Diwrnod yn y Senedd

view from the senedd steps of a big wheel

Ym mis Mai, fe wnes i gymryd trên uniongyrchol i Gaerdydd a mynd draw i’r Senedd. Mae Jayne Rowe, Rheolwr Effaith FACE, a minnau, Rheolwr Effaith SALS, yn rhan o rwydwaith newydd o reolwyr effaith a lledaenwyr gwybodaeth o brifysgolion yng Nghymru, sef Y Twndis. Roedd y diwrnod yn gyfle i gwrdd â phobl wyneb yn wyneb o’r diwedd, gan mai dim ond mewn blychau Microsoft Teams roeddem wedi gweld ein gilydd cyn hynny.

a person in a raincoat taking a selfie outside the senedd

Ar ôl mynd drwy wiriad diogelwch tebyg i’r rhai a geir mewn maes awyr yn y fynedfa, arhosais yn y cyntedd hardd, mawreddog. Am 10am, fe wnaeth Dr Sarah Morse—Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth sydd wedi’i chomisiynu i weithio yn y Senedd, a’r meddwl y tu ôl i Y Twndis - gyrraedd i gyfarch pawb. Roedd yn teimlo ychydig fel ôl-fflach COVID, wrth sylwi cymaint talach yw pawb mewn bywyd go iawn!

Mae'r Senedd yn un o'r seneddau mwyaf cynaliadwy a chynhwysol yn y byd. Wedi’i hadeiladu â deunyddiau gwydn ac yn gwbl ddwyieithog, mae hefyd yn paratoi ar gyfer newidiadau mawr; yn 2026, bydd system bleidleisio newydd yn cynyddu nifer yr Aelodau fesul ardal i chwech, yn seiliedig ar y boblogaeth. Maent yn gweithio ar hyn o bryd ar ymestyn siambr y cyfarfod llawn ar gyfer hyn.

Fel rhan o’n hymweliad, roedd Sarah wedi trefnu i ni fynd i un o gyfarfodydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol (ydy, mae'n llond ceg). Aethom yn ddistaw bach i’r oriel gyhoeddus gyda’n pecynnau cyfieithu ac edrych i lawr ar gyfarfod y pwyllgor. Cawsom hyd yn oed y fraint o gael Gareth Davies AS yn codi llaw arnom. Roedd Mick Antoniw AS yno hefyd. Cadeiriwyd y cyfarfod - yn rhagorol - gan Delyth Jewell AS. Roedd y newid rhwydd rhwng y Saesneg a’r Gymraeg yn ddifyr iawn i’w wylio, ac fe wnaeth y cyfieithwyr yn fy nghlustffonau gael hwyl dda iawn ar ddal i fyny.

Ar y pryd, roedd y Pwyllgor yn clywed gan Brif Swyddog Gweithredol Visit Britain a Phennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, a oedd yn rhoi tystiolaeth ar Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru. Yn gynharach y diwrnod hwnnw, roedd yr Athro Siraj Shaikh, academydd diogelwch systemau o Brifysgol Abertawe, wedi siarad fel arbenigwr technoleg. Rôl y Pwyllgorau yw casglu tystiolaeth a chraffter ar faterion cyfredol - dim byd brawychus! Nid yw’n wahanol iawn i gyflwyno mewn cynhadledd ac ateb ychydig o gwestiynau eglurhaol. Nid yw'r aelodau yno i’ch croesholi; maent yno i ddysgu.

Mae pwyllgorau’n cynnwys Aelodau o bob pen o’r sbectrwm gwleidyddol, ond nid gwleidyddiaeth bleidiol yw’r nod. Yn hytrach, maent yn dod â phobl sydd â diddordebau cyffredin ynghyd ac yn gweithio tuag at newid cadarnhaol.

Gall academyddion gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i alwad Pwyllgor neu Faes o Ddiddordeb Ymchwil gan ddefnyddio arweiniad gan y Senedd. Os ydych chi’n arbenigwr neu ag ymchwil perthnasol, dyma un o’r ffyrdd mwyaf uniongyrchol o gael eich gwaith gerbron y rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Sicrhewch fod eich cais yn fyr, yn hygyrch, ac i'r pwynt - peidiwch â thrafod y fethodoleg ac ewch yn syth i sôn am y canlyniadau, y casgliadau, a’r goblygiadau. Gall ymchwilwyr seneddol edrych drwy gannoedd o gyflwyniadau i baratoi briffiau ar gyfer Aelodau ac adroddiadau cryno ar gyfer y wefan.

Mae Aelodau Pwyllgor yn cael yr holl dystiolaeth grai, ond mae'n annhebygol y byddant eisiau mynd drwy ddogfennau hirwyntog. Swyddogion etholedig yw’r rhain - maent eisiau’r ffeithiau, ac maent eisiau nhw nawr.

