasgaru tonnau, a chyflwynodd y broblem o symiant dros dermau lluosog o radd uwch. Cyflwynodd ddull oedd yn rhoi ateb cywir o dan amodau penodol.
Rhoddodd Dr Paul Jones (PGW) safbwynt artist ar y datblygiadau ym maes technoleg recordio sain a gweledol. O’r safbwynt peirianyddol a thechnegol, mae pob datblygiad yn “welliant”, ond mae effaith y ddelwedd neu’r sain ar y syllwr neu’r gwrandäwr dynol yn wahanol.
Ar ôl darlith y myfyriwr PhD o John Moores Lerpwl, Ning Yan, fe gafwyd cryn drafod anffurfiol ynghylch cyfranogiad myfyrwyr a manteision ac anfanteision dysgu hybrid.
Roedd sesiwn yr Athro Ardeshir Osanlou yn adlewyrchu natur ryngddisgyblaethol y gynhadledd, oedd wedi dangos yn glir i bawb a oedd yn bresennol y modd y mae celfyddyd a pheirianneg yn cydweithredu â’i gilydd.
Dywedodd Jack Birch, Gweinyddwr Ymchwil fu’n bresennol yn y sesiynau ar y dydd Gwener:
“Roedd y trafodaethau a gafwyd yn sgil y darlithoedd ddydd Gwener wedi’n bywiogi. Roedd yn rhywbeth mor bositif cael gweld y modd yr oedd natur ryngddisgyblaethol y gynhadledd yn helpu i feithrin dulliau amrywiol a newydd o fynd i’r afael â phroblemau allweddol, heddiw ac at y dyfodol.”
Dywedodd yr Athro Alison McMillan:
“Roedd Gweithdy a Chynhadledd CoMManDO yn darparu cyfle i Ymchwilwyr Glyndŵr Wrecsam gyfarfod â chynfyfyrwyr, Ymchwilwyr ac Athrawon Gwadd, ynghyd â chydweithwyr o brifysgolion cyfagos, i rannu gweithgareddau ym maes ymchwil. Cawsom fwynhau dysgu mewn modd trawsddisgyblaethol, pryd cafodd ein canfyddiadau eu herio gan nifer o safbwyntiau gwahanol iawn.”
Roedd y ddau ddiwrnod yn llwyddiant ysgubol, ac rydym yn edrych ymlaen at gael gwahodd bob un ohonoch yn ôl y flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, os hoffech ddod yn aelod o Ganolfan Ymchwil CoMManDO, anfonwch e-bost at Alison i fynegi eich diddordeb a.mcmillan@glyndwr.ac.uk.