Enwau o amglylch y campws - pwy oedden nhw?
Mae cymaint o enwau yn gyfarwydd inni wrth gerdded o amgylch campws Prifysgol Wrecsam. Tra eich bod chi’n gwybod efallai ble mae Theatr Nick Whitehead, wyddoch chi pwy oedd o? Dyma ichi ‘pwy yw pwy’ ar gyfer enwau ein hadeiladau.
Theatr Nick Whitehead – Pwy oedd Nick Whitehead?
Ganed Neville Joseph 'Nick' Whitehead ym Mrymbo, Wrecsam ar 29ain Mai 1933. Fel gwibiwr roedd yn rhan o dîm cyfnewid 4 x 100 metr Prydain Fawr a enillodd y fedal efydd yng ngemau Olympaidd Haf 1960 yn Rhufain a Gemau’r Gymanwlad yn Perth, Awstralia yn 1962.
Roedd yn ddarlithydd Addysg Gorfforol yng Ngholeg Hyfforddiant Corfforol Carnegie Leeds, sydd bellach yn rhan o Brifysgol Metropolitan Leeds, ac ymhen amser daeth yn Gyfarwyddwr Datblygu gyda Chyngor Chwaraeon Cymru (Chwaraeon Cymru heddiw). Derbyniodd OBE ym 1985.
Yn 2001 cydnabuwyd ei gyfraniad i chwaraeon lleol pan wnaeth Prifysgol Glyndwr Wrecsam ef yn Gymrawd Anrhydeddus. Cynorthwyodd gyda’r gwaith o ddatblygu’r gyfadran chwaraeon yn y brifysgol ac yn dilyn ei farwolaeth yn 2002, fe enwyd y theatr ddarlithio er cof amdano.
Llyfrgell Goldstein – Pwy oedd Leonard Goldstein?
Ganed Leonard Goldstein yn Brooklyn, Efrog Newydd, yn 1922, ac fe astudiodd ym Mhrifysgolion Iowa a Wisconsin cyn dyfodiad yr Ail Ryfel Byd. Roedd yn un o’r milwyr cyntaf i fynd i mewn i Nagasaki ar ôl gollwng y bom niwclear, profiad a arhosodd gydag ef gydol ei oes.
Yn dilyn y rhyfel fe astudiodd ar gyfer MA ym Mhrifysgol Washington, gyda PhD yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Brown, Providence, Rhode Island. Oherwydd ei ddaliadau adain chwith, gwnaeth McCarthiaeth hi’n anodd iddo weithio fel academydd yn yr UDA .
Yn 1960 gadawodd yr UDA gan ymgartrefu yn ninas Berlin, yn hen Ddwyrain yr Almaen ac fe fu’n dysgu Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Potsdam hyd nes ei ymddeoliad yn 1987.
Symudodd gyda’i wraig Marilou i Kentish Town ar ddechrau’r 1990au gan aros yno weddill ei oes.
Cyfarfu cyn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol, Michael Scott gyda’r Athro Goldstein sawl gwaith tra’n byw yn Llundain ac fe benderfynodd Goldstein adael ei lyfrgell i’r brifysgol.
Adnewyddwyd hen hostel Plas Coch i fod yn gartref i’r rhodd ganddo, sydd yn cynnwys 13,000 o lyfrau, yn lenyddiaeth a hanes cymdeithasol a gwleidyddol gan fwyaf, ond gan gynnwys testunau ar bynciau mor amrywiol â ffotograffiaeth, pensaernïaeth, ffuglen trosedd, diwinyddiaeth ac athroniaeth. Mae tua traean o’r casgliad mewn Almaeneg.