Gall academyddion hefyd gael eu gwahodd i roi tystiolaeth ar lafar, fel yr Athro Shaikh. Mae hyn yn golygu mynychu cyfarfod o’r Pwyllgor a hynny, o bosibl, gyda thystion eraill. Gallwch ofyn iddynt eich rhoi ar ben ffordd ymlaen llaw (yn syml, cael syniad o’r hyn y byddant yn ei ofyn), sy’n helpu o ran paratoi. Ac os nad ydych yn gwybod yr ateb i rywbeth? Mae’n hollol iawn dweud hynny - nid viva ydyw. Gallwch hyd yn oed awgrymu rhywun arall a allai wybod.

Pe byddai’n well gennych beidio â mynychu wyneb yn wyneb, mae hynny’n berffaith iawn. Bydd ymchwilwyr y Senedd yn dal i grynhoi'r dystiolaeth ysgrifenedig yn grynodeb ar gyfer y pwyllgor a bydd yn dal i ymddangos yn yr adroddiad ar y wefan.

Gallai rhoi tystiolaeth yn y Senedd fod yn ddechrau taith hir – rhaid i academyddion roi ystyriaeth ddilynol i ble mae’r dystiolaeth wedi arwain yr Aelodau. Os yw’r dystiolaeth yn arwain at argymhellion mae’r Llywodraeth yn eu mabwysiadau, mae’n ymchwil dylanwadol, o safon uchel.

Gall unrhyw un eistedd yn oriel gyhoeddus Pwyllgor neu Gyfarfod Llawn. Felly, os ydych yn awyddus i wybod sut mae pethau’n gweithio ond ddim yn barod eto i fynd amdani, archebwch sedd (dair wythnos ymlaen llaw). Ac os cewch eich gwahodd i roi tystiolaeth, beth am fynd â’ch tîm ymchwil gyda chi i wylio? Mae Caerdydd yn lle da iawn i fynd am y diwrnod!

📷 Sarah Morse

Members of y twndis standing outside the senedd building

Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor, daeth aelodau Y Twndis at ei gilydd mewn ystafell breifat i ystyried beth yw’r ffordd orau o gefnogi academyddion a wahoddir i fod yn dystion. Cawsom gwmni Chloe Corbyn (nid yw’n perthyn i Jeremy - fe holais), sy’n Arweinydd Cyfnewid Gwybodaeth, hefyd wedi’i chomisiynu gan y Senedd.

Yn naturiol, uchafbwynt y diwrnod oedd y cinio. Cawsom fwyd yn ffreutur y Senedd, gan gymysgu gyda phwysigion dros fwyd a oedd, er syndod, yn ddigon rhad a blasus, ac addas ar gyfer bob deiet. Ar ein ffordd allan, gwelsom gip o’r Prif Weinidog, Eluned Morgan, hyd yn oed.

Cawsom wrando ar ran o Gyfarfod Llawn hefyd - sef cyfarfod ar gyfer bob un o’r 60 o Aelodau, a gynhelir ar brynhawniau Mawrth a Mercher. Gwnaethom wrando ar Jane Hutt AS yn ymateb i ddyfarniad diweddar y Goruchaf Lys ar y “diffiniad o fenyw” - testun perthnasol iawn o fy safbwynt i. Cafwyd trafodaeth danbaid, gydag iaith llawn emosiwn a geiriau digon hallt ar brydiau. Roedd yn ddiddorol bod yn dyst i’r drafodaeth, ond yn eithaf heriol ei dilyn ar brydiau.

I orffen, aeth tywysydd cyfeillgar â ni o gwmpas yr adeilad, yna roedd hi’n amser cael tacsi yn ôl i’r orsaf, ar ôl cael llun i gofio, wrth gwrs!

Ar y cyfan, roedd yr awyrgylch yn y Senedd yn groesawgar iawn. Mae’n rhyfedd meddwl ei bod hi mor hawdd i’r cyhoedd fynd i adeilad mor bwysig â hwn. Byddwn i’n ei argymell yn gryf - p’un a ydych eisiau mynd am sbec, eisiau mynd am goffi i fyny’r grisiau, neu’n ystyried gwylio/cyfrannu at Bwyllgor neu Gyfarfod Llawn. Ewch tua Chaerdydd!

Os oes gennych ddiddordeb, bydda i a Jane yn cynnal sesiwn hyfforddiant ar y pwnc hwn yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf - felly cadwch eich llygaid ar agor.

Dr Emma Harrison, Rheolwr Effaith Ymchwil; Cymrawd Ymchwil mewn Seicoleg.